Ymgolli yn yr iaith a’r diwylliant trwy'r Ysgoloriaeth Ryngwladol yn Tsiena
4 Ionawr 2024
Ar hyn o bryd, mae’r myfyriwr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, Benjamin Miller, yn ymgymryd â blwyddyn o brofiad yn Tsieina yn dilyn sicrhau ysgoloriaeth gan Brifysgol Xiamen.
Gydag argymhelliad gan yr Athro Benlan Ye, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Confucius Caerdydd, gwnaeth Benjamin gais am Ysgoloriaeth Athrawon Rhyngwladol ym maes yr Iaith Tsieinëeg ym mis Ebrill 2023.
Dywedodd Benjamin: "Ar ôl dilyn fy HSK 4 [Mae Hanyu Shuiping Kaoshi yn brawf hyfedredd yn y Tsieinëeg], fe ddeallais bwysigrwydd trochi fy hun i wella fy hyfedredd ymhellach. Roeddwn i’n deall hefyd, trwy fanteisio ar y cyfle hwn, y byddwn yn cael ystod eang o brofiadau na fyddwn wedi cael eu profi yn ail flwyddyn fy ngradd yn yr un modd. Ar yr un pryd, byddai'n fy rhoi mewn gwell sefyllfa i sicrhau perfformiad o ansawdd uwch yn y dyfodol yng Nghaerdydd ac i gael rhagor o fewnbwn o ran cyfeiriad fy astudiaethau. Roedd hi’n bosib oedi fy ngradd am flwyddyn, ond mae angen cymryd cyfleoedd eraill ar yr union adeg y maent yn dod i’r amlwg."
Dywed Benjamin fod pethau’n mynd yn dda hyd yn hyn, ac mae'n teimlo bod ei lefel yn y Dsieinëeg Mandarin wedi gwella'n sylweddol. Mae hefyd yn credu fod ganddo lawer yn fwy o hyder wrth gyfathrebu nag o'r blaen: "Mae nifer o heriau y bydd pob myfyriwr rhyngwladol yn eu hwynebu ond y brif wers y gallaf ei chymryd o’r profiad hwn yw dyfalbarhau ac ymdrechu bob amser i ddod o hyd i atebion i unrhyw bryderon, bydd yn gwneud i chi deimlo cymaint yn rhagor o ryddhad yn yr hirdymor."
"Bydd trochi naturiol yn amhrisiadwy bob amser; mae nifer o agweddau pellach i'w deall wrth fyw yn yr amgylchedd hwn, o gymharu â darllen amdano'n unig, yn enwedig wrth gymharu sgwrs a’r ffordd y defnyddir geiriau mewn gwerslyfr â realiti’r cenedlaethau iau."
I'r rhai sy'n ystyried gwneud cais am ysgoloriaeth, y cyngor gan Benjamin yw "... amynedd piau hi. Mae cryn aros rhwng cael eich derbyn i'r brifysgol a chael newyddion ynghylch y dyfarniad, ond os ydych chi'n angerddol am wella eich gallu yn yr iaith Tsieinëeg mae'n gyfle heb ei ail. Po gynharaf y byddwch yn gwneud cais wedi i chi ddechrau ar y dysgu, y mwyaf o fudd y bydd hyn yn ei roi o ran eich astudiaethau. Gallwch edrych ar chinese.cn i gael rhagor o fanylion."
Dyma fideo o Benjamin yn siarad am ei brofiad yn Tsieina.
Dywedodd yr Athro Ye: "Mae Ysgoloriaethau Athrawon Rhyngwladol ym maes yr Iaith Tsieinëeg yn cefnogi’r sawl sy’n athrawon ym maes y Tsieinëeg neu'r rhai sy'n dymuno dechrau gyrfa yn y maes hwn ac yn cynnig cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ymchwilio’n ddyfnach i ddiwylliant Tsieina, ac i ddeall a dysgu'r iaith ar lefel uwch, a phrofi bywyd yn Tsieina. Disgwylir i fyfyrwyr fod â sylfaen gref yn yr iaith cyn ymgeisio, ac yn ystod yr ysgoloriaeth bydd eu rhaglen radd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei hoedi."
Mae nifer o ysgoloriaethau a chynlluniau a ariennir ar gael ar gyfer bod o gymorth o ran astudio ac interniaethau yn Tsieina. Mae'r rhain yn amrywio o leoliadau tymor byr a gwersylloedd dros yr haf i ysgoloriaethau llawn at ddibenion astudio ar gyfer graddau Meistr a PhD. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Chyllid Sefydliad Confucius Caerdydd.
Ebostiwch Sefydliad Confucius Caerdydd ar confucius@caerdydd.ac.uk os ydych yn ystyried gwneud cais am unrhyw un o'r ysgoloriaethau hyn neu os oes gennych gwestiynau yr hoffech eu gofyn.