Ewch i’r prif gynnwys

Staff Prifysgol Caerdydd yn treulio Dydd Nadolig yn gwirfoddoli gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

21 Rhagfyr 2023

A decorated Christmas tree

Bydd aelodau o staff y Ganolfan ymchwil CASCADE Prifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn treulio eu Dydd Nadolig yn gwirfoddoli â'r rheiny a fyddai fel arall ar eu pennau eu hunain.

Gan gynnal cinio Nadolig gyda’r holl drimins, bydd gwirfoddolwyr yn darparu diwrnod a hanner i’r unigolion hynny sy’n gadael gofal yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Er mwyn paratoi at ddyfodiad 25 Rhagfyr, treuliodd gwirfoddolwyr heddiw yn lapio anrhegion ac yn cynllunio gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc o Gaerdydd a’r rheiny sy’n byw o fewn radiws 30 milltir o’r ddinas. Roedd yna alw eleni am bobl ifanc sy'n byw ymhellach i ffwrdd gael dod i’r digwyddiad.

Dyma a ddywedodd un o’r trefnwyr, Lorna Stabler:

Gwyddom fod yna ddigon o bobl ifanc eraill mas yna na allwn nhw ddod oherwydd eu bod nhw’n byw yn rhy bell i ffwrdd, felly ein nod yw ysbrydoli a sefydlu mwy o ddigwyddiadau y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau na fydd unrhyw berson ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru ar ei ben ei hun dros y Nadolig.

A scattered group of people waving and smiling at the camera

Yn sgîl y llynedd, bydd grŵp o wirfoddolwyr sydd â gwybodaeth am anghenion pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau y bydd llai o oedolion ifanc ar eu pennau eu hunain ar Ddydd Nadolig.

Eleni, disgwylir y bydd hyd at 40 o westeion yn bresennol.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn byw mewn gofal maeth, gofal gan berthynas neu gartrefi i blant pan fyddant yn tyfu i fyny a gallant fod yn fwy tebygol o brofi ynysigrwydd cymdeithasol yn oedolion.

Maent ddwywaith mor debygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig y rhan fwyaf neu'r cyfan o'r amser na phobl ifanc eraill yn y boblogaeth gyffredinol.

People wrapping Christmas presents

Mae’r cinio a’r gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan giniawau tebyg mewn amrywiaeth o ddinasoedd yn Lloegr.

Dechreuwyd y mudiad gan y bardd enwog Lemn Sissay, sydd wedi ysgrifennu'n helaeth am ei brofiadau ei hun o dyfu i fyny mewn gofal.

Meddai Ffion, y gwirfoddolwr ieuengaf a fu’n 15 oed yn unig pan gymerodd hi ran y llynedd:

"Roeddwn i wrth fy modd yn gwirfoddoli dros Ddydd Nadolig. Roedd yn wych cael cwrdd â'r bobl ifanc; fe wnaethon ni sgwrsio, chwarae gemau a gwneud celf a chrefft. Roedd y cinio Nadolig yn flasus a'r peth gorau oedd gwylio pawb yn agor eu hanrhegion. Byddaf i'n bendant yn cymryd rhan eto eleni!"

Bydd y gwesteion yn cael anrhegion a swper ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sbri yn ystod diwrnod hwyliog o gwmnïaeth.

Rhagor o wybodaeth am CASCADE ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

People wrapping Christmas presents

Rhannu’r stori hon