Ewch i’r prif gynnwys

Problemau emosiynol ymysg pobl ifanc wedi bod ar gynnydd chwim, hyd yn oed cyn y pandemig

20 Rhagfyr 2023

Family playing in forest

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc â phroblemau emosiynol yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn y pandemig, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Wedi'i gyhoeddi yn Journal of Child Psychology and Psychiatry, fe wnaeth academyddion astudio data a gasglwyd oddi wrth fwy na 200,000 o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru. Mae'r canlyniadau, sy'n cymharu ymatebion a gasglwyd rhwng 2013 a 2019, yn dangos bod y nifer sy’n ei chael hi’n anodd delio â symptomau emosiynol sy’n gysylltiedig â gorbryder neu iselder yn cynyddu gyda threigl amser, gyda chyfran y bobl ifanc gyda’r niferoedd uchel o broblemau emosiynol yn codi o 23% i 38% dros gyfnod o chwe blynedd. Ymhlith y symptomau emosiynol a adroddwyd yn yr arolwg mae: teimlo'n isel, yn llidiog, yn bryderus, a phrofi anawsterau cysgu.

Roedd gan ferched a phobl ifanc o gefndiroedd llai cefnog fwy o broblemau emosiynol, yn ôl y dadansoddiad, lle gwelwyd bwlch cynyddol yn yr anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes mewn symptomau emosiynol yn ystod y cyfnod hwn.

Dengys bod ansawdd cyfeillgarwch a phrofi bwlio o ba bynnag math â chyswllt cryf â phroblemau emosiynol uwch ym mhob un o'r tri arolwg, ond nid oedd y tueddiadau hyn yn egluro’r cynnydd sydyn a welwyd o ran problemau emosiynol dros amser.

Yn ôl yr awdur arweiniol, Dr Rebecca Anthony, o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) Prifysgol Caerdydd a’r Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc: “Mae'r astudiaeth hon yn rhoi tystiolaeth inni ar y cynnydd sylweddol mewn problemau emosiynol a welir ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd llai cyfoethog.

“Mae’r canlyniadau hyn yn peri pryder, yn enwedig wrth wybod mai ymchwilio i’r symptomau emosiynol a brofwyd gan bobl ifanc cyn pandemig COVID-19 yw testun y papur hwn. Dangosa’r dystiolaeth fod y pandemig a'r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig ag ef wedi achosi niwed mawr i iechyd meddwl pobl ifanc. Dengys ein data ba mor fregus oedd y sefyllfa o ran iechyd meddwl a lles pobl ifanc hyd yn oed cyn y pandemig.

“Mae ein canfyddiadau'n taflu goleuni ar yr angen cynyddol am ymdrech go iawn i geisio atal problemau emosiynol yn ein cymdeithas, a rhoi gwell cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n dod o deuluoedd llai cefnog. Bydd ymchwil pellach sy’n mynd i'r afael â'r problemau cynyddol hyn yn hanfodol bwysig wrth inni symud ymlaen o’r pandemig.”

Gwnaeth yr astudiaeth ddefnyddio data o Ymddygiad Iechyd Cymru mewn Plant Oed Ysgol (HBSC) 2013 ac arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn 2017 a 2019.

Cyhoeddwyd Trends in adolescent emotional problems in Wales between 2013 and 2019: the contribution of peer relationships, yn y Journal of Child Psychology and Psychiatry ac mae ar gael i'w ddarllen ar wefan yr Association for Children and Adolescent Mental Health (ACAMH).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.