Ewch i’r prif gynnwys

Yn ôl academyddion, mae’n bosibl y bydd ymddiriedaeth mewn brandiau yn cael ei herydu wrth i ymwybyddiaeth o gamwybodaeth gynyddu

6 Rhagfyr 2023

Dwylo ar liniadur gyda cherdyn credyd a goleuadau aneglur yn y cefndir

Mae’n bosibl bod camwybodaeth yn cael effaith ar ddefnyddwyr wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau.

Adolygodd academyddion o Brifysgol Caerdydd aStanford yr ymchwil farchnata gyfredol a oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau lledaenu camwybodaeth, gan gyhoeddi eu canfyddiadau yn y cyfnodolyn Current Opinion in Psychology.

Mae'r tîm yn gwahaniaethu rhwng camwybodaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol. Ymhlith y mathau o gamwybodaeth uniongyrchol sy'n gysylltiedig â brandiau y mae newyddion ffug, pan fydd gwybodaeth ffug yn cael ei dosbarthu'n fwriadol ar-lein a’i bwriad yw dynwared fformat ffynonellau newyddion cyfreithlon, yn ogystal ag adolygiadau ffug - pan fydd mae gwerthwyr yn cael eu talu gan gwmnïau i anfon adolygiadau ffafriol o gynnyrch er anfantais cwmnïau eraill.

Pan fydd defnyddwyr yn agored i gamwybodaeth uniongyrchol, daw'r tîm i'r casgliad y gallai hyn ddylanwadu ar eu penderfyniadau, waeth a ydyn nhw’n ei gredu neu beidio.

Hyd yn oed pan fyddan nhw’n agored i gamwybodaeth anuniongyrchol, pan na fydd hyn yn gysylltiedig â brandiau, ond yn gysylltiedig â materion neu ddigwyddiadau eraill, dywed yr ymchwilwyr ei bod yn bosibl y bydd defnyddwyr yn drysu, yn amau ac yn teimlo bregusrwydd cyffredinol o ran y byd allanol a allai effeithio ar eu harferion gwario.

Dywedodd Dr Giandomenico Di Domenico, darlithydd mewn marchnata a strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae canlyniadau digwyddiadau gwleidyddol diweddar wedi creu cryn ddiddordeb academaidd ynghylch camwybodaeth sy’n ymledu a'i chanlyniadau. Mae effaith y ffenomen hon yn ymestyn y tu hwnt i'r llwyfan gwleidyddol ond ychydig yw ein dealltwriaeth ohoni ar ymddygiad defnyddwyr.

“Gwelsom i New Balance wynebu cryn adlach ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i gamwybodaeth gylchredeg bod y brand wedi agosáu at symudiadau’r dde eithaf. Yn yr un modd, gostyngodd pris stociau Eli Lilly 4.37% ar ôl i gyfrif Trydar ffug ddynwaredu'r brand fferyllol, gan gyhoeddi ar gam y byddai inswlin yn cael ei roi i bobl am ddim.

“Wrth i ddefnyddwyr ddod yn fwyfwy ymwybodol o hollbresenoldeb a deinameg camwybodaeth, hwyrach y byddan nhw’n dechrau drwgdybio ymddiriedaeth mathau o feddylfryd a modelau meddyliol a fydd yn effeithio ar eu hymddygiad. Mae rhagor o ddealltwriaeth o ganlyniadau camwybodaeth o safbwynt marchnata yn hollbwysig felly.”

Cyhoeddwyd y papur llawn, Between brand attacks and broader narratives: How direct and indirect misinformation erode consumer trustyn  Current Opinion in Psychology a gellir ei gweld yma.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.