Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd Economeg yn derbyn dyfarniad ymchwil fawreddog

4 Rhagfyr 2023

A map of UK with a paper plane and boat

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil gan ADR DU i Dr Ezgi Kaya, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd i archwilio'r cysylltiad rhwng mewnfudo, integreiddio a chanlyniadau'r farchnad lafur.

Ariennir y gymrodoriaeth gan Administrative Data Research UK (ADR UK), buddsoddiad gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU).  [Rhif y grant: ES/Y001001/1]

Nod prosiect Dr Kaya yw i ddarparu tystiolaeth newydd ac o ansawdd uchel ar berfformiad y farchnad lafur ac integreiddio gweithwyr mewnfudwyr yng Nghymru a Lloegr. Bydd gwaith Dr Kaya yn cyfrannu at heriau y gwerth cyhoeddus fel 'gwaith addas' ac 'economïau teg a chynaliadwy.'

Dywedodd Dr Kaya, “Mae llifoedd ymfudo a chyfran y boblogaeth a anwyd dramor wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf ar draws sawl gwlad, gan gynnwys y DU. Mae amrywiaeth cynyddol y boblogaeth wedi codi cwestiynau ynghylch a pherfformiad y farchnad lafur ac integreiddio mewnfudwyr i flaen y gad mewn trafodaethau gwleidyddol a chyhoeddus."

Dywedodd Dr Kaya:

“Mae'r gymrodoriaeth hon yn cynnig cyfle unigryw i gael mewnwelediadau o set ddata newydd ac i gyfrannu at y ddadl hon drwy ddarparu tystiolaeth gyfoes a chynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr.”
Dr Ezgi Kaya Senior Lecturer in Economics

Nod y prosiect yw i archwilio'r cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Sut mae canlyniadau'r farchnad lafur gan gynnwys cyflog, oriau gwaith, lefel sgiliau galwedigaethol a math o gontract cyflogaeth yn wahanol rhwng gweithwyr a anwyd yn y DU a gweithwyr mewnfudwyr (nad ydynt yn eu geni yn y DU)? ​
  • Beth yw prif ysgogiadau unrhyw wahaniaethau yng nghanlyniadau'r farchnad lafur; a beth yw dylanwad nodweddion personol a nodweddion yn gysylltiedig a gwaith, neu'r rôl a chwaraeir gan gyflogwyr unigol?
  • A yw perfformiad mewnfudwyr yn y farchnad lafur yn amrywio yn ôl ffactorau sy'n gysylltiedig â mewnfudo ac integreiddio (hyfedredd iaith, blynyddoedd o breswylio yn y DU, blwyddyn cyrraedd, dal pasbort y DU neu hunaniaeth genedlaethol hunan-ddiffiniedig)?
  • Sut mae canlyniadau gweithwyr mewnfudwyr yn y farchnad lafur yn cynyddu dros amser; a sut mae dynameg y farchnad lafur o fewnfudwyr yn cymharu â'r rhai a anwyd yn y DU?

I gynnal yr ymchwil, bydd Dr Kaya yn defnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) sy'n gysylltiedig â Chyfrifiad 2011 — Cymru a Lloegr, set ddata flaenllaw. Mae'r set ddata hon yn caniatáu mewnwelediad i ddeinameg materion fel tâl a chyflogaeth, a sut mae nodweddion fel rhyw, anabledd ac ethnigrwydd yn dylanwadu ar y rhain.

Bydd y prosiect yn parhau tan fis Tachwedd 2024.

Am ragor o wybodaeth: Cymrodyr Ymchwil sy'n defnyddio setiau data blaenllaw ADR Lloegr - ADR UK

Rhannu’r stori hon