Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn lansio Sesiynau cyngor ynghylch cyfraith teulu

19 Hydref 2023

Mae cymhlethdodau’r Llys Teulu yn cael sylw mewn cyfres o sesiynau cyngor rhad ac am ddim yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n wynebu sefyllfaoedd yn ymwneud â pherthnasoedd teuluol yn dod i ben.

Mae Cymorth ynghylch Cyfraith Teulu a’r Clinig Hunangymorth, a arweinir gan yr arbenigwr ym maes cyfraith plant, yr Athro Jason Tucker, ar gyfer rhieni nad ydynt yn gallu cytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant wedi i berthynas ddod i ben. Bydd myfyrwyr ym maes y Gyfraith yn cyflwyno gweithdai ar broses y llys, yr egwyddorion cyfreithiol sy’n berthnasol mewn achosion yn ymwneud â phlant, a’r gorchmynion y gall y Llys Teulu eu gwneud i helpu aelodau o’r gymuned i weithio drwy’r broses anodd a chostus hon.

Yn gyffredinol , nid yw cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer achosion llys preifat y mae plant yn rhan ohonynt. Mae hynny’n golygu, pan fydd perthynas teuluol yn dod i ben, bod yn rhaid i’r rhieni naill ai dalu am gyngor cyfreithiol yn breifat neu gynrychioli eu hunain (yn ymgyfreithwyr drostynt eu hunain).

Wrth siarad am y cynllun, dywedodd yr Athro Tucker, “Nod ein cynllun yw rhannu gwybodaeth ynghylch proses y llys, a all fod yn frawychus iawn i unrhyw un sy'n gorfod cynrychioli eu hunain yn y llys. Nodwedd allweddol ar y gweithdai yw bod y myfyrwyr yn rhannu gwybodaeth generig, yn hytrach na chyngor wedi’i deilwra, felly mae hyn yn golygu y gall unrhyw un sy’n ymwneud ag achosion llys ddod i’r sesiynau hyn.”

Mae'r gweithdai wedi'u hysgrifennu a'u datblygu gan fyfyrwyr dan oruchwyliaeth arbenigwyr cyfreithiol. Maent wedi cynnal eu hymchwil cyfreithiol eu hunain i ganfod y gyfraith a'r weithdrefn gywir, ac adnoddau defnyddiol sydd ar gael i gynorthwyo pobl sy'n rhan o achosion llys. Mae myfyrwyr wedi gweithio mewn 'cwmnïau' bach i ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn tîm, a'u sgiliau cyflwyno llafar i'w cynorthwyo i gyflwyno sesiynau i aelodau'r cyhoedd sy'n profi straen proses y llys. Mae cyflwyno gweithdai i’r cyhoedd hefyd yn meithrin proffesiynoldeb, gan fod y myfyrwyr yn gwybod eu bod wedi ymrwymo i gyflwyno’r gweithdai, a bod, felly, pobl y tu allan i’r Brifysgol yn dibynnu arnynt i’w cyflawni.

“Ein nod ar gyfer y gweithdai yw y bydd y sawl sy’n bresennol yn cael gwell dealltwriaeth o broses y llys y maent wedi dod yn rhan ohoni. Rydym hefyd am roi’r hyder iddynt ymgysylltu’n weithredol â’r broses honno i sicrhau bod eu barn am drefniadau ar gyfer eu plentyn neu blant yn y dyfodol yn cael ei chlywed a’i hystyried gan y llys.”

Professor Jason Tucker Dean for Student Employability and Professor of Law

Cynhelir y gweithdai yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac maent yn agored i aelodau’r cyhoedd fis Tachwedd eleni. I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau ac i gofrestru, cysylltwch â’r tîm Pro Bono.

Rhannu’r stori hon