Ewch i’r prif gynnwys

Penodi cyfarwyddwr canolfan ymchwil newydd Prifysgol Caerdydd

2 Hydref 2023

Man smiling

Mae cyfarwyddwr wedi cael ei benodi mewn canolfan ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Dr Paul Willis yn ymuno â'r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) newydd sbon yn gyfarwyddwr cyntaf arni yn ddiweddarach eleni.

Bydd yn arwain ein canolfan ymchwil newydd CARE, a sefydlwyd gyda £3m o gyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol:

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Dr Paul Willis o Brifysgol Bryste wedi'i benodi'n gyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) newydd ac Athro Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Bydd yn dechrau ar ei swydd ganol mis Tachwedd.
Yr Athro Jonathan Scourfield Professor

Mae Dr Willis yn arbenigwr ym maes gofal cymdeithasol pobl hŷn ac yn Uwch-gymrawd o Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol NIHR. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil penodol mewn rhywedd, rhywioldeb a darpariaeth gofal, ac mae'n weithiwr cymdeithasol cymwysedig.

Ychwanegodd Dr Willis, "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n gyfarwyddwr y ganolfan ymchwil newydd hon ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm a'r cydweithwyr i adeiladu rhaglen ymchwil newydd i helpu i lywio a gwella'r ddarpariaeth o ofal cymdeithasol o ansawdd uchel i bobl ag anghenion gofal a chymorth yng Nghymru."

Reception area of Cardiff University's sbarc | spark research centre
Bydd y ganolfan ymchwil newydd wedi'i lleoli yn sbarc Prifysgol Caerdydd sbarc|spark building in Cathays

Bydd y Ganolfan yn dwyn ynghyd arbenigedd amlddisgyblaethol o bob rhan o’r brifysgol, ac yn hybu cyfleoedd i gydweithio ag arbenigwyr mewn mannau eraill yn y DU, i ddatblygu ymchwil o’r radd flaenaf ym maes gofal cymdeithasol oedolion, wedi’i chefnogi gan gyllid ymchwil ar lefel y DU.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, “Bydd y ganolfan ymchwil newydd sbon gwerth £3m ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn dod ag arbenigedd o bob rhan o’r sector ynghyd ac yn cyflawni ymrwymiad allweddol i gynyddu capasiti a gallu ymchwil gofal cymdeithasol ar draws Cymru.

“Bydd Dr Willis yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r rôl hon ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio a gweld y weledigaeth o gymuned ymchwil gofal cymdeithasol bywiog yn dod yn fyw.”

Ar hyn o bryd mae'r ganolfan yn recriwtio ar gyfer chwe swydd:

Mae swydd y Darllenydd a dwy o’r swyddi ymchwil yn gontractau penagored, gyda'r lleill yn gyfnod penodol am o leiaf 3 mlynedd a hanner.

Mae gwybodaeth lawn am y swyddi hyn a sut i wneud cais i'w gweld yma ar dudalen swyddi Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon