Ewch i’r prif gynnwys

Berthold Leibinger Innovationspreis 2023

27 Medi 2023

Tri dyn yn casglu gwobrau mewn seremoni wobrwyo
Yr Athro Hartmut Grote, Dr Henning Vahlbruch a’r Athro Benno Willke yn casglu’r Berthold Leibinger Innovationspreis mewn seremoni a gynhaliwyd ddydd Gwener 22 Medi 2023

Mae ffisegydd o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn anrhydeddau y wobr gyntaf mewn seremoni wobrwyo ryngwladol am waith arloesol ym maes technoleg laser.

Mae’r Athro Hartmut Grote o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn un o dri sy’n derbyn Berthold Leibinger Innovationspreis 2023.

Cyflwynir y gwobrau bob dwy flynedd gan Sefydliad Berthold Leibinger, ac mae'r gwobrau'n cydnabod llwyddiannau eithriadol ym maes ymchwil wyddonol neu ddiwydiannol sy'n defnyddio neu'n cynhyrchu golau laser.

Bydd yr Athro Grote ynghyd â’i gydweithwyr Dr Henning Vahlbruch a’r Athro Benno Willke o Sefydliad Max Planck ar gyfer Ffiseg Disgyrchol, Prifysgol Leibniz Hannover yn derbyn y wobr am eu gwaith ar ‘Ffynonellau Golau Manwl Iawn Iawn ym Maes Ffiseg Sylfaenol a Thu Hwnt.

Dywedodd yr Athro Grote, ffisegydd yn Sefydliad Archwilio Disgyrchiant y Brifysgol: “Rwy’n hapus iawn gyda’r wobr ac yn ddiolchgar i Sefydliad Leibinger, ond hefyd i’r llu o gydweithwyr sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn.

“Mae ein gwaith yn dangos pa mor hynod fanwl gywir ac amlbwrpas y gall laserau fod, a sut mae ein laserau yn allweddol ar gyfer canfod tonnau disgyrchiant.

“Ar ben hynny, yma yng Nghaerdydd mae ein datblygiadau laser hefyd yn cael eu defnyddio i chwilio am fater tywyll ac arwyddion posibl o ddisgyrchiant cwantwm, sef, i ddod o hyd i atebion i’r cwestiwn a yw gofod-amser yn ronynnog ar y graddfeydd lleiaf. Os gallwn ddysgu am ffabrig gofod-amser ei hun, byddai gennym gliw arbrofol cyntaf ar sut i gyfuno ffiseg cwantwm a theori disgyrchiant, dwy ddamcaniaeth ffisegol mwyaf llwyddiannus yr 20fed ganrif."

Ar ben hynny, yma yng Nghaerdydd mae ein datblygiadau laser hefyd yn cael eu defnyddio i chwilio am fater tywyll ac arwyddion posibl o ddisgyrchiant cwantwm, sef, i ddod o hyd i atebion i’r cwestiwn a yw gofod-amser yn ronynnog ar y graddfeydd lleiaf. Os gallwn ddysgu am ffabrig gofod-amser ei hun, byddai gennym gliw arbrofol cyntaf ar sut i gyfuno ffiseg cwantwm a theori disgyrchiant, dwy ddamcaniaeth ffisegol mwyaf llwyddiannus yr 20fed ganrif.

Yr Athro Hartmut Grote

Mae cyflwyniad y tîm yn amlinellu'r datblygiadau arloesol ym maes ffiseg laser a arweiniodd at ganfod tonnau disgyrchiant, gan chwyldroi seryddiaeth a'n dealltwriaeth o'r bydysawd.

Yn hanfodol i'r datblygiad arloesol hwn oedd:

  • sefydlogi laserau pŵer uchel yn eithafol
  • cynhyrchu meysydd gwactod wedi’u gwasgu, a’u rheoli mewn ffordd gydlynol
  • technegau rheoli newydd ar gyfer cymhwyso golau wedi’i wasgu

Disgwylir i gymwysiadau eraill ym maes cyfathrebu cwantwm a chyfrifiadura cwantwm seiliedig ar olau hefyd elwa ar waith yr Athro Grote a’r tîm.

Darllenwch y rhestr lawn o enwebeion gwobrau laser.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.