Ewch i’r prif gynnwys

Atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

11 Medi 2023

Golygfa o'r ochr sy’n dangos menyw ifanc yn edrych i ffwrdd wrth y ffenestr a hithau’n eistedd ar soffa gartref

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i’r ffordd y gellid atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc mewn gofal yn well yn y DU drwy gymharu dulliau rhyngwladol o wneud hyn.

Mae Dr Rhiannon Evans wedi derbyn un o Gymrodoriaethau Churchill a bydd yn teithio i UDA a De Corea i ymchwilio i’r arferion gorau. Bydd hi’n siarad ag ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr sy’n gweithio i gefnogi plant a phobl ifanc mewn gofal.

Dyma a ddywedodd Dr Evans, o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyraethau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Mae hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc mewn gofal yn bryder cymdeithasol a gofal iechyd mawr. Fodd bynnag, er gwaethaf yr arferion arloesol yn rhyngwladol, ychydig o dystiolaeth sydd yn achos dulliau effeithiol sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn y DU. Bydd y gymrodoriaeth yn caniatáu imi ymchwilio i ymyraethau sydd ar y gweill yn UDA a De Corea, fel y gallaf ystyried a ellir eu defnyddio yma.”

Ar gyfer yr ymchwil, bydd Dr Evans yn teithio i Colorado, UDA, i ddysgu am effaith prosiect Meithrin Dyfodol Iach yno. Mae'r rhaglen hon yn dod â grwpiau o bobl ifanc mewn gofal at ei gilydd er mwyn datblygu eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, a hefyd bydd gweithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant yn eu mentora. Mae’n un o’r unig gynlluniau y gwyddom amdanyn nhw sy’n targedu deilliannau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad.

Bydd hi hefyd yn mynd i Dde Korea sydd wedi datblygu arferion arloesol o ganlyniad i’r gyfradd hunanladdiad sy’n cymharol uchel yno. Bydd yn cwrdd ag ymchwilwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion i ymchwilio i ddulliau cymunedol. Bydd Dr Evans hefyd yn ymchwilio i’r ffordd mae’r cyfryngau cymdeithasol yn portreadu achosion o amau hunanladdiad, yn enwedig ymhlith cefnogwyr K-pop, a sut mae hyn yn llunio dealltwriaeth a hunaniaeth pobl ifanc o ran hunan-niweidio a hunanladdiad.

Ychwanegodd Dr Evans: “Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr i greu sylfaen ymchwil ehangach a fydd yn ein helpu i ddeall sut y gellir cynorthwyo a chefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn y DU yn well, a hynny gyda’r bwriad o ostwng cyfraddau hunanladdiad yn y tymor hir.”

Mae Dr Evans yn un o 141 o Gymrodyr Churchill a ddewiswyd ar gyfer 2023 sy’n cynrychioli ystod amrywiol o gefndiroedd, arbenigedd a dyheadau.