Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn ymweld ag UDA yn rhan o neges gwrth-hiliaeth Urdd Gobaith Cymru

6 Medi 2023

Myfyrwyr yn cerdded gyda'i gilydd
Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru ar ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn teithio i UDA yn rhan o’u gwaith gydag Urdd Gobaith Cymru ar ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023.

Yn y daith, bydd y grŵp o 13 o fyfyrwyr, Prif Weithredwr yr Urdd Siân Lewis a’r Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething, yn ymweld â Birmingham, Alabama, i ddysgu am ei hanes cyfoethog ym maes Hawliau Sifil ac i gydsefyll gyda’r gymuned Americanaidd-Affricanaidd 60 mlynedd ar ôl bomio Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street.

Yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ym 1963, rhoddodd pobl Cymru ffenestr liw i'r eglwys.

Eglura Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Rydym mor falch o’r cyfle i gryfhau ein perthynas gyda’r gymuned Affricanaidd-Americanaidd yn Birmingham, Alabama a rhoi cyfle i aelodau’r Urdd ddysgu mwy am hanes a digwyddiadau’r rhanbarth.

“Yn gynharach eleni, lluniodd ein pobl ifanc Neges Heddwch ac Ewyllys Da hynod bwerus sy’n taflu’r chwyddwydr ar wrth-hiliaeth, gan nodi’n glir, os yw pobl yn dyst i hiliaeth, bod angen i ni eu ‘Galw. Nhw. Allan.’ Mae’n briodol iawn, felly, ein bod ni’n ymweld â Birmingham ar y dyddiad pwysig hwn yng nghwmni’r myfyrwyr a greodd y neges ddylanwadol hon ac a glywyd a rannwyd gan filoedd ledled y byd.”

Yn ystod taith y mis hwn i Alabama, bydd y grŵp yn ymweld ag Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street, yn ogystal â nifer o adeiladau a sefydliadau hanesyddol ac arwyddocaol eraill a oedd yn hynod bwysig i'r mudiad hawliau sifil, megis Tŷ Rosa Park, Sefydliad Hawliau Sifil Birmingham,Motel AG Gatson a'r Amgueddfa Etifeddiaeth.

Byddan nhw hefyd yn bresennol mewn seremoni gosod torchau a phlannu coed ym Mharc Kelly Ingrim.

Dyma a ddywedodd Is-Lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Cymru Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Deio Owen, sy’n rhan o’r grŵp fu’n gweithio ar y Neges Heddwch eleni: “Mae bod yn rhan o neges heddwch yr Urdd eleni wedi bod yn brofiad a hanner gan roi'r cyfle inni fel myfyrwyr ddysgu am yr hiliaeth sydd yn dal i lygru'n cenedl a sut allwn ni chwarae rhan yn cael gwared ohono. Bydd y daith hefyd yn gyfle inni ddysgu mwy ac yn benodol am yr hanes a sut mae'n parhau i fod yn berthnasol heddiw. Bydd hefyd yn gyfle inni ddangos beth rydym ni fel Cymry eisiau ei weld yn ein cymdeithas a cyd-sefyll yn erbyn hiliaeth a ceisio gwneud newid drwy sefyll  i fyny  a rhannu ein neges.”

Dyma a ddywedodd Sian Lloyd, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, sy’n mynd gyda’r myfyrwyr ar y daith: “Rydyn ni’n teimlo’n freintiedig i gael teithio i Birmingham Alabama gydag Urdd Gobaith Cymru, wrth inni ymchwilio mwy i hanes y mudiad Hawliau Sifil, gan ddod i adnabod a meithrin cyfeillion newydd ar hyd y ffordd. Mae’r myfyrwyr, a fu’n gweithio ar y Neges Heddwch eleni, yn frwd dros ddefnyddio’u llais i greu newid. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y daith hon yn eu hysbrydoli a’u hysgogi hyd yn oed yn fwy.”

Dyma a ddywedodd Catrin Jones, Rheolwr Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd: “Peth ysbrydoledig yw gweld y myfyrwyr yn cydweithio â’i gilydd ar fater mor bwysig fel gwrth-hiliaeth yn ystod y flwyddyn. Yn anffodus, rydyn ni’n byw o hyd mewn cymdeithas lle mae hiliaeth yn bodoli a dim ond drwy gynnal trafodaethau agored a mynd i'r afael â'r materion yn uniongyrchol y gallwn ni wneud cynnydd. Rwy’n edrych ymlaen at glywed am yr hyn y mae’r grŵp yn ei ddysgu yn sgil yr ymweliad hwn, sydd yn sicr o fod yn berthnasol ac yn gwbl allweddol i’r Neges Heddwch eleni.”

Ar y 15fed o Fedi 1963, lladdwyd pedwar o blant mewn ymosodiad hiliol gan y Klu Klux Klan ar Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street. Cafwyd ymateb syfrdanol ledled y byd yn dilyn yr ymosodiad a phan gyrhaeddodd y newyddion Gymru, penderfynodd yr artist gwydr John Petts dalu ei deyrnged drwy ddylunio ffenestr wydr yn rhodd i’r eglwys.

Ar ôl ymgyrch codi arian yn y Western Mail, gosodwyd y ffenestr ym 1964 ac mae trigolion Birmingham yn ei galw’n'Ffenestr Cymru' hyd heddiw.

Yn 2019, crëwyd partneriaeth rhwng yr eglwys a’r Urdd i feithrin cysylltiadau rhwng pobl Alabama a phobl ifanc Cymru. Ym mis Mehefin, teithiodd Côr yr Efengyl Prifysgol Alabama (UAB) i Gymru i berfformio a dysgu mwy am hanes, iaith a diwylliant y wlad.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.