Ewch i’r prif gynnwys

Academydd yn ennill Grant Cychwyn y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd gwerth €1.3M

5 Medi 2023

Image of pipe with water coming out of it

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi ennill Grant Cychwyn gwerth €1.3M gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) i ymchwilio i’r ffordd y mae adnoddau dŵr newydd ac anghonfensiynol – megis dihalwyno dŵr ac ailddefnyddio dŵr gwastraff – yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â heriau dŵr cronig sy'n gwaethygu yn Affrica.

Bydd yr ymchwil, dan arweiniad Dr Joe Williams o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn canolbwyntio ar Genia a Moroco, dwy wlad sydd, am resymau gwahanol, yn troi at ddŵr anghonfensiynol yn wyneb cyfyngiadau dybryd sy’n gysylltiedig â dŵr.

Mae llawer o arbenigwyr yn ystyried newid i ddŵr anghonfensiynol yn un o'r atebion pwysicaf - ac a fydd hwyrach yn gweddnewid popeth - i’r argyfwng dŵr, ond ychydig iawn a wyddom am y goblygiadau y bydd gan y seilweithiau dŵr newydd hyn ar y broses o ddatblygu’r De Byd-eang. Bydd yr ymchwil hon yn mynd i’r afael â’r bwlch hwnnw.

Bydd hefyd yn trin a thrafod y ddadl ynghylch heriau dŵr sy’n seiliedig ar leoedd sy’n rhan ganolog o hanes trefedigaethol a’r llifoedd byd-eang cyllid, technoleg a gwybodaeth.

Dyma a ddywedodd Dr Williams: “Mae'n hanfodol ein bod yn deall rhagor am ymddangosiad adnoddau dŵr 'newydd' neu anghonfensiynol a sut y gellir eu defnyddio i helpu cymdeithasau i gyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i ddatblygu safbwyntiau newydd a phwysig am y goblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn sgil y newidiadau pwysig hyn.”

Nod y cyllid, sy’n rhan o raglen Horizon Europe yr UE, ac yn un o 400 o Grantiau Cychwyn a ddyfarnwyd i wyddonwyr ac ysgolheigion ifanc ledled Ewrop, yw cefnogi ymchwil sydd ar flaen y gad a galluogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i lansio eu prosiectau eu hunain, creu timau a dilyn eu syniadau gorau.

Ychwanegodd Dr Williams: “Rwy’n hynod o falch o fod wedi ennill y dyfarniad hwn. Anrhydedd anhygoel yw bod yn rhan o’r gymuned hon o ymchwilwyr cyffrous sy’n dod i’r amlwg, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i greu tîm ymchwil i weithio ar heriau mor bwysig a brys.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.