Ewch i’r prif gynnwys

Atal feirysau rhag ymledu yn ystod llawdriniaethau gan ddefnyddio meysydd trydanol

30 Awst 2023

Adenovirus

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod ei bod yn bosibl y bydd defnyddio maes trydanol, o'r enw gwaddodiad electrostatig, yn atal feirysau rhag ymledu drwy aerosolau yn ystod llawdriniaethau a’u bod yn effeithlon hyd at 99% - gan leihau feirysau rhag ymledu mewn amgylcheddau gofal iechyd a chan gyfyngu ar nifer yr ôl-groniadau llawdriniaeth yn ystod pandemigau yn y dyfodol.

Amcangyfrifir i gannoedd o filoedd o lawdriniaethau gael eu gohirio neu eu canslo er mwyn atal Covid rhag ymledu yn ystod y pandemig, a llawdriniaethau sy'n creu aerosolau - megis laparosgopi neu traceostomi - yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu canslo. Arweiniodd hyn at ôl-groniad difrifol yn nifer y llawdriniaethau i gleifion ledled y byd.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd wedi tynnu sylw at sut mae'r defnydd o feysydd trydanol o'r enw gwaddodiad electrostatig, yn atal feirysau rhag ymledu mewn modd effeithiol yn ystod llawdriniaethau.

Dyma a ddywedodd Hannah Preston, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Er ei bod yn bosibl i feirysau anadlol ymledu drwy gyswllt corfforol, mae’r prif drosglwyddo’n digwydd wrth i unigolyn heintus wasgaru aerosolau - gall pob un o’r rhain, sef siarad, anadlu, pesychu a tisian greu aerosolau. Gall lledaeniad aerosolau ddigwydd hefyd yn ystod llawdriniaeth.

"Gall gwisgo mwgwd, cyfarpar diogelu personol (PPE), cadw pellter cymdeithasol ac ynysu cleifion sydd wedi'u heintio helpu i leihau heintiau rhag ymledu, ond ni fydd hyn yn dinistrio nac yn cael gwared â'r feirws yn uniongyrchol. Defnyddir ymyraethau fel hidlwyr aer, sterileiddio golau uwchfioled a chwistrellau hydrogen perocsid ar ffurf aerosol yn gyffredin mewn ysbytai i leihau’r graddau y bydd feirysau’n ymledu mewn ysbytai, ond mae cyfyngiadau’n perthyn iddynt hefyd.

"Gan i feirws gael ei drosglwyddo’n fwyaf cyffredin wrth i gleifion heintus ryddhau aerosolau, byddai'n fuddiol datblygu dull effeithlon sy'n dal ac yn dirymu’r gronynnau firaol sy’n deillio o aerosolau mewn ysbytai. Datblygwyd gwaddodiad electrostatig i'w ddefnyddio yn ystod llawdriniaethau twll clo – mae'n defnyddio maes trydanol i gasglu’r gronynnau pan fydd aerosolau’n ymledu, gan ddirymu’r feirysau.

"Nod ein hymchwil oedd gwerthuso effeithiolrwydd gwaddoddiad electrostatig, gan ymchwilio i ba mor effeithlon y mae'r dull hwn yn dal ac yn dirymu gronynnau firaol ar ffurf aerosol yn ystod llawdriniaethau."

Creodd yr ymchwilwyr fodel a oedd yn debyg i lawdriniaeth twll clo a feirysau ar ffurf aerosol, gan beri i waddoddiad electrostatig ddod i gysylltiad â’r model. Profwyd y gwaddodiad electrostatig ar feirysau wedi'u hamgáu (megis SARS-CoV2 sy'n achosi Covid-19) a feirysau heb eu hamgáu (megis adenofeirws neu norofeirws). Mesurodd y gwyddonwyr bresenoldeb a gweithgarwch feirysau ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â'r gwaddodiad electrostatig, gan ganfod bod y gwaddodiad electrostatig wedi dirymu’r feirysau hyd at effeithlonrwydd o 99%.

Stock image of coronavirus

"Mae ein canfyddiadau'n dangos y gellid defnyddio gwaddodiad electrostatig yn ystod llawdriniaethau i ddal ac i ddirymu gronynnau firol a ryddheir mewn aerosolau, yn ogystal ag ystod o weithdrefnau meddygol eraill hwyrach, a hynny i wella effeithiolrwydd a diogelwch.

"Mae’n bosibl y bydd defnyddio gwaddodiad electrostatig mewn ysbytai yn datrys problemau yn y systemau puro aer presennol, a gallai hyn leihau'r pwysau ar y GIG drwy atal morbidrwydd a marwolaethau yn sgil heintiau a geir yno.

"Er ein bod yn dal i adfer ar ôl pandemig Covid-19, mae gwyddonwyr, llunwyr polisïau a systemau gofal iechyd bob amser yn paratoi ar gyfer y pandemig nesaf. Felly mae buddsoddi mewn ymchwil ar offer sy'n atal feirysau rhag ymledu’n hollbwysig wrth baratoi ar gyfer y pandemig nesaf y bydd y byd yn dod ar ei draws," ychwanegodd Hannah.

Ychwanegodd yr Athro Alan Parker, Prifysgol Caerdydd: "Rydyn ni wedi cael ein calonogi gan y canlyniadau hyn ac yn gobeithio, yn sgil y dechnoleg hon, y bydd llawdriniaethau yn gallu parhau yn ôl yr arfer yn ystod pandemigau’r dyfodol, gan effeithio'n gadarnhaol ar iechyd a diogelwch llawer o bobl."

Cyhoeddwyd tudalen yr ymchwil, Capture and Inactivation of Viral Particles from Bioaerosols by Electrostatic Precipitation, yniScience. Ynghlwm wrth yr astudiaeth roedd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â chydweithwyr yn Ysgol Fferylliaeth Medway, Prifysgol Caint ac Alesi Surgical Ltd.

Ariannwyd y prosiect gan KESS2 ac Ymchwil Canser y DU. Ultravision gan Alesi Surgical oedd biau dyfais y gwaddodiad electrostatig.