Ewch i’r prif gynnwys

Plant ysgolion cynradd yn elwa diolch i’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol

26 Gorffennaf 2023

Dwy ddynes a dyn yn sefyll gyda'i gilydd yn gwenu.
Lowri Davies, Jonny Small a thiwtor ar y Cynllun Sabothol, Ann Samuel

Mae plant o ddwy ysgol gynradd yng Nghymru wedi datblygu perthynas arbennig gyda’i gilydd diolch i’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol.

Mae Jonny Small, sy’n aelod o staff yn Ysgol Gynradd Goetre Fawr yn Sir Fynwy, wedi dod â’r system addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg at ei gilydd trwy dreulio amser yn Ysgol Gynradd Goetre Fawr ac Ysgol Gymraeg Y Fenni fel rhan o gynllun partneriaeth arloesol Gwasanaeth Cyflawniad Addysg (GCA) De Ddwyrain Cymru.

Daw hyn wedi i Mr Small, sy’n dod o Surrey yn wreiddiol, gwblhau cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn y Cynllun Sabothol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bwriad y Cynllun Sabothol yw datblygu sgiliau iaith ymarferwyr addysg gyda’r bwriad o gynyddu’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg a’u hyfforddi i fod yn athrawon iaith.

Wedi iddo gwblhau’r cwrs, bu’n ffodus i gael ei dderbyn ar gynllun partneriaeth y GCA a dechreuodd rannu ei amser yn y ddwy ysgol gan sefydlu côr newydd a oedd yn cynnwys plant o’r ddwy ysgol. Enw’r côr yw Côr Tre’r Fenni a chanodd y côr yn ddwyieithog am y tro cyntaf mewn cyngerdd yn Theatr Borough Y Fenni ar 5 Mehefin.

Dywedodd Elen Roberts, Prif Bartner Cwricwlwm y Gwasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru: “Mae’r Cynllun Sabothol yn holl bwysig i ddatblygu sgiliau iaith ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ond mae’n fwy na hyn. Mae’r cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn yn tanio cariad at iaith a diwylliant ac yn agor drysau at bosibiliadau cydweithio ar draws y sector cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac ar draws y continwwm iaith.”

Diolch i’r Cynllun Sabothol a’i drochiad yn y Gymraeg dros ddau dymor yn Ysgol Y Fenni, mae Mr Small bellach yn rhugl yn yr iaith. Dywedodd: “Mae’r cynllun sabothol wedi newid fy mywyd mewn ffyrdd enfawr. Do’n i ddim yn disgwyl siarad Cymraeg digon hyderus i weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, ond mae’r sabothol wedi darparu’r sgiliau i gyd i dyfu fy iaith.

"Oherwydd y sabothol, dw i’n gallu rhannu fy amser rhwng ysgolion Saesneg a Chymraeg, a dw i’n gallu defnyddio fy sgiliau cerddorol gyda mwy o blant.

"Hefyd, mae’r plant yn fy ysgol Saesneg yn gallu profi pethau fel y cystadleuaethau’r Urdd, achos mae’r cyfle yn yr ysgol Gymraeg wedi addysgu fi am y diwylliant. Penderfynon ni i gefeillio ein ysgolion eleni, ac yn y dyfodol, rydyn ni’n bwriadu mwy o profiadau gyda’n gilydd.”

Lowri Davies yw Rheolwr Prosiect y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o weld Jonny yn cael cyfle i ddefnyddio’r sgiliau y mae wedi eu datblygu ar y Cynllun Sabothol a chael effaith mor gadarnhaol ar ei ysgol a'i gymuned. Mae Jonny wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu ei sgiliau i lefel uchel iawn ac mae’r cynllun arbennig hwn wedi rhoi cyfle iddo barhau i ddatblygu a rhannu ei hyfforddiant addysgeg ar draws y ddwy ysgol.”

Os hoffech wybod mwy am y Cynllun Sabothol, ewch i’r wefan.

Rhannu’r stori hon