Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethu ei chymuned

20 Gorffennaf 2023

Shahista Begum

Mae’r deintydd a’r meddyg Shahista Begum yn graddio eleni (2023) yn dilyn y cwrs Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol (LLM).

Yma, mae'n sôn am ei phenderfyniad i ddilyn y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae fy nhaith wedi bod yn un anghonfensiynol," meddai Dr Shahista Begum.

"Wrth gael fy magu yng nghanol dinas Birmingham yn un o chwech o frodyr a chwiorydd, dywedodd athro wrtho i fod fy opsiynau’n gyfyngedig gan fy mod i’n ferch Asiaidd. Ychydig iawn o gefnogaeth addysgol a geid yn yr ysgol neu gartref bryd hynny. Gan mai fi oedd y chwaer hynaf, fi oedd yn gyfrifol o oedran cynnar iawn am lawer o'r gorchwylion cartref gan gynnwys gofalu am bum brawd a chwaer arall."

Aeth Shahista ymlaen i gymhwyso’n ddeintydd ac yn ddiweddarach pan oedd yn 42 oed, cymhwysodd yn feddyg meddygol. Tra'n feddyg iau, penderfynodd Shahista wneud cais am y cwrs LLM Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Ar anterth pandemig Covid-19, gwirfoddolais i fod yn feddyg ar y rheng flaen yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys," meddai Shahista. "Yn ystod y cyfnod hwn cefais i wybod fy mod wedi ennill un o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr Prifysgol Caerdydd. Ro’n i’n ddiolchgar iawn ac yn hynod o werthfawrogol o gael derbyn y dyfarniad hwn."

"Cynhaliwyd yr astudiaethau LLM tra fy mod i'n feddyg yn yr adran damweiniau ac achosion brys ac yn gofalu am ddau blentyn bach ac yn rhiant sengl. Uchafbwynt y cwrs oedd y cymorth a’r cyfeillgarwch a gefais i gan fy nghyd-fyfyrwyr. Roedd pandemig Covid-19 yn gyfnod heriol i bawb gan gynnwys y myfyrwyr. Aeth fy nghyd-fyfyrwyr ati i roi'r cymorth roedd ei angen pan oeddwn i’n ceisio gweithio ac astudio ar lefel ôl-raddedig a gofalu am deulu ifanc. Cefnogodd pawb ei gilydd."

''Yn sgil modiwlau cynhwysfawr y pwnc, cefais i fy mharatoi ar gyfer ymdrechion y dyfodol, sef bod yn ymgynghorydd meddygol/deintyddol tra fy mod i’n ddeintydd mewn deintyddfa ac yn feddyg locwm mewn adran damweiniau ac achosion brys. Bydd fy nhraethawd hir ar niwed seiciatrig yn y gweithle ymhlith staff y GIG hefyd yn fy helpu i gynghori ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a lles staff y GIG.

"Ys dywedodd Maya Angelou "Gwnewch eich gorau glas hyd nes eich bod yn gwybod yn well. Wedyn, pan fyddwch chi'n gwybod gwneud pethau’n well, gwnewch nhw’n well." Rwy'n wirioneddol ddiolchgar ac yn hynod werthfawrogol o gael y cyfleoedd gyrfaol hyn ac rwy'n teimlo'n angerddol am gyfrannu at y cymunedau sydd wedi fy helpu i lwyddo’n academaidd. Bydd y sgiliau a'r wybodaeth a gefais yn sgil yr LLM o Brifysgol Caerdydd yn fy ngalluogi i fod yn gynghorydd deintyddol/meddygol, gan wasanaethu'r cymunedau deintyddol a meddygol yn well mewn rôl newydd sy’n rhoi boddhad personol imi.

"Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o fy narlithwyr yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn ogystal â fy nghyd-fyfyrwyr am eu holl gymorth a chefnogaeth. Braint fu cydgerdded ar y daith hon gyda chi!"

Dr Shahista S Begum BDS, MFDS RCS EDIN, MFGDP RCS Eng, MBBS, LLM

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau gwe yr Ysgol.