Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Blynyddol Heritage Crafts

14 Gorffennaf 2023

Gweithiwr proffesiynol ym maes Cadwraeth ar y rhestr fer i ennill gwobr o fri

Mae Darllenydd sydd wedi gwasanaethu ers blynyddoedd maith ym maes Cadwraeth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Gwneuthurwr y Flwyddyn Heritage Crafts.

Ac yntau wedi gweithio am 30 mlynedd yn hyfforddi cadwraethwyr sydd bellach yn ymarfer ledled y byd, mae Phil Parkes yn un o'r tri sydd wedi cyrraedd rownd derfynol categori Gwneuthurwr y Flwyddyn.

Yn arbenigwr creu mael, dilynodd y cadwraethwr Phil ei ddiddordeb mewn sgiliau ymarferol a chrefft, gan ymchwilio i arfwisgoedd mael a defnyddio technegau traddodiadol i greu’r rhain. Mae’n ymddangos yn rheolaidd mewn arddangosfeydd, gwyliau ac ysgolion, lle bydd yn rhannu’r arbenigedd hwn i helpu i gadw crefftau rhag mynd yn angof. Mae nifer fawr o bobl yn ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae'n dogfennu prosiectau megis gwneud copïau o eitemau oedd yn gyffredin yn y 15fed ganrif.

Mae Gwobr Gwneuthurwr y Flwyddyn Heritage Crafts, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh, yn cydnabod crefftwr ym maes treftadaeth sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w grefft penodol ymhell y tu hwnt i’r hyn sy’n arferol, naill ai wrth ddatblygu ei grefft hyd lefelau newydd neu gyfrannu at ei hyrwyddo neu ei pharhad mewn ffordd eithriadol.

Gan ddangos y lefel uchaf o sgil o ran crefft, mae'r rheini ar y rhestr fer yn uchel eu parch ymhlith crefftwyr eraill yn y maes, boed y crefftwyr mwyaf gwerinol a syml neu'r crefftwyr mwyaf cain.

Mae gwobrau o bwys Heritage Crafts, a sefydlwyd yn 2012, yn rhoi sylw i grefftau byw traddodiadol yn y DU, gan amrywio o Wobr y Llywydd am Grefftau Sydd Mewn Perygl o Fynd yn Angof, Gwneuthurwr y Flwyddyn a’r Wobr Cynaliadwyedd, i wobrau ar gyfer hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chrefftwyr ifanc.

Dyma a ddywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Heritage Crafts, Daniel Carpenter (BA 2001, MA 2007) :

'Mae cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Heritage Crafts wedi bod mor heriol ag erioed, o ystyried y rhagoriaeth o safon rydyn ni wedi dod i'w disgwyl. Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle i ddathlu crefftwyr ymroddedig o'r fath ar draws y DU a chanmol pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.'

Mae’r Darllenydd ym maes Cadwraeth Phil Parkes ACR, FIIC (Cadwraeth Archeolegol, BSc 1992) yn addysgu ar gyrsiau cadwraeth israddedig ac ôl-raddedig yn rhan o dîm cadwraeth clodwiw  yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Dethlir y sawl sydd wedi cyrraedd rownd derfynol pob un o 12 categori y gwobrau yn Nerbyniad Enillwyr Heritage Craft yn Neuadd y Ficer, Castell Windsor ym mis Tachwedd.

Rhannu’r stori hon