Ewch i’r prif gynnwys

Darparu hyfforddiant sgiliau achub bywyd

17 Gorffennaf 2023

Elliot Phillips

Mae myfyriwr meddygol sydd wedi helpu i hyfforddi dros 2,800 o aelodau o'r cyhoedd a myfyrwyr mewn technegau achub bywyd adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), yn graddio o Brifysgol Caerdydd yr wythnos hon.

Gan ddechrau yn 2020, yn ystod cyfnod clo’r pandemig, ymunodd Elliot Phillips â myfyrwyr meddygol eraill i ysgrifennu llythyr agored, yn mynegi eu pryderon bod Cymru'n cael ei gadael ar ei hôl o ran hyfforddiant CPR.

Lansiodd grŵp o’n myfyrwyr meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gynllun a oedd y cyntaf o'i fath yn y byd, yn eu barn nhw, sy’n addysgu sgiliau achub bywydau i fyfyrwyr. Cafodd cynllun Myfyrwyr yn Achub Bywydau ei gyflwyno ym mhob rhan o’r Brifysgol, a chynhaliwyd sesiynau gydag aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru.

“Mae gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yn Ewrop. Dim ond un o bob 20 sy’n goroesi, ac yn Norwy a'r Iseldiroedd mae’r ffigur tua un ym mhob pedwar."
Elliot Phillips

Elliot and Emergency Services - Elliot a'r Gwasanaethau Brys

"Mae gennym boblogaeth enfawr o 33,260 o fyfyrwyr yma yn y Brifysgol. Dyma adnodd anhygoel, heb ei ddefnyddio hyd yma, o ddysgwyr deallus a brwdfrydig a allai achub bywydau os oes ganddyn nhw’r sgiliau cywir.

“Roedd yn gyfle euraidd i fynd i'r afael â'r gyfradd oroesi wael iawn sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Am bob 3,000 o ataliadau ar y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru, dim ond 200 o bobl sy'n goroesi, ac am bob munud na fydd rhywun yn cael CPR, mae ei siawns o oroesi yn gostwng 10%,” meddai Elliot.

Wrth gynnal y cynllun mae Elliot a'i dîm o fyfyrwyr o'r Ysgolion Meddygaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd wedi rhannu eu sgiliau achub bywyd CPR â dros 350 o fyfyrwyr a thros 2,500 o aelodau o'r cyhoedd.

Mae Elliot wedi ymuno ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn feddyg iau, yn gweithio ym maes llawfeddygaeth gyffredinol, meddygaeth frys ac anestheteg, ac mae ganddo diddordeb brwd mewn gyrfa ym maes meddygaeth a dadebru brys.

Elliot and students after CPR training session - Elliot a myfyrwyr ar ôl sesiwn hyfforddi CPR -

Mae hefyd yn gobeithio parhau i ymwneud â’r cynllun yr helpodd i’w sefydlu.

“Roedden ni wedi gweithio ar y cyd â rhaglen Achub Bywydau Cymru, wedi’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru, i sefydlu’r cynllun, a'i greu o ddim byd. Roedd yn wych gweld ei gynnydd, a fyddwn i ddim am golli allan ar weld y cynllun yn parhau i dyfu, gan ein bod ni’n ei gyflwyno i Ysgolion eraill, a gobeithio i brifysgolion eraill yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

“Y gobaith i mi o ran fy ngyrfa yw canolbwyntio ar ofal cyn mynd i’r ysbyty a meddygaeth frys. Wrth i mi barhau yn fy ngyrfa yn feddyg, rwyf am weld cynllun Myfyrwyr yn Achub Bywydau yn mynd rhagddo, gan roi’r sgiliau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol pan gaiff rywun ataliad y galon i hyd yn oed mwy o fyfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd,” ychwanegodd Elliot.