Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn lansio cynllun achub bywydau, sef 'y cyntaf o'i fath' yn y byd

10 Mawrth 2022

Mae grŵp o feddygon sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi lansio'r cynllun cyntaf o'i fath yn y byd, yn eu barn nhw, sy’n dysgu sgiliau achub bywydau i fyfyrwyr.

Bydd cynllun Myfyrwyr yn achub Bywydau yn cael ei gyflwyno ledled y Brifysgol, a'r gobaith yw y gallai gael ei ehangu yn y pen draw i sefydliadau ledled Cymru.

Mae myfyrwyr o'r Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wedi gweithio gyda rhaglen Achub Bywydau Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r cynllun hwn sy'n rhoi hanfodion adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) i fyfyrwyr.

Mae gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yn Ewrop; dim ond un o bob 20 sy’n goroesi, ac yn Norwy a'r Iseldiroedd tua ym mhob pedwar yw'r ffigur.

"Mae gennym boblogaeth enfawr o 33,260 o fyfyrwyr yma yn y Brifysgol. Adnodd anhygoel yw hwn, ond heb ei ddefnyddio hyd yn hyn, o ddysgwyr deallus a brwdfrydig a allai achub bywydau os oes ganddyn nhw’r sgiliau cywir," meddai Elliot Phillips, 22, myfyriwr meddygol yn y bumed flwyddyn sy'n arwain yr ymdrechion.

Elliot Phillips

"Cyfle gwirioneddol yw hwn i fynd i'r afael â'r gyfradd oroesi bresennol wael iawn yng Nghymru. Am bob 3,000 o ataliadau ar y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru, dim ond 200 o bobl sy'n goroesi, ac am bob munud na fydd rhywun yn cael adfywio cardio-pwlmonaidd, mae ei siawns o oroesi yn gostwng 10%.

"Gorau po fwyaf o bobl sy'n gallu rhoi CPR sylfaenol ledled y wlad, gorau oll – gallai ein cynllun syml a chost-effeithiol achub llawer o fywydau."

Mae'r cynllun yn cael ei dreialu y mis hwn yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant y Brifysgol, a threfnir diwrnodau hyfforddi ar gyfer 228 o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf drwy gydol y mis hwn.

Y gobaith yw y bydd hyfforddiant ar gyfer pob myfyriwr newydd yn cael ei gynnal o'r flwyddyn academaidd newydd ymlaen. Yn y dyfodol, mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd yn dod yn rhan annatod o gwricwlwm y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf – ac yn y pen draw yn cael ei gynnig i holl fyfyrwyr y Brifysgol.

Ar hyn o bryd mae'r trefnwyr yn trafod gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru i ehangu'r cynllun - adnodd posibl o fwy na 130,000 o fyfyrwyr, meddai Elliot.

Mae'r cynllun yn cynnig dull dau gam; cwrs trochi ar-lein gan ddefnyddio technoleg camera 360 gradd cyn sesiwn awr wyneb yn wyneb. Mae'r hyfforddiant yn cael ei arwain gan fyfyrwyr gofal iechyd – mae’r rhan fwyaf yn feddygon dan hyfforddiant – gyda chymorth partneriaid Achub Bywydau Cymru megis Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, Calon Heart ac Ambiwlans Sant Ioan.

"Cynllun sy'n cael ei arwain gan fyfyrwyr yn llwyr yw hwn, ac mae’n cynnwys yr ymchwil a'r technolegau diweddaraf – a chredwn mai Caerdydd yw'r brifysgol gyntaf yn y byd i lansio cynllun fel hwn," meddai Elliot, sydd ar hyn o bryd yn dilyn gradd ymsang i gwblhau gradd argyfwng, cyn-ysbyty a gofal cychwynnol.

"Cyflwynodd Denmarc gynllun tebyg mewn ysgolion, ac arweiniodd hyn at gynyddu pedair gwaith y gyfradd goroesi ataliad ar y galon yn y wlad.

"Mae'r cynllun yn ddyledus i waith caled grŵp bach o fyfyrwyr a bwrdd cynghori o uwch-academyddion y Brifysgol. Mae ein partneriaid elusennol wedi darparu ein holl gyfarpar, gan gynnwys 40 o fanicins CPR a thri diffibriliwr hyfforddi. Ar hyn o bryd rydyn ni wrthi’n ceisio cyllid i'n galluogi i gyflwyno'r cynllun ar draws y Brifysgol gyfan."

Dyma a ddywedodd yr Athro Steve Riley, Pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'n bleser mawr gweithio gyda myfyrwyr mor frwdfrydig ac arloesol i ddatblygu'r cynllun hwn sydd â'r potensial i gael effaith go iawn ar bobl Cymru ac yn ehangach.

"Mae trosglwyddo sgiliau cymorth bywyd sylfaenol er budd y cyhoedd yn dangos pwysigrwydd hyfforddiant gofal iechyd israddedig yng Nghymru. Mae'r ymrwymiad gan bawb sy'n ymwneud â'r prosiect hwn i wneud gwahaniaeth yn glir."

[video] 

Dyma a ddywedodd yr Athro Emeritws, Dr Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywydau Cymru: "Mae Achub Bywydau Cymru yn falch iawn o gefnogi Myfyrwyr yn achub Bywydau – dyma brosiect sy’n ysbrydoli cynifer o bobl a bydd yn helpu i achub llawer o fywydau. Gall unrhyw un, ar unrhyw oedran ac ar unrhyw adeg ddioddef ataliad ar y galon a'r peth gorau i'w wneud yn y sefyllfa hon yw rhoi cynnig ar CPR a defnyddio diffibriliwr.

"Bydd y prosiect hwn yn rhoi sgiliau achub bywydau syml i filoedd o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Bydd hyn o fudd i gymunedau yma yng Nghymru yn ogystal ag i bobl ledled y byd."

Rhannu’r stori hon