Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Canolfan Wolfson yn anelu at ddeall y cysylltiad rhwng ADHD ac iselder mewn pobl ifanc yn well

15 Gorffennaf 2023

Astudiaeth newydd yn defnyddio setiau data helaeth i daflu goleuni ar y berthynas gymhleth ac ymyriadau posibl i unigolion ifanc

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblem ddifrifol iselder ymhlith pobl ifanc ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal prosiect ymchwil newydd o’r enw “Sut a pham mae ADHD yn arwain at iselder mewn pobl ifanc?”

Disgwylir i'r prosiect ddechrau ym mis Medi ac ochr yn ochr â dwy astudiaeth ADHD arall, dyfarnwyd £2.4m o grant iddo gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).

Nod yr astudiaeth yw deall yn well sut a pham fod gan bobl ifanc sydd ag ADHD risg uwch o ddioddef iselder. Bydd yn harneisio data sydd ar gael eisoes o ddwy garfan o boblogaeth y DU, gyda'r data wedi’u casglu o'u geni hyd at fod yn oedolion ifanc, er mwyn archwilio cysylltiadau rhwng ADHD ac iselder ar draws plentyndod, llencyndod, ac oedolion ifanc.

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl cyffredin, ac mae ei fynychder wedi cynyddu’n sydyn ymhlith pobl ifanc dros y blynyddoedd diwethaf. Mae pobl ifanc ag ADHD tua phum gwaith yn fwy tebygol o brofi iselder na'u cyfoedion heb ADHD. Gall iselder ymhlith y rhai sydd ag ADHD fod yn arbennig o ddifrifol; er enghraifft, mae ganddynt risg uwch o hunanladdiad o'u cymharu â'r rhai ag ADHD neu iselder yn unig. Er mwyn helpu’r bobl ifanc hyn yn well, mae angen i ni ddeall sut a pham y gall ADHD arwain at iselder.”
Dr Lucy Riglin Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Mae'n ymddangos nad yw ymyriadau sydd wedi'u cynllunio i leddfu iselder mor effeithiol mewn unigolion ifanc sydd ag ADHD. Mae ymchwilwyr yn dadlau ei bod yn hanfodol cael dealltwriaeth ddyfnach o sut a pham y gall ADHD arwain at iselder. Trwy ddefnyddio dulliau ystadegol uwch ar y setiau data helaeth hyn, nod yr astudiaeth yw taflu goleuni ar yr agweddau allweddol canlynol:

  1. Olrhain datblygiad y cysylltiad: Bydd Dr Riglin a'r tîm yn dadansoddi'r data i ddeall yn well sut mae'r berthynas rhwng ADHD ac iselder yn esblygu ar draws gwahanol gyfnodau bywyd pobl ifanc. Bydd y tîm yn ymchwilio i weld a yw iselder yn amlygu'n gynt ac yn para'n hirach mewn pobl ifanc ag ADHD, ac a yw amseriad a hyd ADHD yn chwarae rhan. Yn ogystal, bydd yr astudiaeth yn archwilio a yw mathau gwahanol o symptomau iselder yn gysylltiedig ag ADHD ar wahanol oedrannau.
  2. Nodi targedau posibl: Un o amcanion hanfodol yr astudiaeth yw canfod nodweddion a allai fod yn dargedau posibl ar gyfer ymyriadau iselder yn y dyfodol mewn unigolion ifanc ag ADHD. Bydd ymchwilwyr edrych ar ffactorau sy'n ymwneud â gweithrediad gwybyddol, megis byrbwylltra a phrosesu digwyddiadau negyddol, yn ogystal â ffactorau'n ymwneud ag emosiynau ac ymddygiadau, fel anniddigrwydd a gorbryder. Gallai deall y cysylltiadau hyn helpu i ddeall pa ymyriadau iselder allai fod yn effeithiol i bobl ifanc ag ADHD.
  3. Effaith perthnasoedd Gan gydnabod bod therapïau ar gyfer iselder yn aml yn anelu at wella perthnasoedd gyda ffrindiau a theulu, bydd yr ymchwil yn edrych ar ddylanwad anawsterau perthynas â rhieni, ffrindiau a phartneriaid rhamantus ar y cysylltiad rhwng ADHD ac iselder. Trwy ymchwilio i'r ffordd mae'r heriau rhyngbersonol hyn yn cyfrannu at y cysylltiad ar draws gwahanol gyfnodau bywyd, nod yr astudiaeth yw darparu dealltwriaeth werthfawr ar gyfer ymyriadau.
  4. Ffactorau Genetig ac amgylcheddol Trwy ddadansoddi'r cysylltiadau rhwng ADHD, iselder, a'r ffactorau cysylltiol a nodwyd, bydd yr astudiaeth yn pennu a yw genynnau'n dylanwadu'n bennaf ar y ffactorau hyn neu a oes ganddynt y potensial i achosi iselder mewn unigolion ifanc ag ADHD. Bydd y ddealltwriaeth hanfodol hon yn arwain gwaith i ddatblygu ymyriadau wedi'u hanelu at leihau'r risg o iselder.

Caiff y gwaith ei gyd-gynhyrchu gyda grwpiau cynghori ieuenctid yng Nghanolfan Wolfson ac elusen iechyd meddwl McPin.

Trwy ddeall y cysylltiad rhwng ADHD ac iselder yn well, nod yr ymchwilwyr yw cyfrannu at ymyriadau mwy effeithiol a gwella bywydau unigolion ifanc y mae'r cyflyrau hyn yn effeithio arnynt.