Ewch i’r prif gynnwys

Proses newydd ar gyfer dŵr yfed glân yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth arloesedd

4 Gorffennaf 2023

Mae dŵr yn cael ei arllwys i wydr

Mae proses gemegol newydd sy'n cael gwared â chlorin mewn dŵr yfed wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth arloesedd gwerth £4 miliwn.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ymuno â'r cwmni systemau hidlo dŵr Origin Aquai ddatblygu cynnyrch sy'n diheintio dŵr, yn lladd feirysau a bacteria ac yn cael gwared â sgil-gynhyrchion clorin.

Yn flaenorol, canfu tîm dan arweiniad yr Athro Graham Hutchings, Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), fod catalydd wedi ei wneud o aur a phaladiwm yn defnyddio hydrogen ac ocsigen i greu hydrogen perocsid, sef diheintydd a ddefnyddir yn aml ac sy'n cael ei gynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol ar hyn o bryd.

Mae'r prosiect arloesi, dan arweiniad CCI, yn rownd derfynol y Water Discovery Challenge, a gaiff ei chynnal gan Challenge Works a'r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr Ofwat, gydag Arup ac Isle Utilities.

Meddai’r Athro Graham Hutchings, Athro Cemeg Regius: "Mae cael ein dewis i fynd i’r rownd derfynol yn rhoi cyllid i ni ddatblygu proses un cam wedi’i phrofi gydag Origin Aqua lle, ar wahân i'r catalydd, dim ond dŵr halogedig a thrydan y mae’n rhaid eu rhoi i mewn er mwyn ei ddiheintio.

“Yn hytrach na defnyddio hydrogen perocsid neu glorineiddio masnachol, mae defnyddio hydrogen ac ocsigen i greu adwaith gyda’n catalydd yn lladd bacteria a feirysau’n sylweddol well. Mae hyn yn dangos y potensial ar gyfer chwyldroi technolegau diheintio dŵr ledled y byd.

Cafodd ei brofi bod y dull sy’n seiliedig ar gatalydd yn 10,000,000 o weithiau yn fwy pwerus wrth ladd y bacteria, o’i gymharu â swm cyfatebol yr hydrogen perocsid diwydiannol, a mwy na 100,000,000 o weithiau yn fwy effeithiol na chlorineiddio, o dan amodau cyfatebol.

Mae'r dull hefyd yn fwy effeithiol wrth ladd y bacteria a'r feirysau mewn cyfnod byrrach o amser o'i gymharu â'r ddau gyfansoddyn arall.

Meddai Andrew Cox, Prif Swyddog Gweithredol Origin Aqua: "Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar y prosiect hwn fel rhan o’r Water Discovery Challenge. Gan weithio gydag ymchwilwyr, ein nod yw addasu ein system trin dŵr pwll i gynhyrchu dŵr clir, cost-effeithiol y mae modd ei yfed sy'n dod â buddion i filiynau o bobl ledled y byd."

Amcangyfrifir nad oes gan tua 785 miliwn o bobl fynediad at ddŵr a bod dŵr yn brin yn achos 2.7 biliwn yn ystod un mis y flwyddyn o leiaf.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth wreiddiol yn Nature Catalysis yn 2022. Mae'r tîm ar gyfer y Water Discovery Challenge yn dwyn ynghyd arbenigedd gan Hydrolize Ltd, yr Athro Hutchings, yr Athro Jean-Yves Maillard, Athro Microbioleg Fferyllol yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, a Dr Jennifer Edwards a Dr Richard Lewis (CCI).

https://youtu.be/5kwImC5_a4I

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.