Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen allgymorth economeg yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

19 Mehefin 2023

4 students stood at the front of a class smiling, about to present a Study Economics workshop
Student Champions

Fel rhan o raglen allgymorth ysgol newydd, mae myfyrwyr Economeg israddedig o Ysgol Busnes Caerdydd yn cyflwyno sesiynau rhyngweithiol ysbrydoledig i ddisgyblion ysgol uwchradd lleol.

Daeth Ysgol Busnes Caerdydd yn bartner academaidd yn ddiweddar i ymgyrch Darganfod Economeg y Gymdeithas Economaidd Frenhinol (RES), gan gefnogi ei rhaglen allgymorth i ysgolion.

Mae’r rhaglen DU gyfan hon, sy’n cynnwys prifysgolion eraill Grŵp Russell, wedi’i chynllunio i:

  • ehangu apêl economeg i ddarpar fyfyrwyr
  • newid y canfyddiadau ystrydebol o economeg ac economegwyr
  • denu mwy o fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i'r maes

Fel rhan o'r ymgyrch, mae Hyrwyddwyr Myfyrwyr sy'n astudio Economeg o Ysgol Busnes Caerdydd yn cyflwyno sesiynau arbenigol mewn amgylchedd hynod ryngweithiol mewn ysgolion uwchradd lleol. Mae'r sesiynau'n ymdrin â materion economaidd cyfredol ar bynciau fel yr argyfwng costau byw, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, prynu panig, addysg a thwf economaidd.

Yn ystod semester y gwanwyn, cyflwynodd grŵp o fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf weithdai yn Ysgol Uwchradd Willow's yng Nghaerdydd. Derbyniwyd y sesiynau gyda brwdfrydedd mawr gan ddisgyblion ysgol uwchradd. Goruchwyliwyd yr Hyrwyddwyr Myfyrwyr gan Hyrwyddwyr Academaidd gyda chefnogaeth yr RES.

Dywedodd yr Hyrwyddwyr Myfyrwyr: “Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd Willows i gyflwyno gweithdai i ddisgyblion mathemateg blwyddyn 10 i roi cipolwg ar economeg. Fel Hyrwyddwyr Myfyrwyr, ein nod yw cynyddu amrywiaeth ac annog mwy o bobl i astudio economeg. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y sgwrs economeg!”

Dywedodd Sam McLaughlin, Rheolwr yr Ymgyrch Darganfod Economeg: “diolch yn fawr iawn gen i a’r tîm yn RES. Gwerthfawrogir cefnogaeth Ysgol Busnes Caerdydd ac mae ei dirfawr angen. Edrychaf ymlaen at weld llawer o ysgolion lleol a’u disgyblion yn elwa.”

Dr Tommaso Reggiani o Ysgol Busnes Caerdydd a Dr Ramakanta Patra o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yw Pencampwyr Academaidd Darganfod Economeg i Gymru. Maen nhw’n gyffrous am yr ymgyrch ac yn edrych ymlaen at arwain yr ymgyrch i weddill Cymru yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Mae'n wych ymgysylltu â'r gymuned leol i newid canfyddiadau o economeg ac ehangu apêl y pwnc i ddisgyblion ysgol uwchradd. Rydym am roi gwybod iddynt nad yw economeg yn ymwneud ag arian a chyllid yn unig. Mae economeg ym mhobman a gall economegwyr ddylanwadu ar gyfeiriad materion sy’n effeithio ar gymunedau’r byd a’r drafodaeth yn eu cylch.”
Dr Tommaso Reggiani Senior Lecturer in Economics

I ddarganfod mwy am y dosbarthiadau a gynigir i ysgolion lleol, ewch i'r dudalen we hon.

Rhannu’r stori hon