Ewch i’r prif gynnwys

Medicentre yw’r lle delfrydol ar gyfer tenant newydd

14 Mehefin 2023

Mae dau ddyn sy'n hyfforddwyr ffitrwydd yn sefyll ac yn edrych ar y camera y tu mewn i Medicentre Caerdydd
Tom Scaife (chwith) a Gareth Bartlett

Mae cwmni iechyd a ffitrwydd i oedolion hŷn wedi symud i mewn i Medicentre Caerdydd.

Sefydlwyd Elderfit yn 2015 yn Gwmni Buddiannau Cymunedol i helpu i wella cryfder a chydbwysedd mewn pobl o bob oed, ond yn bennaf yr henoed.

Mae arian diweddar gan y Loteri Genedlaethol yn golygu bod sylfaenwyr y cwmni, Gareth Bartlett a Tom Scaife, yn gallu ehangu’r hyn y maen nhw’n ei gynnig. Cyn hyn, roedden nhw’n cynnal sesiynau ymarfer corff mewn cartrefi gofal preifat a bellach maen nhw’n rhoi dosbarthiadau i'r cyhoedd.

Yn sgil twf sylweddol y cwmni recriwtiwyd rheolwr prosiectau, tri hyfforddwr ymarfer corff ychwanegol ac agorwyd swyddfa yn y ganolfan biotechnoleg a thechnoleg feddygol.

“Mae Tom a minnau wedi bod yn awyddus iawn i weithio gyda cryn nifer o gleientiaid amrywiol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg,” meddai Gareth.

“Gan ein bod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, rydyn ni’n canolbwyntio’n gadarn ar ddiben cymdeithasol yn hytrach nag elw, ac rydyn ni wrth ein boddau y gallwn ymgysylltu â’r bobl hynny yn ein cymunedau sy’n cael budd go iawn o’r hyn a wnawn. Ar hyn o bryd daw mwy na 800 o bobl yr wythnos i’n sesiynau.

“Maen nhw rhwng 43 a 96 oed ac mae gan bawb ei lefel o ffitrwydd a symudedd ei hunan. Mae ein profiad yn golygu y gallwn greu’r rhaglenni hyfforddi a’r ymarferion unigol cywir i daro’r cydbwysedd perffaith i bawb.”

Mae Medicentre Caerdydd yn fenter lwyddiannus ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan gynnig lle a chymorth i fusnesau newydd ym maes biotechnoleg a thechnoleg feddygol.

Dyma a ddywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Arloesi Medicentre Caerdydd, “Mae Elderfit yn dîm hynod dalentog ac uchelgeisiol sy’n gwella bywydau ac yn lleddfu’r pwysau ar y GIG. Rydyn ni wrth ein boddau bod y cwmni wedi ymgartrefu yn Medicentre Caerdydd ac yn cefnogi Gareth a Tom yn eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Mae Gareth a Tom ill dau wedi gweithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd ers mwy na 20 mlynedd, a chryfder a chyflyru yw eu prif ffocws. Mae oedolion hŷn yn cael eu cynghori gan Brif Swyddog Meddygol y DU i weithio ar wella eu cydbwysedd am ddau ddiwrnod yr wythnos i leihau’r siawns o fynd yn eiddil a chwympo.

“Mae gwendid y cyhyrau, ynghyd â dirywiad naturiol o ran cydbwysedd wrth inni fynd yn hŷn, yn un o brif achosion anafiadau yn nes ymlaen mewn bywyd,” meddai Gareth. “Rydyn ni’n helpu pobl i frwydro yn erbyn hyn drwy roi’r offer a’r arweiniad iddyn nhw wella eu hiechyd corfforol a’u lles meddyliol.”

Mae'r cwmni'n bwriadu cyflogi mwy o hyfforddwyr i gyflwyno rhaglen gynyddol o sesiynau iechyd a ffitrwydd ledled Cymru ac yn Lloegr. Yn ystod yr ychydig o fisoedd nesaf, bydd rhaglen newydd sbon Elderfit sy’n hyfforddi hyfforddwyr newydd yn cael ei hachredu'n swyddogol yn ôl pob tebyg - rhywbeth y mae Gareth a Tom yn dweud sy'n allweddol i'w hymgyrch i ehangu yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.