Ewch i’r prif gynnwys

Plethu Hanesion Gwlân o Gymru a Chaethwasiaeth ynghyd

5 Gorffennaf 2023

Student artwork held up to camera

Mae arwyddocâd byd-eang gwlân o Gymru ym masnach caethwasiaeth yr Iwerydd yn destun prosiect ymchwil dan arweiniad academydd o Brifysgol Caerdydd.

Bu Dr Charlotte Hammond yn cydweithio ag artistiaid o fyfyrwyr yng Ngholeg Menai ym Mangor, Liz Millman o Learning Links International a Marcia Dunkley o Black Heritage Walks Networker mwyn ymchwilio i'r cyfnod hwn yn hanes Cymru sydd heb gael llawer o sylw hyd yn hyn. Cafodd y prosiect ei gefnogi gan Gyllid Arloesi Ymchwil Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Brethyn gwlân 'plaen' ond gwydn a gâi ei wehyddu yng nghanolbarth Cymru rhwng 1650 a 1850 oedd y ‘Welsh Plains’.

Cyn i gotwm gymryd ei le yn y pen draw, roedd gwlân wrth galon diwydiant tecstilau byd-eang yn ystod y ddeunawfed ganrif. Defnyddiai masnachwyr o Brydain y brethyn i brynu a masnachu caethweision o Affrica a herwgipid i weithio ar blanhigfeydd yng gwledydd yr Amerig yn y fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd. Defnyddiai perchnogion planhigfeydd yn y Caribî a De'r Unol Daleithiau y tecstilau gwlân a wehyddid â llaw yn ddillad ar gyfer caethweision a lafuriai yn y meysydd.

Yn y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth y Welsh Plains yn decstilau poblogaidd ar gyfer y siacedi, y gwasgodau, y smociau, y peisiau a’r trowsusau pen-glin a wisgid gan ddynion, merched a phlant a oedd yn gaethweision yng ngwledydd America. Ym 1823, ysgrifennodd y gwladychwr o Dde Carolina, Robert Maxwell, fod gweithgynhyrchwyr lleol wedi ceisio dynwared y Welsh Plains ond daeth i’r casgliad nad oedd cystal â’r gwreiddiol. Roedd yn well gan Maxwell brynu brethyn oedd “wedi ei wneud gan ffermwyr Cymru".

Nod y prosiect ymchwil a'r llyfr dwyieithog o'r un enw, Woven Histories of Welsh Wool and Slavery / Hanesion Cysylltiedig Gwlân Cymru a Chaethwasiaeth, a gyhoeddwyd gan Common Threads Press yw gwella gwybodaeth y cyhoedd am y ffyrdd y mae hanesion lleol o gynhyrchu gwlân yng Nghymru ynghlwm wrth hanesion byd-eang ehangach o safbwynt caethwasiaeth ac ymerodraeth ar draws yr Iwerydd.

Dyma a ddywedodd Dr Charlotte Hammond, sy'n gweithio yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd: "Nod y prosiect hwn oedd tynnu sylw at faes hanes sydd heb gael fawr o gydnabyddiaeth hyd yn hyn.

"Aeth y myfyrwyr ati i ymchwilio i olion o'r naratif hanesyddol hon sy'n cysylltu'r broses o ecsbloetio gwehyddion yng nghefn gwlad Cymru ag anghyfiawnder hiliol caethwasiaeth yr Iwerydd, a dibyniaeth y broses hon ar gylchrediad tecstilau a wneid yng Nghymru.

"Mae ein gwaith wedi mynd â ni o adfeilion pandai yn Nolgellau, Meirionnydd, ac ar hyd y llwybrau ceffylau pwn a gludai frethyn y Welsh Plains i Loegr. Yno, câi ei liwio a'i orffen yn yr Amwythig a’i anfon i Lundain ac i Lerpwl i gael ei fasnachu ac yna ei allforio i wledydd America.

"Rydyn ni wedi dilyn cysylltiadau trefedigaethol y brethyn i’r Caribî a thaleithiau deheuol UDA lle y defnyddid y Welsh Plains yn ddillad ar gyfer caethweision a lafuriai yn y planhigfeydd.

"Aethon ni ati i olrhain sampl fach o 'plains' a oedd yn rhan o restr llyfr samplu masnachwr (c.1800-1825) yng Nghasgliad Joseph Downs yn Llyfrgell Winterthur, Delaware (UDA). Mae'r sampl hwn yn dangos bod y defnydd yn un bras ac yn eithaf anghyfforddus i'w wisgo yn ôl pob tebyg, sef byd o wahaniaeth rhwng hwn a'r dillad sidan a'r lliain drud a wisgid gan berchnogion y planhigfeydd.

"Y gwaith celf sy'n deillio o'r grŵp o artistiaid a dylunwyr sy'n dod i'r amlwg yw eu hymateb gweledol i'r hanes hwn."

Dyma a ddywedodd Anne Butler, myfyrwraig a oedd yn rhan o'r prosiect: "Peth hynod ddiddorol oedd darganfod y cysylltiad rhwng yr hen felinau anghofiedig hyn, y mae byd natur bellach yn eu hadfer, a'u rhan yn y gwaith o gynhyrchu gwlân a ddefnyddid yn ddillad ar gyfer caethweision yr Iwerydd. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod yn taflu goleuni ar yr hanes yma.

"Roedd y prosiect wedi corddi teimladau cryf y gellid eu sianelu’n rhan o'n celf."

Dyma a ddywedodd yr ymchwilydd cymunedol Liz Millman, arweinydd prosiect 'From Sheep to Sugar' a gafodd gyllid y Loteri Genedlaethol yn 2019: "Peth hynod o anodd yw dod o hyd i unrhyw frethyn gwlân o'r cyfnod hwnnw. Yn aml, bydd gwyfynod yn difetha’r brethyn gwlân. Roedd dillad gwaith yn y planhigfeydd hefyd yn llai tebygol o gael eu cadw na dillad mwy cain megis ffrogiau sidan.

Buon ni’n gweithio gydag urddau’r nyddwyr, y gwehyddion a’r lliwyr i geisio deall yr holl broses ynghylch sut roedd y brethyn yn cael ei wneud, a'r newyddion mwyaf cyffrous yn ddiweddar yw ein bod wedi dod o hyd i enghraifft fechan iawn o frethyn gwlân Penistone. Gofynnon ni i wehydd arbenigol, Jo Andrews, sy'n recordio’r podlediad Haptic and Hue, i edrych arno ac mae'r cyfan yn gyffrous.”

Dyma a ddywedodd yr hanesydd a’r addysgwraig Marcia Dunkley: "Mae’n rhaid inni gysylltu stori gwlân o Gymru â'r Caribî a pharhau i ymchwilio i hanes y Welsh Plains o safbwynt yr Iwerydd os ydyn ni eisiau mynd i'r afael â'r hanes anghyflawn hwn. A oes gan bobl weddillion y brethyn hwn o hyd? Sut mae'n cael ei gofio yn y Caribî?"

Ychwanegodd Dr Hammond: "Dyma waith araf sy’n cael ei roi ar waith ar draws sawl platfform drwy gyfrwng y Cwricwlwm newydd i Gymru a sefydliadau diwylliannol a threftadaeth.

Mae'r gwaith o ddad-drefedigaethu ynghlwm wrth holi a stilio’r gorffennol a'i ganlyniadau arhosol yn broses barhaus sy'n gofyn am ymrwymiad hirdymor ar draws llu o sectorau.”

Mae gwaith myfyrwyr sy’n ymwneud â'r prosiect hefyd wedi cael ei arddangos ym Mhrifysgol Caerdydd. Mewn partneriaeth ag Elin Angharad o Lyfrgell Zine Cymru aeth grŵp o fyfyrwyr Gradd Sylfaen Celf a Dylunio Coleg Menai ati i greu eu zines bach eu hun a gaiff eu harddangos yn y llyfr sy’n rhad ac am ddim ar-lein

Yn eu zines defnyddion nhw ddeunyddiau print amrywiol yn yr archifau i ail-osod y brif naratif, sef golygfeydd o felinau neu blanhigfeydd lle y gwelir teithwyr o Ewrop. Gan ddefnyddio thema creu zines ar ffurf marronage – sef y weithred o ddianc o’r blanhigfa – defnyddiodd y myfyrwyr ddulliau ymchwil creadigol – arlunio, torri, coladu delweddau a thestun a chydosod naratifau newydd – yn fath o greu gwybodaeth amgen am yr hanes hwn a gafodd ei ddistewi.

Ychwanegodd Dr Hammond: "Rydyn ni’n ddiolchgar i'r holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y prosiect ac am eu hymatebion meddylgar i gyfnod yn hanes Cymru sydd heb gael fawr o sylw hyd yn hyn."

Rhybudd cynnwys: mae'r llyfr hwn yn cynnwys iaith hiliol a threfedigol sy'n cael ei hystyried yn dramgwyddus heddiw.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.