Ewch i’r prif gynnwys

Mae gofal iechyd carcharorion yn rhoi cleifion mewn perygl

1 Mehefin 2023

Prison

Nid yw anghenion gofal iechyd carcharorion yn Lloegr yn cael eu diwallu ac mae angen newidiadau hanfodol i sicrhau diogelwch cleifion, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Canfu'r dadansoddiad cenedlaethol cyntaf o ddiogelwch cleifion mewn carchardai yn Lloegr fod carcharorion yn wynebu oedi wrth iddyn nhw gyrchu gwasanaethau gofal iechyd a niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth. Camgymeriadau gan staff y carchar, megis drysu rhwng cleifion ag enwau tebyg, yw'r achos mwyaf cyffredin y rhoddir gwybod amdano mewn carchardai, yn ôl y tîm.

Gan fod carcharorion yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd dair gwaith yn fwy na'r boblogaeth yn gyffredinol a bod ganddynt ganlyniadau iechyd gwaeth, datgelodd yr ymchwilwyr feysydd y mae angen eu blaenoriaethu i wella diogelwch a deilliannau cleifion.

Dadansoddodd y tîm o brifysgol Caerdydd, Manceinion a Nottingham fwy na 4,000 o adroddiadau o garchardai dros flwyddyn gyfan, gan ymchwilio i achosion pan allai’r claf fod wedi cael niwed, neu achosion pan oedd hynny wedi digwydd.

Yn sgil ein hymchwil, canfuwyd:

  • Camgymeriadau gan y staff, megis drysu rhwng cleifion ag enwau tebyg, oedd y rhesymau mwyaf cyffredin a nodwyd yn yr adroddiadau.
  • Roedd traean yr achosion yn gysylltiedig â meddyginiaeth, a chollodd cleifion ddosau neu feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu cawsant y driniaeth anghywir.
  • Yn achos tri o’r 20 adroddiad, wynebodd carcharorion oedi cyn gallu cyrchu gofal iechyd neu roedden nhw’n methu â’i gyrchu, gan gynnwys apwyntiadau mewn ysbytai allanol.
  • Cafodd mwy na 20% o adroddiadau a oedd yn ymwneud â meddyginiaeth eu darganfod a'u lliniaru gan y staff, gan osgoi unrhyw niwed i’r cleifion.

Dyma a ddywedodd yr Athro Andrew Carson-Stevens, Athro Diogelwch Cleifion a Gwella Gofal Iechyd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae tua 80,000 o bobl mewn carchardai yn Lloegr ac mae'r nifer hwn yn cynyddu.

“Mae gan garcharorion ddeilliannau iechyd gwaeth, ac mae anghenion gofal iechyd meddwl a chorfforol sylweddol ynghlwm wrth y rhain. Maent yn boblogaeth sy'n heneiddio ac yn eu plith mae cyfraddau uchel o glefydau cronig ac o’r herwydd mae galw cynyddol ar wasanaethau gofal iechyd. Bydd gofynion iechyd unigryw carcharorion yn heriol o ran cyflawni’r rhain."
Athro Andrew Carson-Stevens

“Mewn carchardai, yn aml, bydd blaenoriaethau gofal iechyd cleifion yn cael eu cysgodi gan brif amcan carchar, sef sicrhau bod unigolion yn cael eu cadw’n gaeth yno. Oherwydd hyn, mae angen ystyried anghenion carcharorion a'u cyfrifoldeb ar y cyd o ran eu gofal.

“Yn ein hymchwil, dadansoddwyd yr achosion o ddiogelwch y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu gan garchardai yn Lloegr rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019. Ceisiwyd gennym ddisgrifio’r math o ddigwyddiadau o ran diogelwch cleifion a oedd yn digwydd yn aml mewn carchardai a dod o hyd i’r cyfleoedd i wella systemau gofal iechyd presennol mewn cyd-destunau lle bydd unigolion yn cael eu cadw’n gaeth mewn ffordd ddiogel.”

Amlygodd yr ymchwil fod diogelwch, cyfyngiadau staffio a throsiant uchel o garcharorion ymhlith y prif rwystrau rhag darparu gofal iechyd yn ddiogel i gleifion. Rhwystrau diogelwch, megis pan fydd adenydd carchardai wedi’u cloi’n gyfan gwbl, a diffyg staff oedd yr achosion mwyaf a nodwyd gan yr ymchwilwyr.

Cafwyd sawl argymhelliad yn yr astudiaeth, a’i ddiben oedd gwella’r ffordd y mae arweinwyr carchardai a gofal iechyd yn gallu gweithio gyda'i gilydd er budd gofal sy’n fwy diogel ac yn fwy cydlynus.

Dyma a ddywedodd Dr Joy McFadzean, Is-adran Meddygaeth Poblogaethau yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Hwyrach y bydd adolygu rotas y staff, gwella’r hyfforddiant ac ailystyried cynlluniau carchardai yn helpu i wella’r gallu i gyrchu gofal mewnol. Yn achos apwyntiadau allanol mewn ysbyty, byddai polisïau uwchgyfeirio diwygiedig a chynlluniau i sicrhau bod staff hebrwng yn cael eu rhoi ar waith, yn ogystal â chynyddu'r defnydd o apwyntiadau o bell a chlinigau 'mewngymorth', yn gwella deilliannau cleifion.

“Rydyn ni hefyd o’r farn y gallai arferion trosglwyddo safonol, polisïau i sicrhau bod gwybodaeth am feddyginiaeth a phresgripsiynau’n cael eu trosglwyddo'n ddiogel, a chynllunio priodol i ryddhau cleifion helpu i sicrhau parhad gofal pan fydd pobl yn cael eu trosglwyddo i garchar neu oddi yno.

“Mae'r astudiaeth hon yn pwysleisio pwysigrwydd gwella diogelwch meddyginiaeth a’r gallu i garcharorion gyrchu gwasanaethau gofal iechyd. Ar ôl dadansoddi'r adroddiadau, rydyn ni wedi gallu adnabod y meysydd i'w datblygu, a dylai hyn wella deilliannau cleifion yn y carchar.”

Ariannwyd yr astudiaeth gan Raglen Ymchwil Polisïau Ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.

Cyhoeddwyd y papur, Patient safety in prisons: a multi-method analysis of reported incidents in England, yn y Journal of the Royal Society of Medicine ar 18 Mai 2023.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.