Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 1 2023

5 Ebrill 2023

ISO9001 2023

Ail-Ardystio Rheolaeth o Ansawdd

Trwy gwblhau archwiliad ail-ardystio allanol o’n cyfleuster ym mis Mawrth yn llwyddiannus, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cynnal ein ardystiad i ISO 9001.

Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi.

I ategu ein hardystiad ISO 9001: 2015, rydym hefyd wedi'n hachredu ar gyfer Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP) i'n galluogi i gyflawni profion ar gyfer treialon clinigol. Mae ein harchwiliad allanol nesaf bob dwy flynedd ym mis Mehefin 2023.

Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.

Hyfforddiant ar Dechnolegau Arbenigol

Roedd yn wych gweld cymaint o gyfranogiad gweithredol yn y digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb diweddar ar y BD FACSymphony™ A3 Cell Analyzer a Nanostring GeoMX Digital Spatial Profiler, sy'n ategu'r nanostring nCounter yn CBS. Cawsom hefyd fwynhau croesawu ymchwilwyr i'n labordy y mis hwn i ddysgu am dechnoleg cyseiniant plasmon arwyneb Biacore.

Parhewch i siarad â neu cysylltwch â'n tîm i ddysgu am y technolegau hyn, sut i gael mynediad atynt a sut y gallant gefnogi eich ymchwil.

Yma a Thraw

Rydym wedi mwynhau mynychu cynadleddau wyneb yn wyneb a digwyddiadau rhwydweithio ar ddechrau 2023, gan fynychu digwyddiadau o fewn GW4 ac ymhellach i ffwrdd ledled y DU. Mae'r tîm wedi mynychu ystod o gynadleddau gan gynnwys Biofarcwyr 2023 a BioWales yn Llundain yn 2023, ac mae wedi croesawu gallu hyrwyddo Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog a Phrifysgol Caerdydd wrth ddysgu am dechnolegau a thueddiadau newydd yn ein sector.

Ymchwil Darganfod Wellcome mae'n amser i fod yn fentrus a chreadigol!

Yn eu digwyddiadau rhanbarthol diweddar, mae Wellcome wedi bod yn cyhoeddi newid mawr yn y strategaeth o ran Ymchwil Darganfod, a'u cenhadaeth eang bellach yw cefnogi ymchwil darganfod sy'n 'trawsnewid bywyd, iechyd a lles'.

Mae Wellcome yn awyddus iawn i annog mwy o ymchwilwyr o Gymru a’r De Orllewin i wneud cais am gyllid ymchwil darganfod, fel y dangoswyd gan eu digwyddiad darganfod rhanbarthol cyntaf a gynhelir yn ein rhanbarth.

Mae rownd bresennol Gwobrau Darganfod Wellcome yn cau ar 11 Ebrill gyda'r rownd nesaf yn agor ar 1 Mehefin ... nawr yw'r amser i fod yn fentrus a chreadigol!

Diweddariad Ynghylch Hyfforddiant

Byddwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddi technegol yn 2023. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb, a bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhithwir. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim, a bydd modd adfer costau ar gyfer rhai ohonynt, a hynny er mwyn helpu ymchwilwyr cymaint â phosibl. 

Byddwn yn cyhoeddi manylion digwyddiadau i ddod ar ein gwefan a Twitter, a bydd llawer ohonynt ar gael i ymchwilwyr mewnol ac allanol fel ei gilydd.

Darllenwch ymlaen i ddysgu am ein cyrsiau cytometreg lif a FlowJo ym mis Mai...

Sesiynau Hyfforddi Cytometreg Lif a FlowJo

Bydd Dr Graham Bottley o InCytometry yn cynnal y sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb canlynol yn Adeilad Henry Wellcome ddydd Mawrth 23 a dydd Mercher 24 Mai:

Cliciwch ar y dolenni uchod i gael rhagor o fanylion a chofrestru. I dalu ein costau, ffi y cwrs theori cytometreg llif diwrnod llawn ffi yw £50 a ffi y cwrs hanner diwrnod FlowJo yw o £25. Caiff ffioedd eu hanfonebu wedi’r cyrsiau.

Cofiwch fod ymgynghoriaeth un-i-un gan InCytometry i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhad ac am ddim o hyd. Cysylltwch â Graham yn uniongyrchol am gymorth cytometreg llif.

Gwyddoniaeth mewn Iechyd

Cefnogodd llawer o dîm CBS, ynghyd â chydweithwyr yn yr Ysgol Feddygaeth, ddigwyddiad byw Gwyddoniaeth mewn Iechyd y mis hwn. Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle i fyfyrwyr ym Mlwyddyn 12 sy’n astudio gwyddoniaeth a mathemateg Safon Uwch i ddysgu rhagor am yrfaoedd posibl a’r darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n digwydd ym maes gofal iechyd a’r gwyddorau bywyd. Cynhaliodd cydweithwyr CBS sawl taith labordy ar gyfer tua 60 o fyfyrwyr lle buom yn trafod rôl cyfleusterau craidd mewn ymchwil ac arddangos sawl platfform offer o’r radd flaenaf. Roedd yn brofiad hwyliog dros ben a diolch yn fawr i James Matthews, Karen Edwards ac eraill am drefnu’r digwyddiad ardderchog hwn.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.