Ewch i’r prif gynnwys

Gall dysgwyr sy’n oedolion astudio Wcreineg ym Mhrifysgol Caerdydd yr haf hwn

6 Ebrill 2023

Ukrainian flag

Bydd y cwrs dwys ar-lein hwn yn rhoi hwb i’ch dysgu

Mae Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnig rhaglen iaith dros yr haf i ddysgwyr sy’n oedolion ers blynyddoedd lawer. Eleni byddwn yn cynnig y dewis o Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg ac, am y tro cyntaf, Wcreineg.  Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at y rhai sy'n cynnal teuluoedd o Wcráin a'r rhai sydd â diddordeb yn iaith a diwylliant Wcráin.

Bydd y dosbarth dwys yn cael ei gynnal ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau am bythefnos o 12 Mehefin. Bydd y dosbarthiadau ar-lein yn cael eu cynnal rhwng 18:00 a 20:00 ac wedi’u cynllunio i fod yn gyflwyniad i’r iaith. Gallwch ddisgwyl dosbarth ar-lein rhyngweithiol, heriol ond cefnogol.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu gan Dr Maryna Calder sy’n wreiddiol o Wcráin. Dywedodd Maryna:

“Nod y cwrs yw cyflwyno dechreuwyr pur i’r iaith Wcreineg a rhai agweddau ar ddiwylliant Wcráin: dysgu’r wyddor a geirfa bob dydd, caffael gwybodaeth ramadeg sylfaenol, datblygu sgiliau cyfathrebu ar gyfer sefyllfaoedd sylfaenol yn ogystal â dysgu rhai agweddau ar ddiwylliant Wcráin.

Mae Wcreineg yn iaith gyffrous i’w dysgu a fydd yn agor drysau i ddealltwriaeth well o bobl Wcráin sy’n byw yn y DU, eu diwylliant a’u traddodiadau.”

I ddathlu ein rhaglen iaith newydd, rydym yn lansio cystadleuaeth lle gallwch ennill cwrs rhad ac am ddim. Mae'r gystadleuaeth ar agor tan 10 Mai 2023. I gystadlu mae angen i chi gwblhau arolwg byr iawn.

Rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Rhannu’r stori hon