Ewch i’r prif gynnwys

Cryfhau sail gwyddoniaeth a pheirianneg Wcráin

29 Mawrth 2023

Diolch i gyllid newydd, mae Prifysgol Caerdydd yn ehangu ei chymorth i Brifysgol Bolytechnig Genedlaethol Zaphorizhzhia (ZNPU) yn Wcráin, a bydd yn helpu’r sefydliad – a’r wlad – i gryfhau ei sail gwyddoniaeth a pheirianneg.

Bydd y cyllid, gwerth £164,000 a ddyfarnwyd gan gynllun grantiau cyfeillio Universities UK International (UUKi) ar gyfer ymchwil ac arloesedd, yn cael ei ddefnyddio i helpu i gefnogi partneriaethau rhwng academyddion a myfyrwyr yn y ddwy brifysgol, adeiladu ar y cydweithredu sy’n digwydd ym meysydd ymchwil ac arloesedd, a helpu i ailadeiladu economi Wcráin.

Mae’r cyllid newydd yn rhoi hwb i bartneriaeth gefeillio bresennol rhwng y ddwy brifysgol, lle mae Prifysgol Caerdydd wedi cefnogi darpariaeth llyfrgelloedd ZNPU, cynnal gweithgareddau allgymorth i blant o Wcráin (gan gynnwys digwyddiad ‘Noson Wyddoniaeth’), a rhoi offer TG hanfodol i ZNPU i’w helpu i addysgu ar-lein oherwydd sielio trwm yn yr ardal.

Bydd pedwar gweithgaredd allweddol yn cefnogi ZNPU dros y misoedd nesaf:

- Bydd academyddion o ZNPU yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd yn rhan o brosiect addysg ac ymchwil cydweithredol sy’n canolbwyntio ar wyddor deunyddiau, deallusrwydd artiffisial a roboteg (gan gynnwys gwaith cipio data â dronau), peiriannau trydanol a systemau ynni, gwyddor data, a dulliau o ddadansoddi data amser real.

- Bydd Ysgol Haf Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Gwyddor Data i israddedigion/ôl-raddedigion ZNPU yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn cynnwys cwrs iaith Saesneg ac yn rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr gwrdd â myfyrwyr rhyngwladol eraill yn y Brifysgol a chymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol.

- Bydd trwyddedau meddalwedd yn cael eu cyllido i gefnogi gwaith addysgu ac ymchwil ZNPU ac adeiladu ar weithgarwch sy’n gysylltiedig ag ymweliadau academyddion a myfyrwyr â Phrifysgol Caerdydd.

- Bydd staff Prifysgol Caerdydd yn cynnal cyrsiau iaith Saesneg dwys i staff a myfyrwyr ZNPU, gyda’r nod o gefnogi cydweithredu y tu hwnt i Wcráin, datblygu rhwydweithiau newydd, a’i gwneud yn bosibl cyhoeddi amrywiaeth eang o destunau academaidd.

Dyma a ddywedodd yr Athro Omer Rana, Deon Rhyngwladol y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ac arweinydd technegol y prosiect newydd: “Rydym yn falch o dderbyn y wobr gan gynllun grantiau gefeillio rhyngwladol Ymchwil ac Arloesi Prifysgolion y DU (UUKi) i Wcráin. Bydd hyn yn ein galluogi i ehangu’r bartneriaeth bresennol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bolytechnig Genedlaethol Zaporizhzhia.

“Mae gan y ddwy brifysgol gryfderau ymchwil ym maes AI sy’n cyd-fynd â’i gilydd, roboteg a gwyddor data, a bydd y dyfarniad ariannol hwn yn helpu i hwyluso ymchwil ac arloesi ar y cyd yn y meysydd allweddol hyn.”

Mae'r prosiect newydd eisoes ar y gweill, a bydd ar waith tan ddiwedd mis Awst.

Rhannu’r stori hon