Ewch i’r prif gynnwys

Pum aelod o staff y Brifysgol yn cael eu cydnabod gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n ymadael â’r swydd

30 Ionawr 2023

Sophie Howe
Sophie Howe

Mae staff Prifysgol Caerdydd ymhlith y rheini a fydd yn cael eu cynnwys yn Ysgogwyr Newid 100 Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae'r rhestr yn cydnabod pobl sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros Gymru. Dewiswyd y rhestr gan Gomisiynydd cyntaf Cenedlaethau'r Dyfodol, Cymrawd Anrhydeddus a chyn-fyfyriwr Sophie Howe (LLB 1999, Hon 2022), wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor o saith mlynedd.

Llwyddodd pump o staff y Brifysgol i gyrraedd y rhestr:

  • Ali Abdi – Rheolwr Partneriaethau’r Porth Cymunedol;
  • Yr Athro Debbie Foster o Ysgol Busnes Caerdydd
  • Yr Athro Calvin Jones o Ysgol Busnes Caerdydd
  • Yr Athro Laura McAllister (PhD 1995, Anrh 2013) o Ganolfan Llywodraethiant Cymru;
  • Kelechi Nnoaham - athro anrhydeddus iechyd cyhoeddus ac epidemioleg yn yr Ysgol Meddygaeth.

Maen nhw’n ymuno â beirdd, gweithwyr yn y sector cyhoeddus, ymgyrchwyr, dylanwadwyr, busnesau, ysgolion a gwirfoddolwyr, yn ogystal â'r actor, ymgyrchydd a’r Cymrawd Anrhydeddus Michael Sheen (Hon 2019). Cydnabuwyd nifer o Gymrodyr Er Anrhydedd a chyn-fyfyrwyr eraill ar y rhestr hefyd.

Cymru yw'r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Ms Howe yw Comisiynydd statudol cyntaf y byd ym maes Cenedlaethau'r Dyfodol .

Dyma a ddywedodd Sophie Howe: “Mae deddfwriaeth Cymru ym maes lles yn gosod y rhwymedigaeth ar gyrff cyhoeddus i weithredu y tu allan i'r sefyllfa bresennol, ond mae miloedd o bobl hefyd yn gwneud newidiadau cadarnhaol bob dydd.

“Nod y digwyddiad hwn yw cydnabod dim ond rhai o'r bobl sy'n dangos yr hyn sy'n digwydd pan fyddwn ni’n rhoi lles yn gyntaf, yn gweithio gyda'n gilydd ac yn ystyried goblygiadau hirdymor ein gweithredoedd, ac mae'n pwysleisio’r angen i gefnogi’r ysgogwyr newid fel y gallan nhw wella’r gymdeithas er budd pawb.

“Dim ond cipolwg ar ysgogwyr newid rhagorol Cymru yw Ysgogwyr Newid 100 Cenedlaethau'r Dyfodol, ac rydyn ni eisiau i bobl eraill rannu'r bobl sy'n eu hysbrydoli, gan barhau i wella nawr ac yn ystod cenedlaethau'r dyfodol.”

Rhannu’r stori hon