Ewch i’r prif gynnwys

Enillydd Gwobr Nobel yn annerch Cynhadledd CCI

16 Ionawr 2023

Isaac Daniels, CCI; Tetiana Kulik, Chuiko Institute of Surface Chemistry at the National Academy of Sciences of Ukraine in Kyiv; Professor Duncan Wass, Director, Cardiff Catalysis Institute; Professor Ben Feringa; Naomi Lawes, CCI
O'r chwith i'r dde: Isaac Daniels, CCI; Tetiana Kulik, Sefydliad Cemeg Arwyneb Chuiko yn Academi Genedlaethol y Gwyddorau Wcráin yn Kyiv; yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr, Sefydliad Catalysis Caerdydd; yr Athro Ben Feringa; Naomi Lawes, CCI

Ymunodd yr Athro Ben Feringa, sydd wedi ennill Gwobr Nobel, â llu o enwogion ar gyfer cynhadledd flynyddol Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI).

Rhoddodd y cemegydd organig synthetig o’r Iseldiroedd, sy’n arbenigo mewn nanotechnoleg foleciwlaidd a chatalysis homogenaidd, araith ar Archwilio Gofod Catalytig yn y digwyddiad deuddydd.

Dywedodd yr Athro Feringa, a enillodd Wobr Nobel mewn Cemeg 2016 gyda JF Stoddart a JP Sauvage: “Roeddwn wrth fy modd yn cymryd rhan yng Nghynhadledd CCI ac fe’m trawyd yn fawr gan ansawdd yr ymchwil gyrfa gynnar a ddangoswyd, ehangder a dyfnder gwaith CCI ar draws y maes catalysis, a’r cyfleusterau TRH newydd gwych lle gall CCI ddatblygu ei gydweithrediadau uchelgeisiol gyda diwydiant a’r gymdeithas ehangach i chwilio am nodau Sero Net.”

Clywodd y gynhadledd, gyda 120 o gynrychiolwyr, hefyd gan Dr Tetiana Kulik - athro o Wcráin sy'n gweithio ar hyn o bryd yn CCI fel rhan o raglen Ymchwilwyr mewn Perygl yr Academi Brydeinig, ac ymunodd â CCI o Sefydliad Cemeg Arwyneb Chuiko yn Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Wcráin yn Kyiv.

Dywedodd Dr Kulik: “Rwy eisiau mynegi fy niolch am gael y cyfle i siarad yn y gynhadledd bwysig hon. Mae’n fraint fawr i mi, a hoffwn i ddiolch i’r Athro Duncan Wass am y gwahoddiad caredig. Mae gwneud ymchwil wyddonol yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) ar y cyd â gwyddonwyr enwog, gan ddefnyddio offer datblygedig yn creu cyfleoedd rhyfeddol ac yn gwireddu fy mreuddwydion.

“Byddwn i wedi bod ar ben fy nigon i gael gweithio gyda CCI yn ystod cyfnod o heddwch. Yn anffodus, rydyn ni’n cydweithio o dan bwysau rhyfel. Diolch yn fawr iawn i’r gwyddonwyr yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, yr Ysgol Cemeg a Phrifysgol Caerdydd am fy helpu i barhau â’m hymchwil. A diolch o galon i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru am eu caredigrwydd a’u cymorth rhyfeddol yn ogystal â’u parodrwydd i ddangos cefnogaeth i Wcráin!”

Cynhadledd CCI yw'r gyntaf i'w chynnal yn y Ganolfan Ymchwil Drosiadol (TRH) – cartref newydd y Sefydliad ar Gampws Arloesedd Caerdydd.

Mae TRH yn gyfleuster pwrpasol newydd, sy'n cynnig labordai, cyfarfodydd, a gofodau swyddfa i feithrin partneriaethau diwydiant-academaidd sy'n llywio arloesedd a nodau Sero Net y Brifysgol ar gyfer gwyddorau catalysis a lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Dywedodd yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd: “Roedd yn bleser pur croesawu’r Athro Feringa a Kulik i’n 9fed gynhadledd flynyddol – y gyntaf i’w chynnal yn y TRH sydd newydd agor ar ein campws arloesi.”

“Roedd yn wych i ni allu cynnal amrywiaeth wych o siaradwyr o’r DU a ledled y byd a rhannu ein cyffro ynghylch y posibiliadau ar gyfer catalysis y mae ein hadeilad newydd gwych yn eu cynnig.”

Mae CCI yn uno ymchwil o safon fyd-eang mewn catalysis biolegol, heterogenaidd, homogenaidd mewn un sefydliad. Sefydlwyd CCI gan Ysgol Cemeg Caerdydd a’i nodau yw gwella dealltwriaeth o gatalysis, gweithio gyda byd diwydiant i ddatblygu prosesau catalytig newydd yn ogystal â hyrwyddo'r defnydd o gatalysis yn dechnoleg gynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.