Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 4 2022

20 Rhagfyr 2022

QMS

Uchafbwyntiau 2022

Wrth edrych yn ôl dros 2022, rydym yn falch o fod wedi cefnogi sbectrwm eang o ymchwil y tu mewn a'r tu allan i Brifysgol Caerdydd, drwy wneud gwaith gwasanaeth a chefnogi defnyddwyr wrth iddynt gyrchu ein cyfleusterau.

Rydym hefyd yn falch o gynnal ein ardystiad ISO 9001 a thrwy gefnogi TeloNostiX, un o gwmnïau deilliannol Prifysgol Caerdydd sy’n ymwneud â diagnosteg in vitro yn y Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog, i ennill eu achrediad ISO/IEC 17025:2017.

Bu dychwelyd i hyfforddiant wyneb yn wyneb yn uchafbwynt arall.

Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am ein gweithgareddau, ein gwasanaethau a'n digwyddiadau sydd ar y gweill!

Diweddariad Rheoli Ansawdd


Drwy gwblhau archwiliad gwyliadwriaeth blynyddol ein cyfleuster yn llwyddiannus ym mis Mawrth 2022, rydym wedi cadw ein hardystiad i ISO 9001. Oherwydd y pandemig, hwn oedd ein harchwiliad wyneb yn wyneb cyntaf ers mis Chwefror 2020. 

Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi.

I ategu ein hardystiad ISO 9001:2015, rydym hefyd wedi ein hachredu ar gyfer Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP), sef ein harchwiliad allanol bob dwy flynedd nesaf yn haf 2023.

Dychwelyd i gynnal digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb...

Mae wedi bod yn wych dychwelyd i gynnig digwyddiadau wyneb yn wyneb yn 2022, gan roi mwy o opsiynau i'r cyfranogwyr rwydweithio ochr yn ochr â'u dysgu. Diolch i bawb a gymerodd ran ein digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb diweddar, gan gynnwys y cyrsiau cytometreg llif gan InCytometry, gweithdy Mynegiant Gene Thermo Fisher, yr hyfforddiant IPA gan Qiagen a'r seminar nCounter gan Nanostring.

...A dychwelyd i gynadleddau wyneb yn wyneb!

Rydym hefyd wedi mwynhau dychwelyd i gynadleddau wyneb yn wyneb yn 2022. Rydym wedi croesawu’r cyfle i hyrwyddo'r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog a Phrifysgol Caerdydd wrth ddysgu am dechnolegau a thueddiadau newydd yn ein sector. Roeddem wrth ein bodd bod Sumukh Deshpande, ein Biowybodegydd CBS, wedi derbyn lle wedi'i ariannu'n llawn i fynd i Biohackathon Ewrop ym Mharis.  Llongyfarchiadau Sumukh!

Cyfarpar yma yn y Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog

Yn ein Cylchlythyr Chwarter 2 eleni gwnaethom eich atgoffa am y technolegau allweddol yn y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog. Hoffem ni eich atgoffa nawr am yr offerynnau llai adnabyddus y gallwch eu defnyddio. Darllenwch ymlaen a chliciwch ar enwau'r offerynnau isod i ddarganfod mwy...

Datgysylltydd Octo gentleMACS™
Mae'r offeryn hwn yn homogeneiddio ac yn datgysylltu hyd at wyth sampl meinwe mewn ffordd gwbl awtomataidd a safonedig.

System Transfection Neon™
Mae'r offeryn hwn yn galluogi cyflwyno asidau niwclëig yn gyflym ac yn effeithlon i bob math o gelloedd mamalaidd, gan gynnwys celloedd cynradd, bôn-gelloedd a rhai sy’n anodd gwneud hyn iddynt.

Sbectroffotomedr Nanodrop 
Mae hwn yn sbectroffotomedr UV-gweladwy bach, annibynnol ar gyfer mesur samplau crynodedig iawn ar draws amrywiaeth eang o ddadansoddiadau heb yr angen am wanedu

TissueLyser II

Mae'r offeryn hwn yn amharu ar samplau biolegol lluosog ar yr un pryd trwy ysgwyd cyflym mewn tiwbiau plastig gyda dur gwrthstaen, carbid twngsten, neu leiniau gwydr. 

System Bioanalyzer 2100
Offeryn electrofforesis awtomataidd yw hwn ar gyfer rheoli ansawdd samplau o fiomoleciwlau. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer mesuriadau maint, nifer, cyfanrwydd a phurdeb DNA, RNA, a phroteinau.

Edrych ymlaen at 2023...

Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.

Byddwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddi technegol yn 2023. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb, a bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhithwir. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim, a bydd modd adfer costau ar gyfer rhai ohonynt, a hynny er mwyn helpu ymchwilwyr cymaint â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi manylion digwyddiadau i ddod ar ein gwefan a Twitter, a bydd llawer ohonynt ar gael i ymchwilwyr mewnol ac allanol fel ei gilydd... Dyma rai digwyddiadau isod i roi syniad i chi o’r hyn sydd i ddod!

Gweminarau Cytometreg Llif

Bydd Dr Graham Bottley o InCytometry yn cynnal y gweminarau hyfforddi ar-lein canlynol ar 17, 18 a 19 Ionawr:
Theori cytometreg llif: Rhan 1
Theori cytometreg llif: Rhan 2
FlowJo

Cliciwch ar y dolenni uchod i gael rhagor o fanylion a chofrestru. Codir tâl o £25 yr un ar gyfer y gweminarau hyn, a hynny i dalu'r costau (anfoneb i ddilyn). Cofiwch fod ymgynghoriaeth un-i-un gan InCytometry i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhad ac am ddim o hyd. Cysylltwch â Graham yn uniongyrchol am gymorth cytometreg llif.

Seminar Proffilio Gofodol Digidol GeoMx Nanostring

Rydym wrthi’n trefnu seminar wyneb-yn-wyneb gan Nanostring ar dechnoleg Proffilio Gofodol Digidol GeoMx ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y seminar hon yn cael ei chynnal ddydd Iau, 2 Mawrth am 11am yn Adeilad Henry Wellcome ar safle’r Mynydd Bychan.

Cadwch y dyddiad. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law!

Seminar cytometreg llif dimensiwn uchel BD

Rydym hefyd wrthi’n trefnu seminar wyneb-yn-wyneb gan BD ddydd Mawrth, 31 Ionawr yn Adeilad Henry Wellcome ar safle’r Mynydd Bychan. Bydd y seminar cytometreg llif hwn yn ymdrin â cytometreg llif aml-liw, gan gynnwys dyluniad panel, i gyflwyno ein cytomedr llif dimensiwn uchel, Dadansoddwr Celloedd A3 FACSymphony™ BD.

Cadwch y dyddiad. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law!

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.