Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 2 2022

23 Mehefin 2022

Proteins and diagnostics
Paratoi plât.

Eich atgoffa o'r hyn sydd gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canoleg i'w gynnig!

Yn dilyn codi cyfyngiadau COVID-19, roeddem yn meddwl y byddai’n amser da eich atgoffa o rai o’r gwasanaethau sydd ar gael yma yn y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog. Mae'r gwasanaethau hyn ar gael i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, prifysgolion eraill, y GIG a busnesau allanol. Gan ddibynnu ar yr offeryn penodol, rydym yn cynnig gwasanaeth rheoli’n llawn, cyngor ar ddylunio arbrofol neu fynediad at ein cyfleusterau.

Mae ein hoffer cytometreg llif yn cynnwys ImageStream X Marc II gan Amnisdosbarthwr celloedd BD FACSAria IIIdadansoddwr celloedd BD FACSymphony A3, yn ogystal â detholiad o cytomesuryddion llif pen mainc.

Mae ein hoffer genomeg yn cynnwys offer qPCR amser real, platfform araeau micro gan Affymetrix a’n hofferyn nCounter MAX Analysis System newydd gan nanoString.

Mae gennym hefyd offeryn Biacore T200 ar gyfer dadansoddi rhyngweithio macromoleciwlaidd yn ddi-label a phlatfform MESO QuickPlex SQ 120 gan MSD ar gyfer imiwnobrofion cemoleuedd wedi’i electrocynhyrchu.

Yn ogystal â chymorth eang ar dechnoleg a biowybodeg, rydym yn cynnig cyngor ar reoli ansawdd ac achredu.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth ein holl wasanaethau. Fel arall, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion penodol!

Diweddariad ynghylch hyfforddiant

Diolch i bob un ohonoch sydd wedi ymuno â’n sesiynau hyfforddi diweddar ar qPCR, theori Llif Cytometreg a meddalwedd FlowJo.

Byddwn yn parhau i drefnu cyrsiau, rhai yn rhad ac am ddim a rhai ar sail adennill costau, i gefnogi ymchwilwyr gymaint ag y gallwn. Cysylltwch â ni i, drafod eich anghenion hyfforddi, a chynnig awgrymiadau, a chadwch olwg cyson ar ein gwefana dilynwch ni ar Twitter i gael manylion ynghylch digwyddiadau sydd ar y gweill.

A oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod rhagor am ddata?

Sefydliad rhynglywodraethol yw ELIXIR sy'n dod ag adnoddau’r gwyddorau bywyd o bob rhan o Ewrop ynghyd. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys cronfeydd data, offer meddalwedd, storfa cwmwl a deunyddiau hyfforddi fel TeSS. TeSS yw porth hyfforddi ar-lein ELIXIR sy'n dod â deunyddiau a chyrsiau hyfforddi’r gwyddorau bywyd o bob rhan o Ewrop ynghyd. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i wyddonwyr ddod o hyd i'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt ... mynnwch gip arno!

Darganfyddwch ragor am Gymrodoriaeth DaSH ELIXIR-UK. Nod y gymrodoriaeth hon yw gwreiddio gwybodaeth am reoli data ymchwil ym mhrifysgolion a sefydliadau’r DU. Bydd Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r tîm cyflawni. Cliciwch yma i ddarllen yr holl fanylion.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.