Ewch i’r prif gynnwys

Yn cyflwyno’r myfyriwr PhD, Kaisa Pankakoski

20 Rhagfyr 2022

Treuliodd Kaisa bum mis fel ymchwilydd gwadd ym Mhrifysgol Helsinki yn gwneud gwaith maes. Cwblhaodd hefyd hanner marathon rhithwir Caerdydd, yn yr eira!

Buom yn siarad â myfyriwr PHD o Ysgol y Gymraeg, Kaisa Pankakoski, i ddarganfod mwy am ei hymchwil, yr hyn a’i harweiniodd ati, a pham y byddai’n annog eraill i ddilyn yr un llwybr academaidd.

Pwy ydych chi, o ble rydych chi'n dod, a beth yw eich cefndir academaidd hyd yn hyn?

Cefais fy ngeni a'm magu yn y Ffindir. Bythefnos ar ôl cwblhau addysg orfodol, penderfynais symud dramor i chwilio am antur. Arweiniodd hyn at weithio ac astudio mewn pum gwlad wahanol a dwsin o ddinasoedd gwahanol cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd!

Cwblheais radd israddedig yn Portsmouth, ac yna Newyddiaduraeth Ryngwladol (MA) ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2005. Cyn dychwelyd i'r byd academaidd i gwblhau PhD, bûm yn gweithio mewn newyddiaduraeth, ymchwil, cyfieithu a marchnata am dros ddeng mlynedd.

Beth wnaeth i chi benderfynu astudio PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd?

Roeddwn i eisiau ymchwilio i deuluoedd amlieithog. Roedd fy mhrofiad o gwblhau gradd ôl-raddedig wedi bod yn un cadarnhaol iawn, felly roeddwn i eisiau aros yn lleol ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn i’n gwybod bod gan Ysgol y Gymraeg ystod eang o arbenigedd o hanes i ieithyddiaeth gymdeithasol, felly trefnais gyfarfod â’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach dechreuais PhD!

Ydych chi'n byw yng Nghaerdydd? Os felly, beth yw eich hoff beth am y ddinas?

Roeddwn i'n teimlo'n gartrefol yng Nghaerdydd yn syth bin. Dwi wrth fy modd gyda’i naws amlddiwylliannol a dwyieithog, yr hafau hirach, y parciau, yr amrywiaeth o ddigwyddiadau sydd ar gael, nofio gwyllt, stiwdios ioga hardd a chyfleoedd eraill i roi cynnig ar wahanol chwaraeon, caffis bach hynod, y mwyafrif o Gymry, llwybrau rhedeg ger yr afonydd, ac agosrwydd natur — mae traethau, rhaeadrau a mynyddoedd oll o fewn cyrraedd hawdd.

Beth wnaeth eich arwain at eich dewis bwnc ymchwil?

Mae fy mhlant yn deirieithog. Roedd y gwahanol brofiadau o fagwraeth amlieithog a’i gwahanol ganlyniadau yr oeddwn yn eu gweld o'm cwmpas yn ennyn fy chwilfrydedd. Nid yw pob plentyn sy'n cael ei eni i gartrefi trawswladol yn tyfu i fyny yn siarad dwy iaith neu fwy. Mae'n eithaf cyffredin nad yw plant a allai fod yn amlieithog yn caffael iaith leiafrifol neu iaith etifeddiaeth. Mae rhai teuluoedd yn llwyddo i drosglwyddo'r ieithoedd tra nad yw eraill yn gwneud hynny, sy'n golygu mai dim ond gwybodaeth oddefol neu gyfyngedig sydd gan y plant o'u hiaith/hieithoedd eraill. Roeddwn i eisiau gwybod pam roedd hyn yn wir!

Rhowch drosolwg byr o'ch dewis bwnc ymchwil.

Mae fy astudiaeth yn edrych ar bedwar teulu astudiaeth achos ar ddeg mewn dwy ardal brifddinas ddwyieithog amrywiol yn Helsinki a Chaerdydd. Mae teuluoedd yr astudiaeth achos yn siaradwyr iaith leiafrifol swyddogol (Swedeg neu Gymraeg). Roedd y plant hefyd yn dod i gysylltiad â'r iaith fwyafrifol swyddogol (Ffinneg neu Saesneg), ac o leiaf un iaith ychwanegol.

Defnyddiais holiaduron, cyfweliadau lled-strwythuredig ac arsylwadau yng nghartrefi'r teuluoedd i archwilio sefyllfaoedd y teuluoedd. Dadansoddwyd data gan ddefnyddio dadansoddiad thematig atblygol.

Dywedwch wrthym am eich taith PhD.

Oherwydd fy ngwaith arall, y llwyth emosiynol a'r cyfrifoldebau gofalu, rwy'n cwblhau'r PhD yn rhan-amser. Mae staff Ysgol y Gymraeg wedi bod yn gymwynasgar iawn o ran hyn, a bydd hi braidd yn drist ffarwelio â nhw pan fyddaf yn gorffen fy nhraethawd ymchwil! Dechreuais fel myfyriwr hunangyllidol ac yn y diwedd llwyddais i gael cyllid gan ychydig o wahanol gyrff cyllido, gan fy ngalluogi i leihau fy nghyfrifoldebau gwaith eraill.

Mae wedi bod yn daith hir, anwastad, heriol a syndod o bleserus. Cefais gyfle i fynychu sawl cynhadledd mewn lleoliad cyn y pandemig.

Rwyf hefyd wedi achub ar bob cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol: Rwyf wedi rhoi cyfweliadau arbenigol i gylchgronau a phapurau newydd, wedi ysgrifennu erthyglau academaidd ac anacademaidd, wedi ysgrifennu blogiau, wedi cynnal gweithdai ar gyfer teuluoedd ac addysgwyr amlieithog, wedi cyd-drefnu cynhadledd amlieithrwydd ac yn awr rwy’n cyd-gynnal grŵp ymchwil amlieithrwydd amlddisgyblaethol. Cymerais ran mewn nifer o ddigwyddiadau Ysgol y Gymraeg a dyfarnwyd y wobr gyntaf i mi yn fy hoff ddigwyddiad academi ddoethurol erioed; Delweddau Ymchwil!

Dywed Kaisa mai un o'r profiadau mwyaf gwerth chweil oedd mynychu cynadleddau, a rhwydweithio ag eraill ym maes amlieithrwydd.

Pam y byddech chi’n annog eraill i wneud PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd?

Mae Ysgol y Gymraeg yn ysgol fach gyda staff gwych a gwybodus ac mae ganddi amgylchedd cyfeillgar. Mae’n gymuned hyfryd, Cymraeg ei hiaith ac mae croeso hefyd i’r rhai sy’n dod o gefndiroedd di-Gymraeg gyda breichiau agored! Mae fy nau oruchwyliwr wedi bod yn gefnogol ac maen nhw’n bobl wych.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl graddio?

Rwyf wrth fy modd gyda gwaith ymchwil ac ysgrifennu, felly byddwn yn bendant eisiau defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth hyn mewn swydd yn y dyfodol! Hoffwn fynd â fy nysgu Cymraeg i’r lefel nesaf, dod o hyd i gi achub, a hefyd barhau i weithio ar fy liwt fy hun.

Rhannu’r stori hon