Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaid ym Maleisia yn croesawu Pennaeth Ysgol newydd i Kuala Lumpur

8 Rhagfyr 2022

Twin Towers Petronus yn Kuala Lumpur.
Yr enwog Petronus Twin Towers yn Kuala Lumpur.

Fis Tachwedd eleni, teithiodd yr Athro Warren Barr, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, i Faleisia i ymweld â sawl partner sydd gan Adran y Gyfraith ym Maleisia. Mae’r Athro Barr, a ymunodd â’r ysgol ym mis Medi 2022, yn dod â chyfoeth o wybodaeth ryngwladol ar ôl cynnal ymweliadau recriwtio rhyngwladol ers mwy na 20 mlynedd. Mae hefyd yn gyd-Gadeirydd Consortiwm Rhaglen Trosglwyddo i'r DU Coleg Brickfields Asia (BAC), sef un o'r prif bartneriaid.

Mae'r Consortiwm yn ymdrin â phrosesau sicrhau ansawdd, gan gynnwys trefnu arholwyr allanol, ac yn ychwanegu gwerth at BAC drwy gynnal gweithgareddau datblygu staff drwy law’r aelodau. Mae rhaglen drosglwyddo yn golygu bod myfyrwyr cymwys sy'n astudio rhaglen LLB mewn sefydliad partner yn gallu trosglwyddo i Brifysgol Caerdydd i gwblhau eu hastudiaethau.

Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn hynod o bwysig inni. Roedd meithrin a chynnal ein perthynas â nhw a’r prifysgolion partner lle maen nhw wedi bod yn astudio yn rhywbeth roedd yr Athro Barr yn awyddus iawn i’w ailsefydlu wrth inni ddechrau ymdopi â COVID-19 a dychwelyd i’r campws. Yma mae'n ysgrifennu am ei brofiadau yn y rhanbarth.

"Ym mis Tachwedd 2022, teithiais i Kuala Lumpur, Maleisia i ymweld â llawer o bartneriaid sydd gan Adran y Gyfraith ym Maleisia. Dros y blynyddoedd, mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi datblygu sawl perthynas hynod o gryf â nifer o sefydliadau partner yn y rhanbarth, felly roeddwn i’n awyddus i gwrdd â’r rhain yn fy swydd newydd yn Bennaeth Ysgol a hyrwyddo popeth sydd gennym i’w gynnig i’r myfyrwyr a’r staff y byddwn i'n cyfarfod â nhw.

Cyfarfod y consortiwm a digwyddiad datblygu staff y consortiwm

Cynhaliodd un o’n partneriaid, BAC, gyfarfod gyda Chonsortiwm Trosglwyddo i’r DU, a bues i’n gadeirydd y cyfarfod ar y cyd â Penny Carey, Deon, Ysgol y Gyfraith Swydd Hertford. Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd datblygiadau newydd yn BAC, adroddiadau Arholwyr Allanol y Consortiwm ar ansawdd a safonau yn ogystal â chyrhaeddiad ac ymgysylltiad rhagorol myfyrwyr BAC y llynedd ac eleni.

Wedyn, cafwyd sesiwn Datblygu Staff y Consortiwm, lle bu’r arholwyr allanol, yr Athro Martin Dixon a’r Athro Sally Wheeler yn rhannu cyngor doeth ar ddiben a chynnwys yr asesiad, dan gadeiryddiaeth Penny Carey.  Fi oedd yn cadeirio sesiwn olaf y diwrnod sef cyfres o sgyrsiau ar wib a sesiwn holi ac ateb ar agweddau ar arferion da gan aelodau’r Consortiwm.

Seremoni Raddio BAC
Seremoni Raddio BAC lle cyflwynodd yr Athro Barr dystysgrifau i raddedigion nad oedd yn gallu graddio yn seremoni Caerdydd ym mis Gorffennaf 2022.

Cynnull Graddedigion BAC

Cynhaliodd BAC seremoni raddio yn eu hadeilad pwrpasol newydd, Menara BAC, ar gampws Petaling Jala ddydd Sadwrn 26 Tachwedd 2022. Ymunais i â'r Athro Sally Wheeler a’r Athro Martin Dixon, Arholwyr Allanol y Consortiwm, Penny Carey a Mr Raja Singham, Rheolwr-Gyfarwyddwr BAC ar lwyfan y seremoni.

Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i ddweud ychydig o eiriau i longyfarch y graddedigion, gan bwysleisio pwysigrwydd caredigrwydd ym mhob math o drafodion yn ogystal â gofalu am eich lles meddyliol.  Gofynnais i i’r myfyrwyr gadw mewn cysylltiad gan ein bod bob amser yn falch iawn o glywed am lwyddiant parhaus ein cyn-fyfyrwyr.  Roedd gen i hefyd y gwaith pwysig o gyflwyno tystysgrifau wyneb yn wyneb i’r graddedigion nad oedd wedi gallu graddio yn seremoni Caerdydd ym mis Gorffennaf 2022.

Cinio gyda’r hwyr Consortiwm BAC

Yn dilyn y seremoni raddio, gwahoddodd BAC aelodau'r consortiwm i ginio gyda’r hwyr yng Ngwesty'r Four Seasons yn Kuala Lumpur. Roedd y profiad hwn yn un hynod o gadarnhaol gan imi gael y cyfle i gysylltu o’r newydd â nifer o bobl sy’n aelodau o’r consortiwm.

Hoffwn i ddiolch holl aelodau staff y BAC, gan gynnwys llawer ohonyn nhw a oedd yno ar y noson, yn ogystal â diolch i aelodau eraill y Consortiwm am noson hyfryd iawn.

Ffair Addysg BAC am y DU

Ddydd Llun 28 Tachwedd 2022, cynhaliodd BAC ei Ffair Recriwtio Addysg flynyddol am y DU, a hynny ar sail wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Roedd cryn ddiddordeb yn rhaglenni’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd i’r graddau inni fynd yn gwbl brin o’n deunyddiau hyrwyddo! Rhoddais i sgwrs bynciol hefyd, gan amlygu pam y dylai myfyrwyr ein dewis ni yn bartner Trosglwyddo yn y DU.

Sesiwn datblygu staff Prifysgol Taylors

Ddydd Mawrth 29 Tachwedd ymwelais i ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Taylor a chynnal gweithdy ar asesu ar gyfer staff Ysgol y Gyfraith ar 'Creu Asesiadau yn seiliedig ar Wrthrychau'.  Doedd y glaw hyd yn oed ddim yn gallu lladd ysbryd pawb gan mai peth mor braf oedd cael bod yn ôl gyda'n gilydd wyneb yn wyneb.  Hwn oedd fy nhasg gyntaf yn Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Taylor, rôl fydd yn para am ddwy flynedd ac a fydd yn golygu gweithio'n agosach gyda Staff y Gyfraith yn Taylors ar bynciau addysgol ac ymchwil.

Staff Ysgol y Gyfraith Taylor yn ymlacio ar ôl y Sesiwn Datblygu Staff, gyda Dr Harmahinder Singh, Pennaeth y Gyfraith (cyntaf o'r chwith).
Staff Ysgol y Gyfraith Taylor yn ymlacio ar ôl y Sesiwn Datblygu Staff, gyda Dr Harmahinder Singh, Pennaeth y Gyfraith (cyntaf o'r chwith).

Sesiwn datblygu staff Prifysgol Taylors

Ddydd Mawrth 29 Tachwedd ymwelais i ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Taylor a chynnal gweithdy ar asesu ar gyfer staff Ysgol y Gyfraith ar 'Creu Asesiadau yn seiliedig ar Wrthrychau'.  Doedd y glaw hyd yn oed ddim yn gallu lladd ysbryd pawb gan mai peth mor braf oedd cael bod yn ôl gyda'n gilydd wyneb yn wyneb.  Hwn oedd fy nhasg gyntaf yn Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Taylor, rôl fydd yn para am ddwy flynedd ac a fydd yn golygu gweithio'n agosach gyda Staff y Gyfraith yn Taylors ar bynciau addysgol ac ymchwil.

Myfyrwyr ym Mhrifysgol HELP lle rhoddodd yr Athro Bar ddarlith ar Gyfraith Tir
Myfyrwyr ym Mhrifysgol HELP lle rhoddodd yr Athro Bar ddarlith ar Gyfraith Tir.

Ymweliad â Phrifysgol HELP

Un o aelodau mwyaf hirsefydledig Rhaglen Drosglwyddo Cyfraith y DU yw Prifysgol HELP, ac mae Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag Ysgol y Gyfraith yn HELP ers blynyddoedd lawer. Symudodd Ysgol y Gyfraith yn HELP yn ddiweddar i'r Llawr Gwaelod, Wisma CL, 5, ac mae bellach yn agos iawn at adeilad Cofrestrfa'r Brifysgol. Mae’r cyfleusterau ar gyfer y staff a’r myfyrwyr wedi gwella’n fawr, ac ar ben cwrdd â Katheleen Marie Nunis, Pennaeth newydd y Gyfraith, rhoddais i hefyd ddarlith ar Gyfraith y Tir i fyfyrwyr yn yr ail Flwyddyn, ar bwnc ‘Cyd-berchnogaeth a’r Ymddiriedolaeth’. Rwy wrth fy modd yn addysgu myfyrwyr HELP gan fod ganddyn nhw gymaint o ddiddordeb yn y pwnc yn ogystal â bod yn gyfeillgar ac yn gwrtais

Daeth myfyrwyr i ddarlithoedd yr Athro Barr yn bersonol ac ar-lein.
Daeth myfyrwyr i ddarlithoedd yr Athro Barr yn bersonol ac ar-lein.

Ymweliad â’r Coleg Trydyddol Uwch (ATC)

ATC yw un o'r colegau preifat hynaf yn Kuala Lumpur sydd wedi bod yn cynnal Rhaglen LLB Allanol Llundain, sy’n hynod o boblogaidd, ers yr 1980au. O dan gyfarwyddyd Daniel Abishegam, Cyfarwyddwr Academaidd, lansiodd ATC Raglen Trosglwyddo i’r DU yn 2019.  Rhaglen dros dro yw hon, gan mai'r broses gymeradwyo yn unol â Gweinyddiaeth Addysg Maleisia yw bod yn rhaid i'r rhaglen gael ei chynnal yn llwyddiannus am un garfan gyflawn cyn y gellir ei hail-werthuso a rhoi cymeradwyaeth lawn iddi.  Ar y cyd ag Alpa Shah, Rheolwr Datblygu Partneriaethau Maleisia Prifysgol Caerdydd, rhoddais i gyflwyniad am ddarpariaeth ATC ar y Rhaglen Trosglwyddo i’r DU a chefais daith o amgylch y cyfleusterau trawiadol newydd yn Jalan Ampang yng nghanol yr ardal fasnachol.  Cefais i’r cyfle hefyd i addysgu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr sydd wedi symud i’r ail Flwyddyn yn y Rhaglen Trosglwyddo i’r DU.  Unwaith eto, y pwnc oedd Cyfraith y Tir, ond y tro hwn roedd yn ymwneud â 'Cyd-berchnogaeth a Thaliadau Diswyddo'.  Hoffwn i ddiolch yn arbennig i Daniel am ildio slot ei ddarlith er mwyn i hon fod yn fwy na darlith wadd ond yn hytrach yn rhan o ddarpariaeth go iawn y cynnwys ar fodiwl y myfyrwyr.

Ffair y Gyfraith UKEC

Fy nigwyddiad olaf ar y daith oedd mynd i Ffair Addysg Myfyrwyr Maleisia Cyngor y Deyrnas Unedig ac Éire (Iwerddon) (UKEC). Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad i roi un o'r cyflwyniadau, y tro hwn o'r enw 'Pam astudio ar gyfer y Bar ym Mhrifysgol Caerdydd?'.  Roedd llawer o ymholiadau ar y stondin, a chefais i fy nghyfweld hefyd gan gydweithwyr UKEC ar fideo am fy argraffiadau o'r Ffair Addysg a gwerth digwyddiadau o'r fath i fyfyrwyr o Faleisia sy'n dymuno astudio yn y DU.  Diolch yn fawr i fy nghydweithwraig Yin Yin Cheong a osododd y stondin ac a ymdriniodd â’r rhan fwyaf o’r ymholiadau.

Yr Athro Barr gyda mynychwyr ar ôl ei ddarlith.
Yr Athro Barr gyda mynychwyr ar ôl ei ddarlith.

Roedd yn wych cael bod yn ôl ym Maleisia i gwrdd â phartneriaid unwaith eto yn ogystal â darpar fyfyrwyr. Pleser hyd yn oed yn fwy oedd esbonio wrth y myfyrwyr a’u rhwydweithiau cymorth pam y bydden nhw’n mwynhau dod i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy’n obeithiol y bydda i’n cael cwrdd â llawer o’r bobl hynny pan fyddan nhw’n dechrau gyda ni ym mis Medi 2023.  Er imi deithio i Faleisia sawl gwaith o’r blaen, dyma oedd fy ymweliad cyntaf adeg y Nadolig, a pheth hyfryd oedd gweld yr addurniadau ym mhob man."

Dathliadau Nadoligaidd ym Malaysia
Dathliadau Nadoligaidd ym Malaysia.

Rhannu’r stori hon