Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn arddangos syniadau gofal iechyd

22 Tachwedd 2022

Dr Fiona Brennan, Joshua Oguntade, Emmanuel Onyango, Adanna Anomneze-Collins, Barbara Coles, Dr Avi Mehra
O'r chwith i'r dde Dr Fiona Brennan, Joshua Oguntade, Emmanuel Onyango, Adanna Anomneze-Collins, Barbara Coles, Dr Avi Mehra

Mae myfyrwyr sydd â syniadau disglair ym maes gofal iechyd gwell wedi rhannu prosiectau clinigol arloesol mewn digwyddiad arddangos ar ddiwedd eu blwyddyn astudio, ac mae’r enillwyr yn cael gwobr o £1,000 i wireddu eu syniad.

Ar ôl treulio’r flwyddyn ar raglen Learn 2 Innovate, bu myfyrwyr o nifer o raddau gwahanol gan gynnwys gofal iechyd, cyfrifiadureg a pheirianneg feddygol yn cystadlu â’i gilydd i gyflwyno eu syniadau gerbron panel o feirniaid arbenigol.

Enillydd Gwobr Arloeswyr Learn 2 Innovate sy’n Fyfyrwyr: y Dasg Arloesi ar y Cyd ar draws Prifysgolion oedd Under Pressure, sef tîm dan arweiniad Frank Davis, myfyriwr meddygol yn y 4edd flwyddyn o Brifysgol Caerdydd.

Dyma a ddywedodd Frank Davis “Mae rhaglen Learn 2 Innovate wedi bod yn eithriadol drwy gydol y flwyddyn. Cawson ni ddarlithoedd diddorol a llawn gwybodaeth drwy gydol y flwyddyn gan Brif Weithredwyr busnesau newydd bach a phobl busnes mewn meysydd technoleg feddygol o bwys.

“Cafodd popeth ei drefnu’n wych. Roedd pob un ohonon ni’n teimlo'n hynod ddiolchgar a chawson ni ein hysbrydoli ar ôl gallu gwrando a dysgu gan arbenigedd pobl hynod ddylanwadol. Ym mhob grŵp cafwyd syniad arloesol a phryfoclyd ac mae hyn yn dangos y ffaith bod pob myfyriwr wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon mewn ffordd anhygoel a chyson.

“Braint i fy ngrŵp oedd cael ein henwi’n enillwyr ac mae cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi rhoi’r hyder inni barhau i ddatblygu ein syniad arloesol.”

Sefydlwyd rhaglen Learn 2 Innovate gan y myfyriwr meddygol o Gaerdydd bryd hynny, Alexander Coombs, ar ôl iddo orffen ei radd ymsang yng Ngholeg Imperial Llundain.

“Tra fy mod i’n astudio yng Ngholeg Imperial roeddwn i’n ffodus o ddysgu rhagor am arloesi ym maes gofal iechyd yn sgîl astudio ar gyfer fy ngradd arloesi llawfeddygol yn ogystal â bod yn rhan o dîm a ddyfeisiodd ap olrhain cysylltiadau. Roedd llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr Imperial ac roeddwn i eisiau dod â'r dysgu newydd hwnnw yn ôl i Gaerdydd.

“Sefydlais i’r rhaglen Learn 2 Innovate ar ôl meddwl am y cysyniad cychwynnol ar y cyd â llywydd CUReS bryd hynny, sef Sanchita Bhatia. Tyfodd y syniad hwn yn rhaglen blwyddyn o hyd ar draws prifysgolion a chyfadrannau a’r nod yw ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i fod yn arloeswyr gofal iechyd y dyfodol. Rydyn ni wedi bod yn hynod o ffodus o ran safon y siaradwyr a’r mentoriaid ar y rhaglen, ac mae ein blwyddyn gyntaf lwyddiannus yn ddyledus i’n myfyrwyr a’n partneriaid hynod o gefnogol, tîm INSPIRE a Chanolfan Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd.”

Dyma a ddywedodd barnwr y panel, Dr Fiona Brennan, anesthetydd ymgynghorol sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae gan arloesi clinigol ran allweddol i’w chwarae yn y gwaith o foderneiddio a datblygu’r GIG yn y dyfodol. A minnau’n aelod o Dîm Iechyd Gwyrdd Cymru, rwy’n awyddus i hyrwyddo gofal iechyd arloesol, a dosbarth meistr oedd yr arddangosfa heddiw o ran sut i ddyfeisio, datblygu a chyflwyno syniadau rhagorol newydd.”

Ar y panel roedd Barbara Coles, Rheolwr Prosiectau, Accelerate Cymru; yr Athro Keith Harding, cyn-Ddeon Arloesi Clinigol, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Jonathon Gray, Cyfarwyddwr Arloesi a Gwella, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Dr Avi Mehra, Cyd-sylfaenydd, Doctorpreneurs.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â: learn2innovateprogramme@gmail.com

www.instagram.com/learn2innovateprogramme/

https://www.linkedin.com/company/learn-2-innovate/

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.