Ewch i’r prif gynnwys

Mwy yn pryderu am newid yn yr hinsawdd

22 Tachwedd 2022

People are holding banner signs while they are going to a demonstration against climate change - stock photo

Mae bron i hanner poblogaeth y DU (46%) yn 'bryderus' neu'n 'bryderus iawn' am newid yn yr hinsawdd, yn ôl papur briffio newydd a ryddhawyd gan y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST) ym Mhrifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caerdydd.

Mae arolwg blynyddol CAST o ymagweddau'r cyhoedd — sy'n seiliedig ar ymatebion sampl gynrychioliadol o dros 1000 o bobl* — yn adrodd bod pryder y cyhoedd am y newid yn yr hinsawdd wedi tyfu'n sylweddol ers 2016, pan nododd chwarter y boblogaeth yn unig (25%) fod newid yn yr hinsawdd yn fater o flaenoriaeth.

Yn eu papur briffio diweddaraf, mae ymchwilwyr CAST yn tynnu sylw at y ffaith bod pryder y cyhoedd am Covid-19 wedi lleihau ers 2021 a bod pryder ynghylch costau byw yn cael blaenoriaeth. Fodd bynnag, mae'r newid yn yr hinsawdd wedi parhau i fod yn bryder allweddol sydd wedi tyfu yn ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Mae'r papur briffio yn awgrymu nad yw'r cyhoedd yn credu bod yr argyfwng ynni yn gwneud i bobl boeni llai am ba mor argyfyngus yw newid yn yr hinsawdd. Mae pobl sy'n poeni am yr argyfwng costau byw yn cefnogi polisïau a all hefyd leihau allyriadau a biliau is - fel diddymu'r broses o werthu boeleri nwy yn raddol ar gyfer systemau gwresogi gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy.

Mae'n argymell y dylid defnyddio targed sero net y DU fel catalydd i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a chostau byw ochr yn ochr a’i gilydd. Mae hefyd yn dadlau y gall cyfathrebu ac ymgysylltu chwarae rhan ganolog wrth amlygu manteision gweithredu ar y cyd.

Bydd cymorth polisi wedi'i dargedu i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi yr un mor bwysig.

Esboniodd y prif awdur, Dr Christina Demski, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerfaddon: “Yn amlwg, mae pryderon pobl ynghylch diogelwch ynni a'r argyfwng costau byw wedi cynyddu'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi gwneud i bobl boeni llai am yr hinsawdd.

“Yn hytrach, mae pryder y cyhoedd ynghylch y costau cynyddol wedi cynyddu ochr yn ochr â phryder am yr hinsawdd: mae mwy a mwy o bobl bellach yn gweld bod y ddau fater hyn yn rhai cysylltiedig. Mae ymrwymiad y llywodraeth i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050 yn gyfle i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a phrisiau ynni sy'n codi ar y cyd.”

Ychwanegodd y cyd-awdur, Dr Katharine Steentjes o'r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Nid yw pobl yn poeni llai am y newid yn yr hinsawdd oherwydd y pryder ychwanegol am yr argyfwng costau byw yn ôl ein canlyniadau. Mae’n drawiadol bod pobl sy’n ansefydlog yn ariannol yn dal i gefnogi gweithredu dros yr hinsawdd gymaint ag eraill.

“O'n data, gallwn weld fod y rhai sy'n poeni fwyaf am yr argyfwng costau byw hefyd yn poeni mwy am y newid yn yr hinsawdd ac eisiau gweld gweithredu brys yn yr hinsawdd. Mae’r canlyniadau'n cadarnhau nad yw’r argyfwng ychwanegol hwn yn esgus i atal ymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.”

* Casglwyd data'r arolwg rhwng 5 Medi a 26 Hydref 2022 ac roedd y sampl o 1087 o oedolion yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU o ran rhyw, oedran, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.

Mae'r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST) yn ganolfan fyd-eang ar gyfer deall rôl pobl o ran llunio dyfodol carbon isel cadarnhaol. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerfaddon, a’r partneriaid craidd ychwanegol yw Prifysgol Caerdydd, Prifysgol East Anglia, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Efrog a'r elusen Climate Outreach.