Ewch i’r prif gynnwys

Master’s degree students secure bursary support

3 Tachwedd 2022

Image of three winners of bursaries to study at the school

Mae tri myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn dathlu ar ôl sicrhau bwrsariaethau nodedig i ariannu eu hastudiaethau.

Bydd y myfyrwyr – Olivia Hammond, Ben Jones a Nerys Medi Davies – yn astudio MSc Trafnidiaeth a Chynllunio.

Sicrhaodd Olivia a Ben £10,000 yr un o Gronfa Ffyrdd Rees Jeffreys i gynnal eu hastudiaethau ôl-raddedig.

Sefydlwyd Cronfa Ffyrdd Rees Jeffreys gan William Rees Jeffreys, arloeswr ym maes gwella teithio i ddefnyddwyr ffyrdd a datblygu’r system genedlaethol o ddosbarthiadau ffyrdd, yn 1950. Ers ei farwolaeth yn 1954, mae gwaddol o’i ystâd wedi darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer addysg ac ymchwil ym maes trafnidiaeth.

Derbyniodd Nerys fwrsariaeth o Gronfa Bwrsariaeth Brian Large, a sefydlwyd yn 1990 yn deyrnged i Brian Large, un o gyfarwyddwyr Grŵp MVA (ymgynghorwyr cynllunio trafnidiaeth).

Dyfernir y bwrsariaethau er mwyn parhau â gwaith Brian yn cefnogi datblygiad proffesiynol a sgiliau'r rhai sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfaoedd, ac i sicrhau y gall myfyrwyr cymwys gwblhau eu hastudiaethau ym maes cludiant a chynllunio.

Yr MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio yw un o raglenni ôl-raddedig blaengar yr ysgol. Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o helpu myfyrwyr sy’n dod i mewn i sicrhau bwrsariaethau a chyllid i gyflawni eu huchelgais academaidd.

Dywedodd Dr Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Ar ran yr ysgol hoffwn longyfarch Olivia, Ben a Nerys ar y canlyniad ardderchog hwn. Maent i gyd yn symud ymlaen o fod wedi gwneud rhaglenni BSc yn ein hysgol, ac rydym yn falch iawn o'u gweld yn ymuno â'n rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio ôl-raddedig. Mae ein myfyrwyr yn gallu dangos y wybodaeth a'r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer y bwrsariaethau hynod gystadleuol hyn.

“Mae dyfarnu’r bwrsariaethau hefyd yn sêl bendith o ansawdd a thrylwyredd ein rhaglen, wrth i ni barhau i wneud yn siŵr bod 100% o’r ceisiadau hyn yn llwyddo flwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Rhannu’r stori hon