Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn trafod effaith eu gwaith

1 Tachwedd 2022

Child taking part in the festival of social science

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn rhannu eu hymchwil yn rhan o 20fed Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y DU.

Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), mae’r 22 digwyddiad wyneb yn wyneb a rhithwir yn ymdrin ag ystod eang o bynciau – o brosiectau ar ofal cymdeithasol yng Nghymru i gamau i sicrhau bod ystafelloedd dosbarth yn cael eu hawyru; o archwilio Cymru, gwlân a chaethwasiaeth i ddyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru.

Thema’r digwyddiad eleni a gynhelir gan academyddion yn y naill brifysgol yw 'fy ardal leol'. Mae’r cyflwyniadau wedi'u hanelu at y cyhoedd yn gyffredinol a chynulleidfaoedd ieuenctid, a bydd llawer ohonynt o ddiddordeb i grwpiau eraill fel sefydliadau trydydd sector a llunwyr polisïau.

Meddai’r Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd (Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol): “Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig cyfle cyffrous i ni ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o ymchwil rhagorol y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ein hymchwil bwerus sy’n llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesedd, ac sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

“Mae thema ‘fy ardal leol’ eleni yn dathlu unrhyw a phob agwedd ar ymchwil y gwyddorau cymdeithasol sy'n ymwneud â'r meysydd y mae ein sefydliadau wedi'u lleoli ynddynt, a Chymru yn ehangach.

“Mae ein holl ddigwyddiadau yn cynnwys ymchwilwyr a chymunedau ehangach mewn gwneud gwahaniaeth: wrth feddwl a gweithredu fel eiriolwyr dros newid – yma yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol – a phennu agendâu. Yn y byd cyfnewidiol sydd ohoni, ni fu ymchwil y gwyddorau cymdeithasol erioed yn bwysicach er budd ein cymunedau lleol a byd-eang.”

Meddai'r Athro Alison Park, Cadeirydd Gweithredol Dros Dro ESRC: "Mae Gŵyl Gwyddorau Gymdeithasol ESRC yn cynnig cipolwg diddorol dros ben ar rai o brif ymchwil gwyddorau cymdeithasol y wlad a'i pherthnasedd i unigolion, cymdeithas a'r economi. Eleni rydyn ni'n dathlu pen-blwydd yr ŵyl yn 20 oed wrth i gannoedd o ddigwyddiadau rhad ac am ddim gael eu cynnal ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor. Gyda lwc, bydd y digwyddiadau'n ddiddorol ac yn ysbrydoli."

Cynhelir Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol tan 13 Tachwedd. Mae ei rhaglen lawn ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Holl fanylion digwyddiadau'r Ŵyl eleni.