Ewch i’r prif gynnwys

Academydd Biowyddoniaeth ar restr fer am wobr genedlaethol mewn addysg arloesol

8 Tachwedd 2022

Dr Nigel Francis

Mae Dr Nigel Francis wedi cael ei gydnabod am ei brosiect #DryLabsRealScience, a ddechreuwyd yn ystod cyfnod clo Covid-19 i ddod â dosbarthiadau labordy a gwaith maes yn fyw

Mae Dr Francis ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Pearson HE Innovate yn y categori 'Dull mwyaf arloesol o gefnogi myfyrwyr ar gyfer y rhwydwaith #DryLabsRealScience a sefydlodd gyda'r Athro Ian Turner (Prifysgol Derby) a David Smith (Prifysgol Sheffield Hallam).

Nod #DryLabsRealScience oedd sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiadau dysgu deniadol ac effeithiol ar gyfer sgiliau ymarferol, er gwaethaf mynediad cyfyngedig at labordai neu gyfleoedd gwaith maes yn ystod pandemig y coronafeirws.

Yn gymuned ryngwladol, tyfodd y rhwydwaith i gynnwys dros 75 o brifysgolion ledled y byd, yn ogystal â cholegau AB, ysgolion a chwmnïau masnachol. Mae'r adnoddau a gynhyrchwyd gan #DryLabsRealScience yn cynnwys cyflwyniadau, adnoddau addysgu am ddim, a chanllawiau methodoleg addysgu 'Sut i', y mae pob un ohonynt ar gael ar wefan lectureremotely.com.

Dywedodd Dr Francis: “Yn dilyn ei gyfraniadau cydweithredol, rwyf wrth fy modd bod y rhwydwaith wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae'n gydnabyddiaeth wych o'r ffordd y daeth addysgwyr ym maes biowyddoniaeth ynghyd yn ystod y pandemig i rannu adnoddau a syniadau er mwyn gwella addysg mewn labordai”.

Ychwanegodd yr Athro Steve Rutherford: “Mae Dr Francis yn cael effaith mor gadarnhaol ar yr Ysgol, ac ar brofiad myfyrwyr. Mae’n arbenigwr blaenllaw ym maes datblygu adnoddau ar-lein sy’n cefnogi dysgu, ac yn annog cymunedau o ddysgwyr ac addysgwyr i ymffurfio. Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn adlewyrchiad gwych ar addysgwr a chydweithiwr eithriadol, a dymunwn bob lwc i Nigel a’i gydweithwyr ar gyfer y cyhoeddiad terfynol!”.

Mae cymuned #DryLabsRealScience bellach wedi datblygu i fod yn #RealLabsRealScience, sy'n anelu at gefnogi addysgwyr i ddatblygu dulliau i wella ac ehangu sgiliau ymarferol myfyrwyr mewn disgyblaethau gwyddonol.

Mae Dr Francis yn arbenigwr mewn defnyddio adnoddau ar-lein i gefnogi myfyrwyr mewn gwyddoniaeth ymarferol, yn ogystal ag atgyfnerthu cynnwys o ddarlithoedd a gweithdai. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys defnydd helaeth o efelychiadau i baratoi myfyrwyr cyn dosbarthiadau labordy, gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein cyn darlithoedd, a'i fideos Immunology Wars, sy'n dysgu am imiwnobioleg trwy gyfrwng Star Wars.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol fawreddog i Dr Francis, y wobr uchaf am ragoriaeth addysgu yn sector Addysg Uwch y DU. Mae hefyd yn arweinydd addysg ac asesu digidol yn Ysgol y Biowyddorau.

Cyhoeddir enillydd Gwobr Arloesi AU ar 8 Tachwedd, felly croesir ein bysedd ar y cyd am Dr Francis!

Rhannu’r stori hon