Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd yn cael ei enwi’n athro biowyddorau gorau’r DU

26 Ebrill 2021

Mae academydd a helpodd i arloesi ffyrdd gafaelgar o ddysgu gwyddoniaeth o bell yn ystod y pandemig wedi cael ei anrhydeddu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.

Mae Dr Nigel Francis, fydd yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd i fod yn uwch-ddarlithydd yn y biowyddorau yn yr haf, wedi cael ei enwi’n Athro Biowyddoniaeth Addysg Uwch y Flwyddyn 2021.

Bob blwyddyn, nod y wobr bwysig hon yw nodi athrawon addysg uwch biowyddoniaeth gorau’r wlad a chydnabod unigolion rhagorol sydd ag ymagweddau arloesol at addysgu.

Dywedodd Dr Francis, sy’n ennill Gwobr Goffa Ed Wood gwerth £1,000, gwerth £250 o lyfrau Gwasg Prifysgol Rhydychen, ac aelodaeth rad am ddim am flwyddyn i’r Gymdeithas, ei fod yn “fraint anhygoel”.

“Rwy’n gobeithio gallu parhau i ddatblygu fel addysgwr yn fy rôl newydd. Mae cymaint o wersi wedi’u dysgu yn sgîl addysgu drwy’r pandemig ac mae’n amser anhygoel o gyffrous i weithio ym myd addysg,” meddai.

Bydd gwaith addysgu Dr Francis yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar imiwnoleg a chefnogi darpariaeth ffisioleg.

Er mwyn helpu i sicrhau bod ei fyfyrwyr yn parhau i ymgysylltu ac yn parhau i ddysgu mewn amgylchiadau digynsail yn ystod y pandemig, helpodd i sefydlu #DryLabsRealScience - rhwydwaith cydweithredu ar-lein ar gyfer addysg y gwyddorau bywyd. Ei nod yw cynnig atebion ar gyfer addysgu o’r labordy a chynnal prosiectau ymchwil o bell trwy weminarau, canllawiau ar-lein, adnoddau addysgu a dolenni.

“Mae’r rhwydwaith #DryLabsRealScience wedi bod yn brosiect mor wych i fod yn rhan ohono ac, i mi, bu’n uchafbwynt blwyddyn heriol i addysgwyr AU,” meddai Dr Francis, sydd ar hyn o bryd yn athro cyswllt yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe.

Gwnaeth ei ddefnydd o fideos i wella dysgu ac ymgysylltu myfyrwyr wrth addysgu o’r labordy argraff ar feirniaid y wobr.

Mae Dr Francis yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol Bioleg ac yn Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Yn 2020 dyfarnwyd iddo Wobr Rhagoriaeth Addysgu Cymdeithas Imiwnoleg Prydain ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe.

Ychwanegodd: “Rwy’n credu, er mwyn i fyfyrwyr gael y gorau o’u haddysg, bod angen iddynt ymwneud â’r deunydd dysgu mewn modd ymarferol.

“I mi, mae hyn yn golygu rhoi cyfle i fyfyrwyr adolygu adnoddau yn eu hamser eu hunain a chreu amgylchedd lle maen nhw'n cael eu hannog i arbrofi, cwestiynu rhagdybiaethau ac yn bwysicaf oll peidio â bod ofn gwneud camgymeriadau.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her a ddaw yn sgîl dechrau yng Nghaerdydd ac at allu cyfrannu at lwyddiant yr Ysgol.”

Rhannu’r stori hon