Ewch i’r prif gynnwys

Pobl sy’n torri rheolau a chreu newid: Cyn-fyfyrwyr tua30 sy’n dylanwadu

24 Hydref 2022

Dr Matthew Jones

Dathlodd Seremoni Wobrwyo (tua)30 gyntaf y Brifysgol lwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, a'r cyfan cyn iddynt gyrraedd 30 oed. Wel, (tua)30 oed.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y seremoni wobrwyo’n agored i gynfyfyrwyr o dan 30 neu dros 30 sy'n teimlo eu bod (tua)30 oed. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno. Wel, (tua)300.

Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Gwahoddwyd enillwyr (tua)30 i'r digwyddiad gwobrwyo cyntaf yn adeilad arloesol y Brifysgol, sbarc, a gynhaliwyd gan Gadeirydd y Cyngor a'r cyn-fyfyriwr Pat Younge (BSc 1987) ac arweiniodd y gyn-fyfyrwraig Babita Sharma (BA 1998) y digwyddiad. Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.

Mae cyn-fyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr ddisglair o enillwyr, gan gynnwys enw Dr Matthew Jones (MA 2017) o Ysgol y Gymraeg.

Derbyniodd wyth o gyn-fyfyrwyr wobrau cydnabyddiaeth arbennig pellach mewn categorïau yn amrywio o ymgyrchydd Cymunedol, ymgyrchydd Ecwiti a Chymru i'r byd i Entrepreneuriaeth a Newyddiaduraeth a'r cyfryngau.

Mae Dr Jones (MA 2017), a dderbyniodd y wobr cydnabyddiaeth arbennig Cymru i'r Byd, yn addysgwr ac yn hyrwyddwr diwylliant Cymru sydd wedi'i leoli yn UDA. Mae’n Athro Cyfarwyddo Cynorthwyol yn rhan o raglen ysgrifennu'r Brifysgol ym Mhrifysgol Florida, lle mae wedi meithrin cysylltiadau trawsatlantig rhwng Cymru ac UDA.

Darllenwch y restr lawn o enillwyr (tua)30 2022.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.