Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Athro Erminia Calabrese wedi ennill Medal a Gwobr Fred Hoyle 2022 y Sefydliad Ffiseg

24 Hydref 2022

Professor Erminia Calabrese
Professor Erminia Calabrese

Mae’r Athro Erminia Calabrese, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, wedi ennill Medal a Gwobr Fred Hoyle 2022y Sefydliad Ffiseg.

Enillodd yr Athro Calabrese, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, ei gwobr am ei gwaith nodedig ar gosmoleg arsylwadol gan ddefnyddio Cefndir y Ficrodon Gosmig i astudio tarddiad, cynnwys ac esblygiad y bydysawd yn ogystal â chwilio am gyfundrefnau newydd ym maes ffiseg.

Y Sefydliad Ffiseg (IOP) yw’r corff proffesiynol a’r gymdeithas ddysgedig ar gyfer byd ffiseg ac ef yw’r corff arweiniol ar gyfer ffisegwyr sy’n ymarfer yn y DU ac Iwerddon.

Mae gwobrau blynyddol y Sefydliad yn falch o allu adlewyrchu'r ystod eang o bobl, y lleoedd, y sefydliadau a’r llwyddiannau sy'n peri i ffiseg fod yn ddisgyblaeth mor gyffrous.

Mae gwobrau’r IOP yn dathlu ffisegwyr ar bob cam o'u gyrfa; boed y rheini sydd newydd ddechrau neu’r ffisegwyr ar frig eu gyrfaoedd, yn ogystal â'r rheini sy’n meddu ar yrfa ddisglair eisoes.

Maen nhw hefyd yn cydnabod ac yn dathlu cwmnïau sy'n llwyddiannus wrth gymhwyso ffiseg i fyd arloesi, yn ogystal â’r cyflogwyr hynny sy'n dangos eu hymrwymiad a'u cyfraniad at gynlluniau prentisiaethau gwyddonol a pheirianyddol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Calabrese: “Anrhydedd fawr imi yw derbyn y wobr hon. Rwy wedi bod yn ffodus iawn i weithio ym maes cosmoleg arsylwadol yn ystod degawd o gynnydd aruthrol a ysgogwyd gan arsylwadau o gefndir y ficrodon gosmig na chafwyd eu tebyg o’r blaen yn ogystal â’r ymdrech enfawr gan dimau rhyngwladol sydd wedi bod yn gweithio ar y cyd i’w dadansoddi.

Rwy’n hynod o falch o fod wedi chwarae rhan yn hyn oll ac yn edrych ymlaen at yr hyn fydd yn digwydd yn ystod y degawd nesaf o ymchwil. Mae sawl agwedd ar y Bydysawd sy’n ddirgel iawn o hyd, ac rwy’n barod i dyrchu i ragor o ddata y bydd arbrofion y dyfodol megis Arsyllfa Simons yn ei gasglu.

Yr Athro Erminia Calabrese STFC Ernest Rutherford Fellow

Dyma a ddywedodd Llywydd y Sefydliad Ffiseg, yr Athro Sheila Rowan: “Ar ran y Sefydliad Ffiseg, hoffwn longyfarch pob un o enillwyr y Gwobrau eleni yn wresog iawn. Mae pob un ohonyn nhw wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar eu proffesiwn, boed yn ymchwilydd, yn athro, yn ddiwydiannwr, yn dechnegydd neu’n brentis.

“Mae digwyddiadau’n ddiweddar yn tanlinellu’r dybryd angen i annog a gwobrwyo ein gwyddonwyr yn ogystal â’r rheini sy’n addysgu ac yn annog cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni’n dibynnu ar eu hymroddiad a’u harloesedd i wella sawl agwedd ar fywydau unigolion a’r gymdeithas yn ehangach.”

Ychwanegodd yr Athro Peter Smowton, Pennaeth yr Ysgol: “Mae’n bleser gan yr ysgol gyfan longyfarch yr Athro Calabrese ar ei llwyddiant. Fel yn y dyfyniad, mae llwyddiant penigamp Erminia a’i dylanwad parhaus ar flaen y gad ym maes cosmoleg arsylwadol yn gwbl deilwng o’r gydnabyddiaeth yn sgîl ennill Medal Fred Hoyle.”

Dyma’r eildro i'r Ysgol ennill y fedal bwysfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd yr Athro Jane Greaves yn fuddugol yn 2017 yn dilyn ei chyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth o’r ffordd y bydd planedau’n ymffurfio a’r graddau mae modd byw ar ecsoblanedau, a hynny yn sgîl ei defnydd arloesol o ddisgiau malurion o amgylch sêr sy’n debyg i’r Haul a chyrff sy’n rhan o gysodau haul gan ddefnyddio telesgopau isgoch pell.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.