Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg Caerdydd yn dathlu astudiaeth archaeoleg ganoloesol gynnar

12 Rhagfyr 2022

Archaeolegwyr a chyn-fyfyrwyr yn ymgynnull i anrhydeddu cyfraniadau staff archaeoleg o fri

Mae archeolegwyr a chynfyfyrwyr nodedig yn cydnabod cyfraniadau sylweddol academyddion hir eu gwasanaeth o Brifysgol Caerdydd at archaeoleg ganoloesol gynnar.

Mae'r gynhadledd ddeuddydd Dwyrain a Gorllewin yn Ewrop yr Oesoedd Canol Cynnar a thu Hwnt yn nodi'r cyfraniadau hirhoedlog yr Athro John Hines a Dr Alan Lane at astudiaethau canoloesol cynnar.

Bydd archeolegwyr o bob rhan o Brydain ac Ewrop – pob cydweithiwr a chyn-fyfyriwr - yn cyflwyno ar themâu gan gynnwys diwylliant materol, llenyddiaeth, mannau canolog, aneddiadau, arferion angladdol, a thirwedd.

Mae'r Athro John Hines yn arbenigwr o fri rhyngwladol ar archaeoleg, hanes a llenyddiaeth oes yr Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr.

Mae ei gyhoeddiadau niferus yn cynnwys Voices in the Past, yrarchwiliad cyntaf o archaeoleg a llenyddiaeth Saesneg, ac astudiaethau arloesol o arteffactau Eingl-Sacsonaidd, gan gynnwys tlysau pen-sgwâr mawr. Mae wedi cyhoeddi sawl mynwent Eingl-Sacsonaidd ac ef fu'n arwain prosiect English Heritage, Anglo-Saxon England c.570-720: the chronological basis, a gafodd effaith drawsnewidiol ar archaeoleg canoloesol cynnar ym Mhrydain a thu hwnt.

Bu Dr Alan Lane yn addysgu archaeoleg ganoloesol gynnar yng Nghaerdydd am dros 40 mlynedd ac mae'n arbenigwr ar Brydain yr Oesoedd ôl-Rufeinig, Celtaidd a Llychlynnaidd.

Bu'n astudio cerameg Oes y Llychlynwyr yn Ynysoedd Heledd Allanol a chloddiodd sawl safle o bwys rhyngwladol, gan gynnwys canolfannau brenhinol canoloesol cynnar yn Dunadd (yr Alban) a Llan-gors (Cymru). Yn ddiweddar, dyfarnwyd iddo Wobr GT Clark y Gymdeithas Archaeolegol Cambriaidd am ei lyfr Llangorse Crannog – the Excavation of a Royal Medieval Site in the Kingdom of Brycheiniog  (a gyd-awdurwyd gyda Mark Redknap). Mae cyhoeddiadau diweddar eraill ganddo yn cynnwys ailasesiadau mawr o fryngaer Dinas Powys a thref Rufeinig Caerwrygion (Wroxeter).

Dydd Sadwrn

Mae'r rhaglen sy'n ymroddedig i'r Athro John Hines yn cynnwys Susan Irvine, Unn Pedersen, Tim Pestell, Mark Redknap, Stephen Rippon, Andrew Richardson (Archaeoleg, BA 1994, MPhil 1996, PhD 2000), Elizabeth Rowe, yr Athro Anrhydeddus Chris Scull, Duncan Sayer, James Whitley a Nelleke IJssennagger-van der Pluijm.

Dydd Sul

Mae'r rhaglen sy'n anrhydeddu Dr Alan Lane yn cynnwys Ewan Campbell (Archaeoleg, PhD 1992), Wendy Davies, Stephen Dirscoll , yr Athro Anrhydeddus Nancy Edwards, James Graham-Campbell, Patrick Gleeson, Kieran O'Conor (Archaeoleg, PhD 1993), Andy Seaman (Archaeoleg, BA 2005, MA 2007, PhD 2010), Niall Sharples, Juliette Wood, Nancy Hollinrake (Archaeoleg, MA 2008) a Tim Young.

Cynhelir East and West in Early Medieval Europe and Beyond ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Ionawr 2023.

Rhannu’r stori hon