Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod Neuadd Frenhinol Brenhinoedd Dwyrain Anglia

13 Hydref 2022

Mae tystiolaeth o'r neuadd frenhinol 1,400 oed oedd yn perthyn i Frenhinoedd cyntaf Dwyrain Anglia wedi'i datgelu ym mhrosiect Rendlesham Revealed.

Dadorchuddiwyd sylfeini'r neuadd bren fawr a chywrain mewn cloddiad archeolegol cymunedol yn Suffolk.

Mae'r darganfyddiad yn cadarnhau mai'r safle hwn yw'r breswylfa frenhinol fel y'i cofnodwyd yn ysgrifau'r Hybarch Beda yn yr 8fed ganrif.

Mae'r neuadd - sy'n 23m o hyd a 10m o led - yn rhan o amgaefa frenhinol 6 hectar o fewn anheddiad 50 hectar.

O'r ganolfan hon y rheolwyd un o daleithiau pwysig teyrnas Dwyrain Anglia - Suffolk a Norfolk heddiw - am 150 o flynyddoedd, rhwng 570OC a 720OC.

Yn ysgrifau Beda nodir mai Rendlesham oedd y man lle safodd Brenin Dwyrain Anglia Aethelwold yn noddwr pan fedyddiwyd Brenin Swithelm o Sacsoniaid y Dwyrain.

Fideo

Dywedodd prif ymgynghorydd academaidd Rendersham Revealed yr Athro Christopher Scull, Athro Gwadd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae canlyniadau cloddiad y tymor hwn o bwysigrwydd rhyngwladol. Rendlesham yw’r anheddiad mwyaf helaeth a materol gyfoethog y gwyddom amdano yn Lloegr yn ei oes, ac mae cloddio'r Neuadd yn cadarnhau mai dyma'r breswylfa frenhinol a gofnodwyd gan Beda.

"Dim ond yn Rendlesham y mae gennym ni anheddiad ehangach a chyd-destun tirwedd canolfan frenhinol gynnar yn Lloegr yn ogystal â chasgliad o waith metel sy'n taflu goleuni ar fywydau a gweithgareddau ei thrigolion ar draws yr ystod gymdeithasol. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn ail-greu'n radical ein dealltwriaeth o soffistigeiddrwydd, cymhlethdod a chysylltiadau rhyngwladol cymdeithas y cyfnod hwnnw. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein dealltwriaeth o Deyrnas Dwyrain Anglia gynnar a byd ehangach Môr y Gogledd yr oedd yn rhan ohono.”

Datgelodd y cloddio:

  • sylfeini'r Neuadd bren fawr, fel y'i nodwyd gyntaf gan ffotograffiaeth o'r awyr yn 2015
  • y ffos perimedr o amgylch yr amgaefa frenhinol
  • gweddillion paratoi bwyd a gwledda sy'n nodi defnydd helaeth o gig (eidion a phorc yn bennaf).
  • gemwaith gwisg, eitemau personol, darnau o lestri yfed gwydr a chrochenwaith
  • olion anheddu a gweithgarwch cynharach ar y safle yn y cyfnod Rhufeinig cynnar (y ganrif gyntaf OC) ac yn ôl i'r cyfnod Neolithig cynnar (4ydd mileniwm CC)

Byddai'r adeilad a gloddiwyd yn un o nifer o neuaddau anferth o'r fath yn yr amgaefa frenhinol. Yma, byddai Brenhinoedd cyntaf Dwyrain Anglia wedi teithio rhwng y neuadd hon ac eraill, yn gweinyddu cyfiawnder, derbyn teyrnged a llysgenhadon diplomyddol, gwledda gyda'u dilynwyr, a dosbarthu rhoddion a ffafrau yng nghwmni eu gweision a'u gosgordd arfog.

Mewn blynyddoedd cynharach, mae ymchwiliadau archeolegol wedi darganfod gwaith metel gwerthfawr a darnau arian sy'n arwydd o gyfoeth a statws y rhai a arhosai yma. Tomenni claddu cyfagos Snape a Sutton Hoo yw dau o'r Claddedigaethau Tywysogaidd hysbys sy'n gysylltiedig â'r anheddiad brenhinol hwn.

Daeth y darganfyddiadau yn ystod yr ail haf o gloddiadau cymunedol gyda 250 o wirfoddolwyr lleol, gan gynnwys oedolion ifanc o Suffolk Family Carers a Suffolk Mind a thros 100 o blant ysgol lleol. Cynhelir gwaith maes pellach y flwyddyn nesaf.

Cynhelir Rendlesham Revealed: Anglo-Saxon Life in South-East Suffolk gan Wasanaeth Archaeolegol Cyngor Sir Suffolk, gyda chymorth Cotswold Archaeology, a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n ei ariannu.

Rhannu’r stori hon