Ewch i’r prif gynnwys

Awdur preswyl i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

18 Hydref 2022

Penodwyd Dr Rebecca Thomas, Cymrawd Ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig, yn awdur preswyl Cymraeg cyntaf Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bydd ei phrosiect yn rhedeg am flwyddyn ac yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Strwythurir y prosiect, sydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Gŵyl y Gelli a Choleg y Mynyddoedd Duon, yn ddwy rhan. Yn gyntaf, bydd Rebecca yn ysgrifennu nofel i blant ar y cyd â disgyblion ysgolion lleol. Bydd y nofel yn dilyn hynt a helynt y Brenin Arthur wrth iddo ddeffro o’i ddrwm-gwsg a dychwelyd i Gadair Arthur (un o enwau hanesyddol Pen-y-Fan), gan ddarganfod byd tra gwahanol i’r un y mae’n gyfarwydd ag ef.

Cyfres o ysgrifau yn ymateb i leoliadau amrywiol ar draws y Parc Cenedlaethol fydd ail ran y prosiect. Bydd yr ysgrifau yn plethu rhai o brofiadau Rebecca wrth grwydro’r ardal gyda thrafodaeth o hanes y tirwedd a’r newidiadau y disgwylir eu gweld yn y dyfodol.  

Meddai Rebecca: “Trwy gyplysu gorffennol, presennol, a dyfodol y tirwedd, bydd yr ysgrifau yn cyd-destunoli’r argyfwng natur a hinsawdd ac yn tanlinellu’r heriau a chyfleoedd. Golyga hyn dreulio amser yn crwydro’r Parc, gan ddysgu mwy am yr ardaloedd dan sylw gan arbenigwyr.”

Mae gan y Parc Cenedlaethol le pwysig yng nghalon Rebecca. Bu’n dringo Pen-y-Fan yn rheolaidd pan yn iau, ac yn ddiweddar mae wedi darganfod y parc o’r newydd, gan weld bod crwydro’r bannau yn fuddiol i’w hiechyd corfforol a meddyliol. Caiff ei hysbrydoli gan ei hamser yno i ysgrifennu am argyfyngau’r presennol. Enghraifft o hyn yw ei hysgrif ‘Cribo’r Dragon’s Back’ sydd wedi ei seilio ar daith gerdded yn y Mynyddoedd Duon ac sy’n ystyried newidiadau ieithyddol yn yr ardal.

Wrth ddechrau ar y prosiect, pwysleisia Rebecca bwysigrwydd y celfyddydau i gymdeithas heddiw. Er mai nofel hanesyddol oedd ei phrosiect creadigol cyntaf (Dan Gysgod y Frenhines), gwelodd y potensial i ymdrin â themâu cyfoes gyda’i phortreadau o gymeriadau benywaidd gweithredol. Meddai: “Pan oeddwn i’n iau, roedd ysgrifennu creadigol yn ffordd i ddianc i fyd arall. Ond yn gynyddol erbyn hyn rwy’n gweld ei botensial fel ffordd i ymgiprys gyda phroblemau’r byd ‘go iawn’ - yn bersonol ac yn gyhoeddus.”

“Gall llenyddiaeth ein helpu i ddeall y byd o’n cwmpas - ac i herio systemau’r byd hwnnw. Mae’n hollbwysig nad ydyn ni’n colli golwg o hynny wrth edrych ar broblemau’r presennol. Mae’r cyfle mae’r Parc Cenedlaethol yn ei gynnig, felly, yn un gwerthfawr iawn, ac rwyf yn wir obeithiol y bydd y fenter yn llwyddiant.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.