Ewch i’r prif gynnwys

Profiadau An(weladwy) yn Niwylliant Blogwyr Fideo “Bywyd Prifysgolion”

6 Hydref 2022

YouTube app on a smartphone

Fel rhan o Interniaeth Ymchwil Prifysgol Caerdydd, bu Dr Francesca Sobande a myfyriwr israddedig o'r drydedd flwyddyn Jeevan Kaur, yn ystyried sut a pham mae prifysgolion a'u myfyrwyr yn ymgysylltu â diwylliant vlogio YouTube.

Ers degawdau, mae i ddiwylliant digidol ran bwysig ym mhrofiadau myfyrwyr o brifysgol. Ond yn ystod y 13 blynedd ers i Francesca fod yn fyfyriwr israddedig a hithau wedi dod o hyd i fflat i’w rhannu trwy safle hysbysebion Gumtree, mae byd diwylliant digidol bywyd myfyrwyr wedi symud.

Er bod llawer o fyfyrwyr yn dal i droi at y we fel rhan o’r ffordd y maen nhw’n cychwyn ar eu cyfnod yn y brifysgol, erbyn hyn mae safleoedd fel Gumtree wedi hel peth llwch.

Er nad ffenomen "newydd" yw’r cyfryngau cymdeithasol bellach, mae'r berthynas rhwng diwylliant blogwyr fideo ac addysg uwch yn y DU yn un gymharol ddiweddar o hyd. Mae'r cynnydd mewn platfformau rhannu cynnwys ar-lein sy'n cynnig cyfle i bobl greu a phostio fideos wedi cyflwyno ffyrdd newydd i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth a’i rhannu, yn ogystal â chyflwyno ffyrdd newydd i brifysgolion farchnata eu hunain.

Prifysgolion yn ymgymryd â diwylliant vlogio

Yn ystod y 2010au, roedd symudiadau cymdeithasol tuag at ddefnyddio platfformau negeseua gwib, wrth i boblogrwydd rhai fforymau anghydamserol fynd yn llai poblogaidd. Erbyn y 2020au, roedd agweddau ar ddiwylliant dylanwadwyr – gan gynnwys arferion blogio fideo (blogio fideo) – yn rhan o fywydau bob dydd llawer o bobl. O greu cynnwys, er mwyn ceisio ymgysylltu â thueddiadau firaol presennol – dechreuodd prifysgolion ymgorffori blogio fideo yn eu strategaethau marchnata a chyfathrebu.

Yn aml cyn i’r prifysgolion ymwneud â diwylliant blogio fideo, mae myfyrwyr wedi gwneud defnydd o brosesau creu cynnwys mewn modd dyfeisgar i roi gwybodaeth i’w gilydd a rhyngweithio gyda’i gilydd. Gan ganolbwyntio ar brofiadau a gweithgareddau ar-lein o'r fath, gwnaethom ddadansoddi rhai o'r ystyron a'r negeseuon sy'n gysylltiedig â chynnwys blog fideo YouTube am fywyd prifysgol. Wrth wneud hynny, fe wnaethom gydnabod bod pandemig y Coronafeirws (COVID-19) wedi cataleiddio cynnydd yn y defnydd a wna prifysgolion o gynnwys fideo a blogiau fideo ar-lein i ymgysylltu â myfyrwyr.

Ymchwilio sut a pham

Yn benodol, fel rhan o gynllun Lleoliadau Cyfleoedd Ymchwil Caerdydd (CUROP), ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2022, buom ar y cyd yn ystyried sut a pham y mae prifysgolion a'u myfyrwyr yn ymgysylltu â diwylliant blogwyr fideo YouTube.

Arweiniwyd ein gwaith gan fwriad i gyfrannu at ddealltwriaeth fwy cymhleth o’r defnydd a wna myfyrwyr a phrifysgolion o ddiwylliant blogwyr fideo YouTube, yn enwedig i gefnogi addysgwyr, gwasanaethau proffesiynol, a sefydliadau sy'n ymdrechu i wella profiadau myfyrwyr.

Cysylltiad annibynnol yn erbyn sefydliadol

I wneud hyn, gwnaethom gynnal dadansoddiad disgwrs digidol beirniadol o gynnwys blogiau am 5 o'r "10 uchaf" o brifysgolion y DU yn ôl eu safleoedd blaenorol yn y Times Higher Education. Archwiliodd ein prosiect ymchwil i blogiau fideo a gafodd eu creu gan ddylanwadwyr yn annibynnol ar brifysgolion, a blogiau fideo a gafodd eu creu yn unswydd dros brifysgolion neu mewn partneriaeth â nhw.

Ac eto, fel y dangosodd ein dadansoddiad, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y mathau hyn o gynnwys ar blogiau fideo (e.e., annibynnol yn erbyn cysylltiedig â sefydliad) gan fod y ffyrdd y gall sefydliadau addysg uwch fynd ati yn strategol i greu cysylltiad rhyngddyn nhw eu hunain a dylanwadwyr annibynnol trwy ymateb yn gyhoeddus i’w postiadau.

Roedd ein dadansoddiad yn cyfrif am wahanol elfennau cynnwys blogiau o'r fath er mwyn helpu i ddeall ystyriaethau, cyfleoedd, a heriau sy'n ymwneud â’r ffordd y mae myfyrwyr a phrifysgolion yn defnyddio blogiau i godi ymwybyddiaeth o agweddau ar fywyd mewn prifysgol a’r adnoddau sydd ar gael.

Gwnaethom ddadansoddi 20 blog fideo i gyd, fel rhan o’r dadansoddiad roeddem yn ystyried cwestiynau fel: 1) sut mae bywyd prifysgol yn cael ei fframio yn y cynnwys? 2) pwy yw’r bobl a pha brofiadau y canolbwyntir arnynt , a pham? 3) pa genre/is-genre y mae'n ymddangos bod pob blog fideo yn perthyn iddo (e.e., blogiau fideo "symud i mewn", blogiau fideo "sgiliau astudio", blogiau fideo "bywyd yn ninas y brifysgol", blogiau fideo “hiraethu am eich cartref", a "blogiau fideo “profiad myfyrwyr rhyngwladol")?

Fframio rheolaidd o safbwyntiau penodol

Mae themâu allweddol a nodwyd gennym yn canolbwyntio ar sut mae cynnwys blogiau fideo am fywyd prifysgol yn gwasanaethu swyddogaethau amrywiol a rhyng-gysylltiedig sy'n ymwneud â marchnata, ac ag addysg, ac ag adloniant.

Mae themâu o'r fath yn deillio o fframio a hyrwyddo dro ar ôl tro safbwyntiau ac elfennau penodol o fywyd prifysgol (e.e., arferion astudio delfrydedig a haciau cynhyrchiant, syniadau rhamantaidd o deimlo "gartref yn y brifysgol ac mewn neuaddau myfyrwyr", a delweddau ysbrydoledig ar sail rhywedd o'r hwyl a'r cyfeillgarwch a all fod yn rhan o brofiadau myfyrwyr mewn addysg uwch).

Patrwm yn cynnwys geiriau o wahanol liwiau yn cynnwys y themâu a nodwyd yn yr ymchwil
Roedd y themâu allweddol yn ymwneud â marchnata, addysg ac adloniant.

Yn ogystal â nodi patrymau thematig o fewn y blogiau fideo a ddadansoddwyd gennym ac ar eu traws, gwelsom absenoldebau sy'n pwyntio'n bwerus at sut mae gorthrymau trawstoriadol fel hiliaeth, rhywiaeth, dosbarthiaeth ac abliaeth yn cael effaith ar ddiwylliant blogwyr fideo prifysgolion.

Casgliad o eiriau o wahanol liwiau, yn dwyn y teitl anweledigrwydd profiad.
Mewn cyferbyniad, nodwyd hefyd y diffyg rhai meysydd thematig.

Roedd ein prosiect ymchwil yn gymharol fyr ac ar raddfa fach, ond esgorodd ar fewnwelediadau gwerthfawr fel y canlynol a fyddai'n elwa ar fod yn ganolbwynt ymchwil yn y dyfodol:

  • Roedd "dilysrwydd" a’r "gallu i uniaethu" canfyddedig yn parhau i fod yn ganolog i gynnal cyfnewidiadau defnyddiol rhwng myfyrwyr (gan gynnwys fel crëwyr cynnwys) a sefydliadau.
  • Roedd prifysgolion a oedd yn cynnig cyfleoedd cydweithredol yn caniatáu rhywfaint o ymreolaeth a hunanreolaeth, ac roedd hynny’n cynyddu’r posibilrwydd o gysylltiadau ystyrlon rhwng myfyrwyr (gan gynnwys fel crëwyr cynnwys) a phrifysgolion.
  • Nid yw byd diwylliant y blogiwr fideo "bywyd prifysgol" – a byd y blogiwr fideo yn fwy cyffredinol - yn gynhwysol o ystod eang o wahanol brofiadau myfyrwyr ac amgylchiadau bywyd (e.e., cynnwys cyfyngedig sy'n ymwneud â phrofiadau myfyrwyr anabl, myfyrwyr sy’n ofalwyr, myfyrwyr LGBTQIA, myfyrwyr aeddfed, a myfyrwyr Du ac Asiaidd). Gellir dadlau bod hyn yn awgrymu sut mae anghydraddoldebau sy'n croestorri yn effeithio ar fywyd myfyrwyr, ar ei bortread mewn blogiau fideo, ac ar y tebygolrwydd y bydd rhai demograffegau o fyfyrwyr yn derbyn cyfleoedd cyflogedig i greu cynnwys mewn addysg uwch.
  • Dylid mynd i'r afael â thryloywder, atebolrwydd, a rheoleiddio ynghylch amodau llafur myfyrwyr sy’n grewyr. Mae’n rhaid i grewyr cynnwys myfyrwyr sy'n cynhyrchu deunydd ar gyfer prifysgolion gael eu diogelu rhag effaith negyddol posibl ffiniau aneglur rhwng astudio yn y brifysgol a gweithio iddi.

Pwy sydd ar goll a pham?

Ar y cyfan, cawsom gipolwg unigryw ar y fframio cymhleth a’r ystyron a luniwyd ynghylch bywyd myfyrwyr prifysgol o fewn y byd YouTube datblygiadol sydd ohoni. Nododd y prosiect mannau lle y mae’r byd ar-lein a’r byd all-lein yn gwrthdaro, rhywbeth sy'n gynyddol gyffredin i fyfyrwyr prifysgol, yn enwedig yn ystod y cofnod "ôl-covid" canfyddedig.

Gellir deall y negeseuon digidol hyn y tu hwnt i'r cynnwys hyrwyddo y maent yn eu cyflwyno, ac maent yn adlewyrchu systemau cysylltiedig gorthrymol megis abliaeth, rhywiaeth, hiliaeth, a dosbarthiaeth. Mae mynediad cyfyngedig at adnoddau ac amddiffyniadau rheoliadol ar gyfer crëwyr cynnwys yn dangos anghydraddoldebau ecsploetio ar-lein ac arferion gweithio sy’n allgau.

Drwy ein project ymchwil ar blogiau fideo am "fywyd prifysgol", rydym yn gofyn, ac yn annog prifysgolion i ystyried yn feirniadol: pwy sydd ar goll a pham? Beth sy'n cael ei ddangos a beth sy'n guddiedig o hyd?

Gwella gwelededd

I brifysgolion sy'n awyddus i ddathlu eu cymunedau myfyrwyr amrywiol beth yw rhai camau ar gyfer dod yn fwy cynhwysol a chreu amgylcheddau mwy teg? Trwy wella gwelededd gwahanol grwpiau myfyrwyr, amgylchiadau bywyd, a thrawstoriad, gall sefydliadau cyd-gysoni eu negeseuon yn fwy effeithiol â'r gwahanol wirioneddau a wynebir gan ystod ehangach o fyfyrwyr.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i weithredu symud y tu hwnt i ganolbwyntio'n llwyr ar faterion ynghylch gwelededd, ac i warantu nad yw'r gwaith a'r amodau llafur y mae crëwyr cynnwys myfyrwyr yn eu profi yn beryglus iddyn nhw.

Gall natur ehangol diwylliant blogwyr fideo "bywyd prifysgol" fod o gymorth i fyfyrwyr, ymchwilwyr, a sefydliadau sy'n ceisio gwella profiadau myfyrwyr, ond mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau nad yw diwylliant blogwyr fideo o'r fath dim ond yn atgyfnerthu anghydraddoldebau.

Dr Francesca Sobande
Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau Digidol
Jeevan Kaur
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
Mehefin/Gorffennaf 2022