Ewch i’r prif gynnwys

Cychwyn ar fy nhaith fel gwneuthurwr ffilmiau dogfen

11 Awst 2022

Tocyn ar gyfer Gŵyl Dogfen Sheffield.
Agorodd DocFest gyda Moonage Daydream, dogfen David Bowie yn Neuadd y Dref Sheffield.

Dale Williams
Dogfennau Digidol (MA)
2021/2022

Dechreuais i ymddiddori am y tro cyntaf mewn rhaglenni dogfen pan welais i’r bennod am ogofau yn Planet Earth ar BBC2.

Yn yr olygfa gyntaf un, mae parasiwtydd yn disgyn i geg agored ogof danddaearol cyn rhyddhau ei barasiwt ar yr eiliad olaf un, ymddengys. R

oedd yr olygfa agoriadol honno’n fwy cofiadwy imi nag unrhyw beth roeddwn i wedi’i weld mewn ffilm ffuglen, a newidiodd y ffiniau yn fy meddwl o ran yr hyn y gallai rhaglen ddogfen fod.

Dogfennau Digidol (MA)

Sat waiting in a coffee shop

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach roeddwn i’n eistedd mewn siop goffi yn aros i gwrdd â Dr Janet Harris, arweinydd y cwrs Dogfen Digidol (MA) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai fy nghais yn ddigon cryf i ymuno â'r cwrs. Doeddwn i ddim wedi gwneud BA, ond tawelodd Dr Harris fy meddwl gan ddweud y byddai angerdd dros raglenni dogfen a pharodrwydd i weithio'n galed a rhwydweithio yn cario’r dydd. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach dechreuais i gyfnod o absenoldeb astudio i wneud fy ffilm traethawd hir.

Sheffield DocFest

Ar ddiwedd Mehefin 2022 roeddwn i’n ddigon ffodus i weithio yn Sheffield DocFest, sef gŵyl ffilmiau dogfen fwyaf a gorau’r byd.

Disgrifiad o raglen ddogfen Moonage Daydream yn rhaglen Sheffield DocFest
Roedd gweld Moonage Daydream yn Neuadd y Dref Sheffield yn brofiad arbennig.

Mae'r Cwrs/Ysgol yn annog myfyrwyr i wneud gwaith academaidd a phrofiad ymarferol, felly roedd dyma’r cyfle perffaith a'r amser gorau gan fod yn rhaid imi wneud rhaglen ddogfen yn ogystal â chwilio am swydd.

Yn Sheffield cefais i fy amgylchynu gan wneuthurwyr ffilmiau, recriwtwyr a chwmnïau cynhyrchu disgleiriaf a gorau'r byd. Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o ŵyl ffilmiau go iawn felly doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl, ond o’r noson gyntaf un cefais fy nghroesawu â breichiau agored.

Cynigion, triniaethau ffilm a threlars

Sylweddolais i’n syth y byddai gweddill yr wythnos yn agoriad llygad ac roedd yn rhaid imi wneud y gorau ohono. Ar ddechrau’r ŵyl yn deg, cefais i fy holi am y cynigion, y triniaethau a’r rhagolwg ar gyfer fy ffilm, a beth roeddwn i’n bwriadu ei wneud ar ôl graddio, ac wedyn pa ffilmiau roeddwn i’n bwriadu eu gweld yn nes ymlaen.

Er gwaethaf gweithio rhwng 10 a 6 bob diwrnod yn ystod yr ŵyl ar brosiect Realiti Estynedig (AR, a aeth ymlaen i ennill Gwobr y Rheithgor!) Roeddwn i'n gallu gweld rhai ffilmiau anhygoel. Roedd Pongo Calling, Singing From The Rooftops, New Pigs on the Block ymhlith y rheini sy’n aros yn y cof. Cwrddais â’r golygyddion, y gwneuthurwyr ffilm a’r cynhyrchwyr ac es i ati i gyfnewid manylion cyswllt â phawb.

Programme showing the documentaries available at DocFest.
Roedd digon o ffilmiau ymlaen ar ôl fy amser gorffen o 6pm. Roedd New Pigs On the Block yn ffefryn personol.

Roedd y gwaith ei hun yn cynnwys symud y cwsmeriaid i mewn ac allan o’r ffilmiau’n ddiogel, sicrhau bod y ffilmiau’n cael eu dangos yn unol â'r amserlen, cysylltu â’r cynhyrchwyr a’r artistiaid, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut i ymadael â’r adeilad mewn argyfwng a diogelwch.

Roeddwn i’n gyfrifol am dîm o wirfoddolwyr ac roedd hynny’n llawer o hwyl, a gyda'n gilydd gwnaethon ni sicrhau bod popeth yn gweithio i’r dim yn ystod yr wythnos gyfan.

Rhagolygon a chyfleoedd

Ar y cyfan byddwn i’n rhoi 10/10 o ran fy mhrofiad yn Sheffield DocFest. Rwy wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau na fyddwn i wedi cwrdd â nhw yn unman arall, a gwelais i ffilmiau anhygoel a roddodd gymaint o ysbrydoliaeth a chymhelliant imi wrth imi bellach ystyried fy ffilm traethawd hir. Ar ben hynny, mae’r ŵyl wedi rhoi cyfleoedd imi sydd wedi ymddangos ar adeg ddelfrydol.

Diolch yn fawr, Sheffield DocFest!

Darganfod mwy - Cyrsiau ôl-raddedig

Postgraduate students in JOMEC

Ôl-raddedig a addysgir

Mae ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir, sydd wedi’u cynllunio'n ofalus, yn cynnwys agweddau ymarferol ac academaidd parhaus.

Darganfod mwy - Cyfleoedd dogfennol yng Nghaerdydd

 Mae dwy fenyw ifanc yn eistedd yn siarad â'i gilydd

Archbwer yw iaith

Mae myfyrwyr dogfennol yn archwilio pŵer a chymhwysiad dwyieithrwydd.

Rhannu’r stori hon

Mae rhaglenni dogfen yn unigryw ar gyfer archwilio pynciau hen a newydd yn ddychmygus ac yn fanwl.