Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr ysgrifennu creadigol yn ysgrifennu a pherfformio mewn gŵyl

11 Awst 2022

Keith Butler
Keith Butler

Astudiodd Keith Butler dri chwrs ysgrifennu creadigol gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol Prifysgol Caerdydd (CPE). Mae hyn wedi ei ysbrydoli i ysgrifennu a pherfformio yng Ngŵyl Theatr Stroud ym mis Medi.

Roedd Keith, sy'n 76 ac yn byw yng Nghaerdydd, wedi ysgrifennu Look through any Window erbyn iddo gofrestru ar ei drydydd cwrs. Dywedodd Keith:

"Ysgrifennu rhestrau siopa a negeseuon testun o’n i nes i mi ymuno â chwrs ysgrifennu creadigol ar-lein. Strwythur y cwrs, anogaeth Briony Goffin, fy nhiwtor, ac adborth fy nghydfyfyrwyr adeiladodd fy hyder nes i mi deimlo nid yn unig bod gen i rywbeth gwerth ei ddweud ond, yn bwysicach fyth, rhywbeth gwerth gwrando arno. Ro'n i'n raddol credu mai awdur oeddwn i – nid rhyw fath o dwyllwr (imposter)."

Mae Keith yn perfformio yn Stroud Valley Artspace, John Street, Stroud, GL5 1AE ddydd Sadwrn 17 Medi am 18:00 a dydd Sul 18 Medi am 15:30.

Am ragor o wybodaeth ewch i Stroud Theatre Festival

Mae CPE yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i ddysgwyr sy'n oedolion. Mae’r cyrsiau’n galluogi’r dysgwyr i’w herio eu hunain, i ddysgu rhywbeth newydd, rhoi hwb i'w CV ac ennill credydau tuag at gymwysterau. Rydym hefyd yn cynnig Llwybrau rhan-amser i'r rhai sydd am astudio gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cewch ragor o fanylion yma.

Rhannu’r stori hon