Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigedd y Brifysgol yn cefnogi 'ecosystem hydrogen’ gyntaf y DU

5 Awst 2022

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cefnogi cais i ddatblygu 'Ecosystem Hydrogen' gyntaf y DU.

Mae De-orllewin Lloegr a De Cymru yn cydweithio i arwain y gwaith o ddatblygu ynni carbon isel i helpu i gyrraedd nodau newid yn yr hinsawdd.

Mae partneriaeth Porth y Gorllewin ochr yn ochr â Chynghrair GW4 wedi datgelu strategaeth newydd a map rhyngweithiol ar-lein sy'n tynnu sylw at sefydliadau ar draws yr ardal sydd eisoes yn gweithio ar ddefnyddiau posibl ar gyfer hydrogen.

Y nwy yw’r elfen fwyaf niferus yn y bydysawd ac ers amser hir bellach mae wedi cael ei hawgrymu fel ateb ynni posibl i helpu’r byd i ddatgarboneiddio.

Ar hyn o bryd mae'n cael ei dreialu fel ffynhonnell ynni carbon isel bosibl i bweru anghenion llongau, trafnidiaeth a dosbarthu, yn ogystal â chynhesu ein cartrefi ac i ddatgarboneiddio diwydiant.

Mae defnyddio hydrogen fel ffynhonnell ynni wedi cael ei amlygu fel rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth y DU i gyrraedd Sero Net, gyda’r nod o gynyddu cynhyrchiant i 10GW.

O Deyrnas Ynni Aberdaugleddau i Ganolfan Hydrogen Swindon, mae busnesau, diwydiannau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil ac awdurdodau lleol ar draws De Cymru a De Orllewin Lloegr yn arwain y ffordd wrth ddatblygu defnydd posibl ar gyfer yr adnodd naturiol.

Mae Partneriaeth Porth y Gorllewin yn cynrychioli pwerdy economaidd De Cymru a Gorllewin Lloegr, tra bod Cynghrair GW4 yn dod â phrifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg ynghyd. Mae'r ddau yn cydweithio â’i gilydd i gydgasglu arbenigedd o bob rhan o'r ardal i wella cydweithio, rhannu atebion a chodi ymwybyddiaeth o lefel y gweithgarwch ar lwyfan byd-eang i ddenu buddsoddiad.

Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Mae grwpiau ymchwil Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan eithriadol wrth lunio'r ecosystem hydrogen. Maent yn ymchwilio i'r defnydd o hydrogen fel tanwydd; naill ai'n uniongyrchol neu fel porthiant i'w droi'n amonia mewn nifer o brosiectau. Mae enghreifftiau o'n harbenigedd yn cynnwys ymchwilio i'r defnydd o amonia gwyrdd, datblygu tyrbinau nwy amonia a hydrogen, peiriannau tanio mewnol, ffwrneisi a dronau, ymchwil sylfaenol a datblygu systemau plasmâu a chwistrellu, a chyfuniadau hydrogen/amonia fel tanwydd ar gyfer cerbydau nwyddau trwm a threnau, yn ogystal ag awyrennau a llongau.”

Mae Caerdydd hefyd yn arwain prosiect DragonFLY o'r Ganolfan Ymchwil Gyriad Trydan Hydrogen sydd newydd ei sefydlu yn Sain Tathan. Ei brif nod yw datblygu arddangoswr technoleg y gellir ei ehangu i brofi'r cysyniad o system gyriant hybrid trydan hydrogen. Mae'r prosiect yn integreiddio dwy system celloedd tanwydd batri a hydrogen datblygedig newydd ar un platfform i oresgyn y prif rwystrau sy'n wynebu'r diwydiant a phrofi ei alluoedd perfformiad mewn prawf hedfan ar raddfa ranbarthol. Ariennir y prosiect yn rhannol gan wyth partner diwydiannol, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Brifysgol hefyd yn aelod o FLEXIS: partneriaeth strategol rhwng pum sefydliad gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tata Steel UK. Gyda £24 miliwn o gyllid, gan gynnwys cyfran gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth y prosiect pum mlynedd yw gwireddu system ynni wydn, fforddiadwy a diogel ar draws Cymru y gellid ei defnyddio ledled y byd.

Dywedodd Robert Buckland AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae De Cymru a Gorllewin Lloegr eisoes yn arwain y ffordd o ran datblygu Hydrogen fel tanwydd glân i helpu’r byd i ddatgarboneiddio i gyrraedd Net Zero. Trwy Bartneriaeth Porth y Gorllewin, mae’r Ecosystem Hydrogen newydd hon yn helpu i ddwyn ynghyd y gorau o’r hyn sydd gan yr ardaloedd hyn i’w gynnig ar draws yr ystod eang o ddefnyddiau posibl ac yn helpu i roi hwb i’r gwaith hwn i gwrdd â’r heriau sy’n ein hwynebu.”

Dyma a ddywedodd Katherine Bennett CBE, Cadeirydd partneriaeth Porth y Gorllewin: “Mae Porth y Gorllewin wedi bod yn arwain y ffordd o ran datblygu hydrogen fel ffynhonnell ynni glân i bweru ein heconomi yn y dyfodol.  Gallai hydrogen gynnig ateb i lawer o'r heriau parhaus yr ydym yn eu hwynebu wrth geisio datgarboneiddio ein system ynni fyd-eang.

“Drwy lansio'r Ecosystem Hydrogen newydd hon, mae ein partneriaeth yn creu mecanwaith i annog cydweithio ar draws diwydiant i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu’r ynni glân hwn er mwyn dod ag ef i'r farchnad.  Rydym eisiau rhannu’r neges bod buddsoddi ym maes Porth y Gorllewin yn rhoi mynediad i chi i'r ystod eang o ddiwydiannau a'r llwybrau at fasnach ryngwladol sydd eu hangen i ddod â defnydd hydrogen i'r brif ffrwd.”

Rhannu’r stori hon