Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi enillydd Gwobr McCann agoriadol 2022

3 Awst 2022

Eduardo Fialho Guimaraes
Eduardo Fialho Guimaraes

Mae Eduardo Fialho Guimaraes, myfyriwr MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol, wedi ennill Gwobr McCann agoriadol 2022.

Dyfernir gwobr McCann, a noddir gan McCann & Partners, i'r myfyriwr sydd wedi perfformio orau yn gyffredinol yng ngham 1 (gwaith a addysgir) yn yr MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol (dysgu lleol ac o bell) a’r MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy.

Cyflwynir y wobr i Eduardo pan fydd yn graddio ar ôl cwblhau cam 2 y rhaglen (traethawd hir).  Mae McCann & Partners yn aelodau o'r Bwrdd Cynghori Diwydiannol sy'n sicrhau bod y ddau gwrs yn berthnasol i'r proffesiwn a hefyd yn helpu i hwyluso recriwtio ar ôl cwblhau’r radd.

Wrth dderbyn y wobr, dyma a ddywedodd Eduardo:

“Roedd yr MSc mewn Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol yn cynnig rhaglen hyblyg a chytbwys o ddysgu o bell, a oedd yn golygu fy mod i’n gallu rheoli fy astudiaethau o amgylch fy ngwaith llawn amser. Roedd y cymorth gan diwtoriaid gwybodus a phrofiadol a'r cyfnewid gwerthfawr o wybodaeth ac arferion da gyda grŵp o fyfyrwyr amlddisgyblaethol yn gwneud y profiad dysgu o bell yn fwy rhyngweithiol, yn ddiddorol ac yn bleserus ar y cyfan. Roedd yr wybodaeth a gefais yn rhoi'r hyder imi ymarfer dylunio amgylcheddol, ac roeddwn wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr McCann am fy ngwaith. “

Mae ganyr MSc mewn Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol ystod o lwybrau astudio (gan gynnwys dysgu’n rhan-amser a dysgu o bell) sy'n golygu bod modd ei astudio tra eich bod mewn cyflogaeth. Nod yr MSc yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth ddylunio cyd-destunau cyfforddus ac iach mewn adeiladau ac o'u hamgylch sydd yn ymateb i'r hinsawdd ac yn rhoi’r sylw dyledus i gynaliadwyedd.  Dr Vicki Stevenson sy'n cyfarwyddo’r cwrs lleol a Sarah O'Dwyer sy’n cyfarwyddo’r cwrs dysgu o bell.

Mae gan yr MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy lwybr rhan-amser hefyd.  Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar egwyddorion dylunio cynaliadwy a chynllunio mega-adeiladau a Dr Eshrar Latif sy’n ei gyfarwyddo.

Rhannu’r stori hon