Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr yn cael ei gydnabod gan Sefydliad Rhyngwladol y Rhagolygwyr

28 Gorffennaf 2022

Visualisation of people and data

Mae Sefydliad Rhyngwladol y Rhagolygwyr wedi cydnabod gwaith rhagorol un o ôl-raddedigion Prifysgol Caerdydd mewn modiwl rhagolygu yn ystod rhaglen i raddedigion.

Jiajun Ma, a gwblhaodd raglen MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy yn Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddar, yw enillydd Gwobr 2022 y sefydliad trwy Brifysgol Caerdydd yn rhan o fenter sy’n cydnabod gwaith ôl-raddedigion ac is-raddedigion rhagorol.

Mae’r modiwl ym maes rhagolygu, sydd ymhlith rhai dewisol cyrsiau MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau ac MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy, yn ymwneud â’r wobr hon.

Defnyddiodd adroddiad Jiajun ddata Llywodraeth y DU yn ymwneud â COVID-19, gan gynnwys y niferoedd fu’n rhaid iddynt fynd i’r ysbyty, a’r niferoedd fu’n bositif, a'i ddefnyddio i ragweld faint fyddai’n gorfod mynd i’r ysbyty bob dydd oherwydd COVID-19 dros y saith diwrnod nesaf. Lluniodd Jiajun adroddiad trwy gyfrwng Bookdown gan ddefnyddio R ac, i’r diben hwnnw, paratoi rhagolygon a gwerthuso cywirdeb gwahanol ddulliau rhagolygu.

Llwyddiannau academaidd

Caiff Jiajun $100, tystysgrif cyflawniad gan y sefydliad ac aelodaeth ohono am flwyddyn yn rhad ac am ddim.

Mae Sefydliad Rhyngwladol y Rhagolygwyr yn un dielw a ddechreuodd ym 1982 ar gyfer helpu i gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio gwybodaeth am ragolygu.

“Rwy’n falch o fod wedi cael y wobr hon, a chael fy nghydnabod gan fy nhiwtor ac IIF! Er bod y cwrs rhagweld yn dalcen caled, dysgais lawer am ddefnyddio R a mireinio fy sgiliau dadansoddi data. Rwy’n hyderus y bydd y dalent hon a’r adnoddau defnyddiol gan IIF o ddefnydd yn fy ngyrfa a’m bywyd personol yn y dyfodol.”
Jiajun Ma, MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.