Mynd i'r afael ag argyfyngau’r gadwyn gyflenwi
1 Mawrth 2022
Y pwnc a drafodwyd mewn digwyddiad Hysbysu dros Frecwast diweddar oedd archwilio sut y gall arloesedd digidol blockchain a Deallusrwydd Artiffisial helpu i dorri drwy argyfyngau yn y gadwyn gyflenwi.
Trafododd Dr Yingli Wang, Athro mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau, a John Barker, Cyfarwyddwr Cyswllt Partneriaethau Strategol Simply Do, y llu o argyfyngau cadwyn gyflenwi sy’n digwydd ar hyn o bryd a’r effaith y maent yn eu cael ledled y byd, megis oedi o ran stoc mewn archfarchnadoedd.
Gyda'i gilydd, buont yn archwilio sut mae defnydd integredig o blockchain a deallusrwydd artiffisial yn gallu helpu sefydliadau i adeiladu sylfaen gadwyn gyflenwi fwy amrywiol, a sut mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda Simply Do i brofi'r newidiadau hyn.
Ar ddechrau’r sesiwn, trafododd Dr Wang yr anwadalrwydd cynyddol a achosir gan y pandemig, ynghyd â ffactorau eraill gan gynnwys trychinebau naturiol a phrinder yn y gadwyn gyflenwi, a'r gwendidau y maent yn eu hachosi.
O ran sut y byddai sefydliadau yn lliniaru'r gwendidau hynny, archwiliodd y strategaethau y gallai sefydliadau eu defnyddio, gan gynnwys y defnydd cynyddol o offer digidol, gan gynnwys rhagweld y galw, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.
“O ran y portffolio ehangach o fentrau digidol, rydym yn dechrau gweld llawer o fuddsoddiad mewn ymdrech i adeiladu gwelededd y gadwyn gyflenwi. Pan fydd y cynhyrchion yn gadael y warws neu gyflenwr yna mae gennych welededd amser real i ble maen nhw, beth sy'n digwydd iddyn nhw; felly gallwch ddatblygu dull ymateb llawer mwy rhagweithiol pan fydd tarfu'n digwydd.”
Yn ystod y sesiwn, edrychodd John Barker ar y ffyrdd y mae Simply Do, platfform rheoli arloesedd, wedi dod â busnesau â sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd ynghyd i greu cynnyrch newydd i sbarduno arloesedd.
“Yn Simply Do, rydyn ni'n blatfform rheoli arloesedd, yn cymryd heriau strategol mawr ac yn eu trosglwyddo i ddarparwyr datrysiadau. Rydym yn gweithio gyda gweithwyr o fewn sefydliad i ddatblygu a gwella cynnyrch, prosesau a gwasanaethau.”
Rhannodd John rai enghreifftiau llwyddiannus o'r cydweithrediadau hyn, gan gynnwys partneriaeth rhwng GIG Cymru a'r hwb gwyddorau bywyd i wella'r broses o gaffael cyfarpar diogelu personol a chynhyrchion eraill sy’n gysylltiedig â COVID-19.
Gwyliwch recordiad llawn o'r digwyddiad.
Mae Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.